Ond mae rhannau o New Orleans yn dal i fod o dan ddŵr. Mi gymerith fisoedd, os nad blwyddyn neu ddwy, cyn i'r taliadau yswiriant gael eu bancio a hyd yma does fawr o argoel
pryd y daw taliadau swmpus i bobl adeiladu tai a busnesau newydd.Beth ydy hyn i Ddyffryn Conwy? Wel ydy, mae New Orleans yn bell, ac acen Texas yn anodd i'w deall. Anodd hefyd amgyffred cryfder stormydd fel Katrina a Rita i ni yng Nghymru, ac eto, mae trigolion Trefriw a Llanrwst wedi cael blas o elfennau natur yn eu bywydau nhw'n ddiweddar.
Felly, am yr ail waith o fewn mis, waeth imi gyfaddef yn gyhoeddus bod gen i ddiddordeb penodol yn y llifogydd a'r dinistr yn New Orleans. Mae fy mrawd Bedwyr yn byw yno.
Mi
wnaeth un sgwrs gymaint o argraff arna i wedi wythnos o'i ffonio am yn ail noson, fel imi holi'i ganiatâd i recordio beth roedd yn ei ddweud am y torcyfraith, am ddiffyg arweiniad yr awdurdodau, ac am faint y difrod. Mi ddarlledwyd rhan o'r sgwrs honno ar Y Post Cyntaf ar Radio Cymru - ar ôl trafod yn hir gyda fy nghyd-ohebwyr a ddylien ni ddarlledu sgwrs rhwng dau frawd ar raglen newyddion.
Mi wnaethon ni, gan bod yr amgylchiadau'n unigryw, a chynnwys y sgwrs yn dadlennu'r anrhefn yn un o ddinasoedd enowocaf America.
Fel cynifer o'i gyfeillion a'i gydnabod, fe benderfynodd Bedwyr aros yn New Orleans yn lle ffoi i Texas, Alabama neu ble bynnag. I Gymro filoedd o filltiroedd o'i gartref, ble arall allai fynd? Ac am faint? Wedi byw yno ers 1989, mi baratodd yn ofalus ar gyfer tymor y corwyntoedd. Cadwai alwyni o ddŵr croyw a thuniau bwyd gyda bagiau pasta a reis yn ei dŷ. Mi wrandawodd ar yr adroddiadau tywydd, a sylweddoli - yn wahanol i ddegau o filoedd o drueiniaid di-addysg - bod storm a hanner ar y gorwel.
Wnaeth o ddim ymfudo chwaith, gan fod strydoedd ger ble mae'n byw yn Chwarter Ffrengig New Orleans, yn sych, ac heb gael eu boddi gan lifogydd budr y Mississippi na dyfroedd llyn Pontchartrain. Ond hyd yn oed rŵan gyda thrydan wedi ei ail gysylltu, a dŵr ar gyfer golchi a thai bach - ond nid i yfed - wedi ail gysylltu, mae arafwch llywodraeth leol, a llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau, yn anodd ei ddeall.
Mi gymerith tua dau can biliwn o ddoleri, mae'n debyg, i drwsio effaith cynddaredd C Corwynt Katrina. Ac er na fydd Bedwyr - medda fo - yn gadael, mae'n gwestiwn arall a fydd tref parti a Mardi Gras Louisiana, fyth yr un peth eto.
Iolo ap Dafydd.