´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Lonydd yn afonydd yn Eglwysbach Afon Conwy'n llifo'n filain
Ionawr 2005
Am yr eildro mewn llai na blwyddyn bu llifogydd difrifol yn ardaloedd Llanrwst a Threfriw.
A hwythau newydd gael trefn ar atgyweirio'r difrod yn dilyn dilyw Chwefror y llynedd, llifodd dyfroedd yr Afon Gonwy i dai'r trigolion yn y ddwy ardal gan ddifrodi eu heiddo unwaith yn rhagor.

Ymddengys bod y cwmnïau yswiriant yn gwrthod ag ystyried ceisiadau i'w digolledu gan eu bod yn disgyn o fewn cyfnod o lai na blwyddyn. Oherwydd hyn mae perchnogion y tai a ddioddefodd effaith y llifogydd diweddaraf yn anobeithio ac yn teimlo y byddant yn garcharorion yn eu heiddo am ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw un yn fodlon eu prynu petaent yn eu rhoi ar y farchnad.

Afon ConwyDdydd Sadwrn, drannoeth y llifogydd, ymwelodd yr AS Elfyn Llwyd, y Cynghorwyr lan Jenkins a Sian Lloyd Jones, yn ogystal â'r Cynghorydd Angharad Booth Taylor, sy'n aelod o gabinet Cyngor Conwy, â'r trigolion a ddioddefodd effeithiau'r dŵr.

Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd Elfyn Llwyd y byddai'n codi'r mater yn y Senedd ddydd Mercher Ionawr 12fed ac yn tynnu sylw'r Prif Weinidog at broblem gorlifo Dyffryn Conwy.

Dywedodd y Cynghorydd lan Jenkins ei fod wedi cysylltu a swyddogion y Cyngor i drefnu cyfarfod brys o'r Cyngor i drafod yr argyfwng. Dywedodd y Cynghorydd Angharad Booth Taylor: "Dylid lledu yr afon i lawr y dyffryn a dyfnhau ei gwely er mwyn i'r dwr redeg yn gynt ac osgoi'r difrod sy'n cael ei beri yn Llanrwst a Threfriw Seneddol, Elfyn Llwyd, yn brwydro am gyllid ychwanegol i ariannu'r gwaith".

Pwysleisiodd y Cynghorydd Sian Lloyd Jones bwysigrwydd gweithredu'n gyflym ac apeliodd ar ei chyd-gynghorwyr ar Gyngor Conwy i'w chefnogi er mwyn goresgyn y broblem yn effeithlon ac ar fyrder.

Un eiddo a ddioddefodd, ar wahân i'r tai annedd oedd Bistro'r Tanerdy sydd ar lan yr afon ym Mro Helyg. Dywedodd aelod o Gyngor y Dref, y Cynghorydd Edgar Parry sydd â chysylltiad teuluol â'r Bistro, bod difrod i lawr isaf yr adeilad pan lifodd yr afon dros y clawdd terfyn.

Dywedodd: "Galwais am gymorth gan y Frigâd Dân ond pan ddaethant yma roeddent eisiau £350 am yr awr gyntaf, £600 am yr ail a chynnydd pellach am bob awr ychwanegol. Pan wrthodais dalu, troesant ar eu sodlau a gadael. Mae busnesau yn ystyried eu dyfodol yn ddifrifol gan nad oes unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r dyfodol".

Bu'r Cynghorwyr lan Jenkins a Sian Lloyd Jones wrthi'n ymweld â phob cwr o'r dref o'r bore bach ddydd Gwener tan fore Sadwrn gan geisio rhoi cymorth i unigolion. Roeddent hyd yn oed yn clirio gwterydd a'u dwylo mewn ymdrech i ostwng lefelau'r dŵr.

Gwir yw dweud bod y glaw yn anghyffredin o drwm ond mae'n amlwg na all y sefyllfa barhau fel ag y mae. Mae angen cydweithrediad rhwng y Llywodraeth yn Llundain, y Cynulliad yng Nghaerdydd, Cyngor Conwy ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru er mwyn llunio cynllun effeithiol fel na fydd pobl yr ardal yn wynebu'r fath ddinistr yn y dyfodol. Pan gynhelir y cyfarfod cyntaf gobeithio y daw pob cynrychiolydd ag addewid am arian sylweddol i'w bwrdd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý