Yn aml iawn cyfeirir ati fel carol draddodiadol Americanaidd, sef Deck the Halls. Ymddangosodd y d么n gyntaf ym 1760 mewn casgliad A Collection of Welsh, English and Scottish Airs o waith John Parry, Rhiwabon y Telynor Dall. Gwr o ardal Nefyn a ddaeth yn un o delynorion blaenllaw Prydain, ac a fu'n delynor Syr Watkin Williams Wynn yn Wynnstay, Rhiwabon.Yn y ddeunawfed ganrif defnyddiodd Mozart yr alaw ar gyfer deuawd i biano a feiolin. Mae'r geiriau o waith Ceiriog yn rhai dra cyfarwydd i'r mwyafrif o Gymry.
Oer yw'r gwr sy'n methu caru,
Fal la- la. la. la, la, la,
Hen fynyddoedd annwyl Cymru,
Fal la- la. la. la, la, la,
Iddo ef a'u c芒r gynhesaf
Fal la- la. la. la, la, la,
Gwyliau llawen flwyddyn nesaf,
Fal la- la. la. la, la, la.
Mae'n amlwg i'r d么n groesi'r Iwerydd ac ym 1881 ymddangosodd fersiwn Saesneg yn y Franklin Square Song Collection, gan J.P. McCaskey dan y teitl, Deck the Halls.
Deck the halls with boughs of holly,
Fal la- la. la. la, la, la,
Tis the season to be jolly,
Fal la- la. la. la, la, la,
Ymhen dim ymledodd y g芒n fel t芒n gwyllt ledled yr Unol Daleithiau a deil yn ffefryn hyd heddiw. Un rheswm a gynigir am ei phoblogrwydd yw iddi ddod i'r amlwg yn yr America tua'r un adeg 芒'r llyfr, A Christmas Carol gan Charles Dickens a gyhoeddwyd ym 1843. Ar y pryd roedd Washington Irvine, yr awdur a hanesydd, yn gweithio'n ddygn i greu cytgord rhwng yr "Hen fyd" a'r "Byd Newydd". Un peth a wnaeth oedd disgrifio a gorfoleddu am lawenydd arferion Nadolig Lloegr. Roedd Deck the Halls yn ddelfrydol i'w bwrpas.
Er i'r d么n gael ei defnyddio fel carol, geiriau hollol seciwlar sydd iddi. Oni bai am y gair Yuletide, nid oes unrhyw gyfeiriad crefyddol ynddi. Serch hynny fel, c芒n Nadolig yr ystyrir hi fel arfer. Yn ddiamau mae'r d么n yn un siriol a llon ag yn gweddu i'r dim i ddatgan llawenydd y tymor.
Ni chollodd y d么n ddim o'i phoblogrwydd dros y blynyddoedd a chaiff ei defnyddio'n ddiddiwedd ar draws yr Unol Daleithiau i werthu nwyddau dros gyfnod y Nadolig. Mae cynhyrchwyr bob dim dan haul bron yn defnyddio'r d么n gan newid y cyfeiriad at ganghennau'r celyn i ba beth bynnag y mynnent werthu.
Er enghraifft mae un fersiwn yn annog y gwrandawyr i beidio defnyddio celyn naturiol. Yn 么l yr hysbysebwr defnydd pigog a pheryglus yw. Llawer gwell fuasai defnyddio yr addurniadau ffug a gynhyrchir gan ei gwmni!
Yn llythrennol mae cannoedd o fersiynau ar gael ar y We yn annog y gwrandawyr i brynu bob dim o addurniadau Nadolig i nwyddau adeiladu.
Mae dros ddwy ganrif ers pan gyhoeddwyd y g芒n gyntaf ac mae'r hen d么n wedi teithio'n fywiog a llawen oddi amgylch y byd, ac yn dal i wneuthur hynny.
Tybed be fuasai sylwadau'r hen delynor a'i chyhoeddodd gyntaf?
Tom Parry