´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Rhan o'r adeilad newydd Grym i'r Gyffordd
Gorffennaf 2009
Er pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae yna gwyno cyson fod y cyfan yn digwydd yng Nghaerdydd ac yn amherthnasol, yn aml, i ni yn y gogledd.

I geisio gwneud iawn am hyn dyma beth mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru yn ei ddweud mewn taflen 'Gyflwyno' oedd ar gael pan oedd safle Y Gyffordd yn agored i'r cyhoedd dydd Sadwrn Mehefin 6ed.

"Mae swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ymfalchïo ynddo.

"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddod a'i gwasanaethau yn nes at bobl Cymru.

Rydym am gael presenoldeb clir a gweladwy led led Cymru gyfan".

Yn yr un daflen cyfeirir at yr ymrwymiad wnaed i sefydlu'r canolfannau newydd yma, tair i gyd; ym Merthyr Tudfil, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.

Swyddfa Cyffordd Llandudno fydd y fwyaf y tu allan i Gaerdydd ac mae wedi ei lleoli ar hen safle ffatri Hotpoint.

Bydd yma waith i bobl sydd yn gweithio yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, swyddi sy'n adleoli o Gaerdydd ac hefyd rai swyddi newydd.

Cyfeirir at rai o nodweddion yr adeilad newydd gan bwysleisio fod pob ymdrech wedi ei gwneud i ganfod deunydd lleol ar gyfer pob agwedd o'r gwaith. O dan y teitl cynaladwyedd pwysleisir fod creu canolfan oedd yn rhad ar ynni yn un o'r ystyriaethau pennaf pan yn cynllunio'r swyddfeydd yma.

Mae'r adeilad yma, sydd fwy neu lai ar gyffordd yr A55 a'r A470 ac a chysylltiadau da a'r rheilffordd mewn safle delfrydol i wasanaethu Gogledd Cymru.

Does dim dadl nad yw canolfannau addas yn cyfrannu'n sylweddol at effeithiolrwydd unrhyw sefydliad a gobeithio y bydd y swyddfeydd newydd o help gwirioneddol i ddod a "gwasanaethau'n nes at y bobl".

Ond nid ffurf a gwedd adeilad, na'i leoliad hyd yn oed, yw'r prawf a yw adeilad yn cyflawni'r hyn a ddisgwylir ganddo.

Cyd ddigwyddiad oedd y ffaith fod y cyhoedd wedi cael eu gwahodd i ymgyfarwyddo ag adeilad newydd "Y Cynulliad" ac fod y "SUT YDYCH CHI'N MEDDWL Y DYLAI CYMRU WE YN Y DYFODOL?" wedi ei dosbarthu gyda rhifyn Mehefin o 'Y Pentan'.

Os nad yda chi wedi darllen y daflen eisoes cofiwch wneud.

Yr hyn sydd fwyaf amlwg yn ei chynnwys yw faint o hawlia gan Westminster dros holl faterion Cymru, hyd yn oed yr ugain sydd wedi eu datganoli.

Pan ddaw'r refferendwm, os daw un, fe gawn gyfle i ddatgan barn. Oes angen newid pethau ai peidio?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý