Yn y llun mae Wynford Jones, Meirion Jones ac Arthur Kenrick ac yn y rhes flaen mae Elan, Dafydd a Catrin, ŵyr ac wyresau Wynford.
Pan oedd hi'n bedwar mis ar bymtheg oed bu Elan yn sâl iawn yn Ysbyty Glan Clwyd a darganfuwyd bod clefyd siwgr arni. Clefyd siwgr Math 1 sydd ar Elan sydd yn golygu ei bod yn dibynnu ar chwistrelliad o inswlin o leiaf ddwy waith y dydd. Yn ogystal, mae'n rhaid monitro lefel y siwgr sydd yn ei gwaed o leiaf bedair gwaith y dydd, ac yn aml iawn rhaid gwneud hynny drwy'r nos hefyd.
Mae clefyd siwgr yn effeithio ar dros ddau filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig, ac mae dros 750000 mwy yn anymwybodol bod y clefyd arnyn nhw.
Bob pum munud mae unigolyn arall yn darganfod bod clefyd siwgr arno ac mae'r nifer o blant dan bump oed a chlefyd siwgr Math 1 wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Yn y pymtheg mlynedd nesaf, mae ymchwil yn dangos bod y nifer o bobl ar draws y byd sydd a'r clefyd hwn arnynt yn debygol o gyrraedd 230 miliwn.
Bydd taith feicio'r criw yn cychwyn ar lan Môr Iwerydd yn Ffrainc ac yn gorffen ar lan Môr y Canoldir yn ne-ddwyrain Ffrainc a'r pwrpas yw codi arian i gefnogi gwaith Diabetes UK. Mae Diabetes UK yn ariannu ymchwil i glefyd siwgr ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd sy'n ymdopi â'r salwch.
Ar y siwrne bydd y criw yn galw mewn sawl lle diddorol. Un o'r trefi mawr cyntaf ar y daith yw Bordeaux ac mae'r ddinas brydferth hon newydd gael statws Safle Treftadaeth Byd.
Wedyn, cyhyd â bod y cyhyrau a'r cymalau'n caniatáu, bydd y criw yn ymweld â Carcassonne. Mae'r dref yma'n ddiddorol am fod ganddi lawer yn gyffredin a Chonwy. Mae castell yn ganolbwynt i'r dref ar y bryn ac o'i chwmpas mae muriau cadarn. Hefyd, mae tystiolaeth hanesyddol fod Carcassonne a Chonwy yn rhannu'r un pensaer, sef lago o San Siôr.
O Carcassonne bydd y daith yn mynd i Toulouse ac yn dilyn y Canal du Midi i arfordir Môr y Canoldir. Wrth gyrraedd yr arfordir yn Narbonne, bydd y siwrne'n troi tua'r De ac yn dilyn yr arfordir nes bod y teithwyr yn cyrraedd pen y daith yn Perpignan. Bydd y daith dros 500 milltir o hyd.
|