´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Dilys ar lan y môr gyda Capten Harri Gŵyl y Banc
Medi 2008

Dilys ar lan y môr gyda 'Capten Harri '

Trefnwyd penwythnos arbennig i gofio sut roedd y dref yn ystod y 40au.

Dydd Sadwrn

Ar y Sadwrn roedd nifer o stondinau'r elusenau o dan yr arcêd a'r hen siop Bartles yn llawn o bob math o bethau am yr hen amser hyd yn oed lein ddillad gyda'r geiriau "Siegfried Line".

Cafwyd brechdanau Spam a jeli a blancmange yn y caffi - roedd yn brysur drwy'r dydd.

Y r un oedd y stori ar lan y môr gyda'r caffi yn brysurach nag erioed.

Nos Sadwrn cynhaliwyd cabaret a dawns yn y neuadd gyda Calum yn canu, hefyd merch o Loegr, Fiona Harrison. Roedd y lle yn orlawn.

Gwelwyd jîps a thanciau yn mynd o gwmpas trwy'r penwythnos a merched a dynion wedi eu gwisgo mewn dillad rhyfel o Brydain, America a'r Almaen.

Dydd Sul

Bore Sul aeth nifer i lan y môr i weld y milwyr wrth eu gwaith ac yn y prynhawn daeth nifer fawr at y gofgolofn i wasanaeth byr gyda Fiona yn cynrychioli'r Cyngor, Enid dros yr eglwysi a Bill, fel un a fu yn Korea ac yn cynrychioli'r rhai a fu yn y rhyfel, yn gosod tusw o'r pabi coch ar y gofgolofn tra clywyd swn y pibydd yn y cefndir.

Daeth y Sul i ben gyda chyngerdd gan 'Happy Faces' - cwmni sydd yn gweithio'n galed i godi arian at elusennau plant, ac eto roedd y neuadd yn llawn a phawb wedi mwynhau.

Dydd Llun

Diwrnod prysur gyda ambell i stondin a gweithgareddau ar y prom. Daeth y penwythnos i ben tua 3 o'r gloch gyda swn y 'Last Post'.

Roedd nifer o'r merched, a rhai o'r dynion a phIant wedi gwisgo'n addas i gofio'r 40au - ffrogiau, hetiau, 'snoods' sana nylon hefo 'seam' lawr y cefn - Dod ag v atgofion plentyndod yn ôl.

Vivienne Mooney, un o'n cynghorwyr oedd yn arwain y gweithgareddau ac mae'n rhaid canmol y tîm cyfan am eu gwaith dros yr Ŵyl.

Rhaid i mi gyfaddef nad wy'n rhy hoff o bethau fel hyn ond cefais fwynhad mawr o fod yno ac yn llawn canmoliaeth o'r gwaith wnaed.

Enid M Williams, gohebydd Penmaenmawr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý