Rocky Balboa (2007) Dychweliad y dyrnwr
Y s锚r
Sylvester Stallone, Burt Young, Milo Ventimiglia
Cyfarwyddo
Sylvester Stallone
Hyd
102 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart Sut ffilm?
Mae deng mlynedd ar hugain ers i'r gyfres o ffilmiau am y paffiwr Rocky Balboa ymddangos gyntaf ar y sgr卯n fawr.
Dyfarnwyd y ffilm Rocky gwreiddiol fel yr un orau noson Oscars 1978.
Fe'i dilynwyd gan ffilmiau eraill yn yr Wythdegau a'r Nawdegau cynnar a dyma gyrraedd yn y chweched a'r olaf yn y gyfres lwyddiannus.
Y stori
Er bod Rocky (Stallone) yn parhau'n arwr yn ei dref ei hun, Philadelphia, mae wedi hen adael y byd paffio ac yn rhedeg bwyty Eidalaidd.
Bob nos mae'n diddanu'i gwsmeriaid gyda'i straeon am y bywyd a fu ac yntau'n bencampwr paffio'r byd.
Gwelwn ei fod yn ddyn unig iawn a'i wraig, Adrian, wedi marw o gancr a'i fab sydd wedi cael llond bol ar fywyd yng nghysgod Rocky yn ymbellhau oddi wrtho.
Er mwyn creu rywfaint o ddiddordeb mewn chwaraeon oedd yn dioddef o ddifaterwch mae'r byd paffio a'r cyfryngau yn defnyddio technoleg i greu sefyllfa dychmygol lle mae cyfrifiadur yn gosod pencampwr pwysau trwm y byd yn erbyn un o bencampwyr mwyaf llwyddiannus y gorffennol, Rocky.
Yn yn yr ornest ddychmygol hon, mae'r arbenigwyr yn dyfarnu mai Rocky fyddai'n fuddugol.
Gyda diddordeb enfawr yn yr arbrawf mae'r trefnwyr yn llwyddo i ddwyn persw芒d ar Rocky i gamu'n 么l i'r cylch unwaith yn rhagor ar gyfer bowt arddangos gyda'r pencampwr presennol.
Y canlyniad
Wrth edrych ar y gyfres o ffilmiau yn ei chyfanrwydd hon, yn sicr, yw'r un fwyaf aeddfed a'r stori yn amlwg yn fywgraffiad rhyfeddol o onest am fywyd Stallone yn actor.
Rhaid ei ganmol am fod mor agored.
Mae hefyd yn ddrama wedi ei hysgrifennu yn ofalus iawn gydag ambell i linell ddoniol iawn.
Trueni felly am y gwendid mwyaf yn y paffio a'r methiant i greu golygfeydd credadwy a realistig yn y cylch.
Mae'n rhyfeddol nad yw Rocky wedi dysgu codi ei arddyrnau i amddiffyn ei wyneb rhag ergydion ac yntau wedi cael cymaint o brofiad dros y blynyddoedd!
Byddai wedi arbed cryn dipyn ar ei wyneb!
Yn wir, pe byddai Stallone wedi hepgor yr ymladd i gyd, byddai hon yn ffilm wych - ond wedyn fyddai Rocky ddim yn Rocky ychwaith heb y gwaed a'r chwys!
Rhai geiriau "Tydi bwyd Eidalaidd wedi ei goginio gan Fecsicaniaid ddim yn arbennig" meddai Paulie wedi i Rocky ddweud, "Tyrd, Paulie, 'da ni ar fin cael bwyd arbennig."
"Mae lot fawr o bobl yn dod i Las Vegas i golli. Wnes i ddim," meddai Rocky wrth ei wrthwynebydd yn y ffeit fawr.
Hyfforddwr Rocky yn siarad yn blaen wrth lunio strategaeth hyfforddi: "I guro'r boi yma, ti angen cyflymder. Does gen ti ddim cyflymder. Mae gen ti galch wedi hel o amgylch dy gymalau, felly does dim gobaith i ti sbario. Beth ti angen felly yw nerth taro rhyfeddol."
Ambell i farn Roedd Timeout yn feirniadol iawn: "Dyw hyd yn oed ewyllys da dim yn medru gwneud i hwn i edrych fel unrhyw beth mwy na ffilm deledu. Oni ddaeth hi'n amser i'r gynulleidfa daflu'r lliain i mewn?"
Roedd Empire gryn dipyn mwy cadarnhaol: "Dyw Rocky Balboa ddim yn agos at fod yn un o ffilmiau gorau 2006 ond gwelais lawer iawn o ffilmiau gwaeth yn ystod y flwyddyn. Dylai pob ffan Rocky wylio'r ffilm hon."
Mwy o ganmoliaeth fyth gan Total Film Magazine: "Dyma'r Rocky Balboa yr oeddech yn disgwyl amdano, yn breuddwydio amdano, a gorfoledd personol hynod i Stallone. Dewch 'mlaen a Rambo IV!"
Perfformiadau Mae Stallone wastad yn hoffus iawn pan yw'n chwarae cymeriadau sy'n ymladd yn erbyn anfantais a dyw'r tro hwn ddim yn eithriad.
Roedd yn eithriadol o dda yn y ffilm Copland rai blynyddoedd yn 么l acrwy'n gwir obeithio y bydd Rocky Balboa yn ail enedigaeth wirioneddol ei yrfa.
Anodd dweud os yw perfformiad Burt Young fel Paulie yn un da gan iddo fynd yn gynyddol ddychanol o'i gymeriad yn y Rocky cyntaf. Er nad yn actor gwych bu'n side-kick digon derbyniol i Rocky dros y blynyddoedd.
Darnau gorau Mae pawb sy'n hoffi Rocky yn disgwyl y montage o olygfeydd paratoi ar gyfer ffeit - gyda'r gerddoriaeth hyfforddi eiconig yn chwarae yn ystod y rhedeg, sgipio a'r waldio bagiau.
Er bod y golygfeydd bron yn union yr un fath ym mhob ffilm mae groeso cynnes iddyn nhw bob tro!
Yn ystod y teitlau olaf, gwelwn amrywiaeth o bobl o bob lliw a llun yn gwatwar Rocky drwy redeg i fyny'r grisiau a neidio i'r awyr y tu allan i'r Amgueddfa Gelf yn Philadelphia, lle ffilmiwyd yr olygfa enwog yn y ffilm wreiddiol n么l yn 1975.
Gwerth ei gweld?
Er nad yw hon yn glasur o bell ffordd mae'n plesio'n fawr iawn rai fel fi sydd wedi tyfu'i fyny gyda'r gyfres.
Ac er gwaetha'r waedd sarhaus a ddaeth o'r wasg pan glywyd am y stori hon gyntaf cael ei chanmol a'i derbyn wnaeth y ffilm gan bron bawb.
Mae hynny ynddo'i hun yn fwy o gamp na'r hyn a wnaeth Rocky Balboa ei hun yn y cylch paffio!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|