The Painted Veil Golygfeydd lliwgar cymeriadau llwyd
Y sêr
Edward Norton; Naomi Watts; Lieve Schreiber; Diana Rigg
Cyfarwyddo
John Curran
Hyd
125 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Drama wedi ei selio ar nofel gan W. Somerset Maugham wedi ei gosod yn China yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf.
Mae hefyd yn un o'r ffilmiau cyntaf erioed i gael ei chynhyrchu rhwng Hollywood a chwmni o China.
Dyma'r ail addasiad o'r nofel yn dilyn ffilm gyda Greta Gabo yn y Tridegau.
Y stori
Yn feddyg sydd eisiau priodi cyn mynd i weithio yn China mae Walter Fane (Norton) yn gofyn am law Kitty (Watts) sy'n ferch i un o'r foneddigion Llundain.
Ond oherwydd gofynion cymdeithasol y cyfnod rhaid i Kitty ei briodi er nad yw hi mewn cariad ag ef.
Wedi i'r ddau ymsefydlu yn Shanghai, mae Kitty yn cael perthynas gudd gyda Charlie Townsend (Schreiber) sy'n ŵr busnes priod o America.
Caiff Kitty ei chamarwain gan Townsend i feddwl y byddai'r ddau yn ffoi gyda'i gilydd er nad oes ganddo fo fwriad gadael ei wraig.
Drwy hyn oll, roedd Walter yn gwybod yn iawn i'wi wraig fod yn anffyddlon.
Yn hytrach na'i gadael, mae Walter yn penderfynu mynd a hi gydag ef i bentref lle mae epidemig colera yng nghefn gwlad China.
Y canlyniad
Ffilm sy'n lawer rhy hunan gyfiawn ac yn amlwg wedi ei gwneud gyda'r syniad o ennill Oscars dirifedi.
Ond y gwir yw, dyw hi ddim digon pwerus a theimladwy i fod yn agos at ennill un o wobrau mwyaf y byd ffilm.
O'r pwynt maent yn cyrraedd y pentref yng nghefn gwlad Tsieina, mae'r stori y tu hwnt o ragweladwy a diflas.
Ambell i farn
• Dywed Variety nad yw lleoliadau deniadol a sgript ddeallus yn ddigon i wneud hon yn ffilm fodern.
• Dywed y Guardian fod "...un neu ddwy o linellau'r ffilm yn amlwg wedi eu creu i apelio at hunan werth cyfoes China, ond ar wahân i hyn mae'n bwerus dros ben."
Rhai geiriau
• "Pam wyt ti'n flin 'da fi?" medde Kitty. "Dwi'n flin oherwydd fy mod i wedi gadael i mi fy hun dy garu di," meddai Walter.
Perfformiadau
• Gwelais goed derw llai prennaidd na Norton a Watts.
• Ni ellir cydymdeimlo â chymeriad Norton y rhan fwyaf o'r ffilm.
• Cawsom berfformiad gwell gan Naomi Watts. Hi chwaraeai'r cymeriad mwyaf ffaeledig - ond . . .
• Braf gweld hen seren yn dwyn y sioe bob tro y mae ar y sgrîn.
Gwerth ei gweld?
Mae'n bosib y bydd yn apelio at genhedlaeth arbennig sy'n hoffi ffilmiau sy'n edrych yn neis ond heb lawer yn digwydd ynddynt.
Ond nid fydd y golygfeydd godidog yn cadw pawb ar ddihun.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|