´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Bryn Hughes Bowlio lawnt - tros Gymru
Medi 2003
Llongyfarchion i Bryn Hughes, hogyn ifanc 15 oed o Graig y Don, Llandudno, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Teilyngdod Ieuenctid Cymru, 2003, am fowlio dan 18 oed.

Tipyn o gamp i un mor ifanc, a ddechreuodd chwarae bowls dair mlynedd yn ôl. Dichon mai patrwm teuluol oedd yn rhannol gyfrifol am dalent aruthrol Bryn. Bu ei daid yn chwarae bowls ac yna ei dad, Gareth Hughes, y ddau ohonynt gyda chyson lwyddiant.

Enillodd Bryn, sy'n ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, le yn nhîm ieuenctid Cymru, dan 18 oed tipyn o gamp i hogyn 14 pan ddechreuodd gynrychioli ei wlad. Chwaraeodd i Gymru chwe gwaith, gan ennill 5 o'r gemau.

Mae Bryn yn ddiolchgar iawn i Gareth, ei dad, am yr hyfforddiant cychwynnol a gafodd ganddo. Trwy ddilyn ei dad ar y grîn y daeth Bryn i wir ymddiddori yn y bowlio.

Gyda'r ddau ohonynt yn nhîm cyntaf Craig y Don, maent yn mwynhau dyblu â'i gilydd, gan ennill ran amlaf.

Ni fu mam na chwaer Bryn yn chwarae bowls, ond mae'r ddwy ohonynt yn gefnogol iawn i'r tad a'r mab.

Rhoddodd llwyddiant cenedlaethol Bryn gyfleoedd newydd iddo, ac yn ogystal â buddugoliaethau lleol, teithiodd, er enghraifft, mor bell â Sheffield.

Mae ei allu i fowlio mor effeithiol wedi sicrhau tros £600 iddo'n barod, ac mae'n amlwg fod llawer mwy ar y ffordd. Er fod ei dad wedi cynrychioli Cymru lawer tro, honiad Bryn yw fod ganddo ef eisoes sawl cwpan yn fwy na dad!

Nid yw Bryn yn cyfyngu ei hun i'r bowlio yn unig. Yn ogystal â gwaith ysgol (gobeithio!) mae'n hoffi chwarae pêl-droed a chriced eto'n hynod safonol. Bu'n gefnwr canol cae i dîm pêl-droed Llandudno (dan 16) ac yn ddigon da i'w ddewis i chwarae gyda thîm Sirol Gwynedd.

Ar y cae criced hefyd fe gynrychiolodd y Sir, ac mae'n chwarae i dîm Llandudno pan fo'r bowlio'n caniatáu! Ei hoff dîm pêl-droed ydyw Manchester United, gyda Roy Keane ar y brig fel chwaraewr. Ym myd criced ei ddewis yw Mike Atherton, cyn gapten Lloegr.

Dymuniad Bryn, ar ôl gadael yr ysgol, fyddai dilyn cwrs yng Ngholeg Landrillo. Er ei lwyddiant ysgubol, nid yw'n gweld llawer o gyfle i fynd yn fowliwr proffesiynol. Pwy a wyr? Pob dymuniad da iddo, mae'n amlwg fod iddo ddyfodol disglair.

Un o'i lwyddiannau diweddar oedd ar Iain Craig y Don, pan drechodd Aaron Harrison o Brunley, ac ennill cwpan a siec arall. Clywais, gan dderyn bach lleol, am gampwaith ddiweddar Bryn sef curo dad ar y grîn! Er hynny, 'roedd neb yn gwenu mwy na dad. Braf iawn iddo oedd ymhyfrydu yn llwyddiant mab fu'n barod iawn i ddilyn hyfforddiant y tad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý