´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Jean Morgan Roberts y tu allan i;w siop gelf yng Nghonwy Cymeriadau yr ardal
Chwefror 2007
Cafodd Jean Morgan Roberts ei swyno gan waith artistiaid er pan oedd yn blentyn ifanc iawn.
Fe'i ganed, yn y "Black Lion", adeilad hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg, i un o hen deuluoedd Conwy.

Arferai fynd i arddangosfeydd y "Cambrian" yn Plas Mawr dafliad carreg o'i chartref a hithau'n ddim ond plentyn.

Methai amgyffred sut y gallai unrhyw un greu golygfeydd mor rhyfeddol ar bapur a chynfas ac yn fuan lawn dechreuodd drin paent ei hun, a dyna oedd i gychwyn pethau.

Fu Jean erioed yn agos i goleg celf ond yn fuan dechreuodd baentio rhai o'r golygfeydd cyfareddol sydd i'w cael o amgylch tref Conwy.

Yn ddiweddarach agorodd siop gelf yn Stryd y Castell, gyferbyn â'r "Black Lion".

Ychydig iawn o amser aeth heibio cyn i'r ardalwyr ac ymwelwyr a'r dref ddechrau gwirioni ar ei gwaith ac roedd mynd mawr ar y lluniau.

Ers y dyddiau cynnar rheini mae Jean wedi crwydro yma ac acw i fwydo ei hoffter o gelfyddyd gain ac wedi paentio golygfeydd dramatig mewn gwledydd fel De America a Patagonia yn arbennig.

Ryda ni'n arfer ei chysylltu i thirluniau lleol, adeiladau yn bennaf, yng nghyffiniau Conwy a mannau eraill yng Ngogledd Cymru, ond mae llyfr o'i heiddo a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni gan Wasg Carreg Gwalch ychydig yn wahanol.

Un o'r cymeriadau lleol cyntaf i Jean ei phaentio oedd Eileen Rhodes a arferai weithio yn "Y Ty Lleiaf" ar y cei yng Nghonwy.

"Nid ei phaentio yn derbyn arian yr ymwelwyr wnes i, fe rois i droell wrth ei hochr" meddai Jean.

Ychydig yn ddiweddarach paentiodd bortread o Peggy Rowlands yn ei gardd oedd o fewn i furiau'r dref.

Arferai Peggy a'i gwisgoedd lliwgar ynghyd â'i chasgliad o ddoliau oedd i'w gweld yn ffenestr ffrynt ei chartref ar y ffordd i lawr i'r cei swyno ymwelwyr a Chonwy, dros y blynyddoedd.

Roedd yr hedyn wedi ei blannu ac yn raddol datblygodd y syniad o greu cofnod o gymeriadau lleol ynghyd â phobl oedd a chysylltiad a'r ardal.

Fe lwyddodd i berswadio rhai o'r rhain i ganiatau iddi baentio portread ohonynt ac hefyd roi braslun o hanes eu bywyd ,a'u diddordebau.

Yn raddol adeiladwyd ffolio o chwech ar hugain o bortreadau a rhain fydd yn ymddangos yn y llyfr.

Mae Jean yn ddysgwraig lwyddiannus ac yn gefnogol iawn i'r Pentan. Gwerthir nifer fawr o rifynnau yn ei siop bob mis.

Os oes artist yn unman yn haedda cysylltiad ag ardal, Jean yw honno. Byddai "Artist Conwy" yn deitl haeddiannol iddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý