August Rush Oliver Twist yr unfed ganrif ar hugain
Y s锚r
Freddie Highmore, Robin Williams, Kerri Russell, Jonathan Rhys Meyers
Cyfarwyddo
Kristen Sheridan
Sgrifennu
Nick Castle, James V. Hart
Hyd
113 munud
Adolygiad Aled Edwards
Os am fynd allan fel teulu am ddwy awr i weld ffilm y Nadolig hwn y mae August Rush yn werth i'w gweld fel addasiad rhamantus cyfoes o stori Oliver Twist.
Y mae'r hanes yn troi o gwmpas bywyd, Evan (Freddie Highmore), bachgen 11 oed sy'n cael ei fagu mewn cartref ar gyfer plant amddifad.
Cafodd Freddie Highmore ddarnau amlwg mewn dwy ffilm arall o bwys Finding Neverland a Charlie and the Chocolate Factory.
Athrylith gerddorol
Yn August Rush mae Evan yn datgelu'n raddol ei athrylith gerddorol gynhenid. Y mae'r synau sydd o'i gwmpas yn ei alw'n 么l at ei rieni. Ei brif ddyhead yn y cartref yw cael ei ganfod gan ei rieni.
Fel yr aeth Oliver Twist i grwydro i Lundain i gyfarfod a'r Artful Dodger a Fagin, cafwyd troeon tebyg ym mywyd Evan ar wedd Americanaidd.
Yn Greenwich Village y mae'n canfod Arthur (Leon G.Thomas III) yn fachgen o'r un oed sy'n canu'r git芒r ar y strydoedd.
Oddi yno, fe'i cymerir i hen theatr sy'n llawn o blant coll dan ofal Wizard (Robin Williams), cymeriad hynod o debyg i Fagin.
Aiff Wizard ati'n syth i fanteisio ar ddoniau cerddorol Evan, sy'n meddu ar y ddawn i ganfod synau hyfryd ym mhopeth, a Wizard sy'n rhoi'r enw newydd, August Rush, i Evan y rhyfeddod cerddorol.
Troeon clyfar Nid unwaith yn ystod y trafod a'r teithio y mae Evan yn anghofio'i brif ddyhead - canfod ei fam a'i dad.
Ynghylch hyn, y mae August Rush yn cynnig troeon hynod o glyfar i'r ffilm.
Agorir y cyfan deuddeng mlynedd cyn geni Evan drwy weld Lyla Novacek (Keri Russell) a Louis Connelly (Jonathan Rhys Myers) yn mwynhau carwriaeth fer dros noson ar glawdd uchel.
Y mae'r naill yn gerddor clasurol o fri a'r llall yn ganwr pop galluog. Wedi i'r ddau gael eu gwahanu o fwriad gan dad Lyla (William Sadler) canfyddir eu bod yn feichiog ond yn fuan wedi'r geni, rhoddwyd yr argraff i Lyla i'w mab farw wrth ei eni.
Cymeriad arall o bwys yn y ffilm yw'r gweithiwr cymdeithasol, Richard Jeffries (Terrence Howard) sy'n graddol ddwyn rhai o'r cymeriadau at ei gilydd drwy ryw lwybr serendipiti difyr.
Beirniadu Dwi'n sicr y bydd sawl beirniad yn llawdrwm ar y ffilm hon gyda'i diwedd yn hollol dros y top a'r Wizard drwg yn gorfod meddu ar rai rhinweddau er mwyn caniat谩u i blant weld y ffilm o gwbl.
Ond peth o'r gerddoriaeth oedd yn mynnu dal fy sylw.
Wedi dweud hyn i gyd, dwi'n tybio y bydd cynarddegau - preteens Cymru yn mwynhau'r tameidiau o Oliver Twist, Ferris Bueller, Peter Pan a The School of Rock sy'n amlwg yn rhediad August Rush.
|
|