Der Untergang Dyddiau olaf Hitler
Adolygiad gan Martin Williams
Nid oes prinder ffilmiau du a gwyn Saesneg - a hynny mewn mwy nag un ffordd - parthed Yr Ail Ryfel Byd ac os oedd hygrededd a dilysrwydd yn un o brif amcanion ffilmiau gan Brydain Fawr (ac mae arna i ofn bod hi'n hen bryd dileu'r mawr trahaus a dyddiedig) yn ystod 50au a 60au'r ganrif ddiwethaf, yna mae sawl un, hefo 'Almaenwyr' yn siarad Saesneg mewn acen ryfedd, wedi methu.
Dichon yn wir mai dilysrwydd yw prif gryfder Der Untergang - ffilm Almaeneg sy'n adrodd hanes dyddiau olaf Hitler ac, o bosib, bennod olaf stori dywyllaf dynolryw.
Perfformiad Ganz Bruno Ganz is superb yw barn The Times ar gefn y bocs DVD.
Efallai nad yw'n 顿辞辫辫别濒驳盲苍驳别谤 perffaith ond clod dyledus, dyma'r unig wendid y gallwn ddod o hyd iddo.
Uchelbwyntiau (os dyna'r gair priodol o gofio'r Verbrecher erchyll yma) yw perfformiad Ganz: Arthio o thantro'r rhyfelgi yn wyneb yr ildiad anosgoadwy.
Ia, wel - trueni na fyddai pob academi filwrol yn, ac wedi, dysgu pob milwr sut i ddefnyddio cyllell a fforc - a dim byd arall!
Ni fyddai actor salach na Ganz wedi llwyddo i draddodi / actio'r frawddeg syfrdanol dan sylw (yr un fwyaf eironig yn y ffilm?) mewn ffordd gredadwy.
Do, fe grychais fy nhalcen ar 么l gwylio'r olygfa am y tro cyntaf, ond nid oherwydd unrhyw actio gwael!
'Rwyf eisioes wedi crybwyll y gair 'rhyfelgi'. Sylwer fel na all Hitler edrych ar ei ast ffyddlon, Blondi, wrth iddi gael ei lladd. Iaith gorfforol effeithiol a chyfarwyddo da gan Oliver Hirschbiegel. Llun agos o wyneb Hitler er mwyn creu golygfa hynod o ddramatig a dros ben llestri? Dim diolch. Cynildeb. Less is more. Ia, rhyfelgi dan deimlad pan laddwyd ei gi. Ond beth am y miliynau o bobl a laddwyd yn ystod y rhyfel?!
Bwystfil, clown, gwalgofddyn a dyn cwrtais Diau y byddai rhai'n ddigon gwirion i feirniadu'r ochr digon dynol ac agos atoch hon i Hitler yn y ffilm e.e. y ffordd mae'n trin ei ysgrifenyddes breifat, Traudl Junge.
Mae'n amlwg bod Bruno Ganz (wrth gloriannu ei berfformiad a'r cyfweliad sy'n rhan o'r Special Features ar Ddisg 2) yn deall mai person, er gwaethaf ei droseddau anfaddeuol yn erbyn dynoliaeth, oedd Hitler.
Bwystfil, clown a gwallgofddyn yn lythrennol o uffern ynteu Nazi brwnt tri dimensiwn a oedd yn gallu bod yn ddigon dymunol a chwrtais pan fo angen?
Darlun cytbwys ac aeddfed o hierarchaeth y Nats茂aid yn ystod y dyddiau olaf heb eu mawrygu. Yndi, mae'r sgript a'r actorion (perfformiadau gwych gan Ulrich Matthes fel Joseph Goebbels a Corinna Harfouch fel Magda Goebbels - dynes ryfedd a dweud y lleiaf - penodau 26, 29 a 31) yn llwyddo.
Parti Eva Braun. Dwn i ddim be i'w ddweud am y bennod yma. Rhyfedd o fyd!
Cerddoriaeth When I Am Laid In Earth allan o Dido & Aeneas gan Henry Purcell - pennod 13. Dyfnder a dwyster. Dewis perffaith.
Faint sydd wedi gwylio? Os oes ffilm well na hon o ran pwysleisio mewn ffordd gymharol gynnil (Cert. 15 yw hi wedi'r cyfan!) pa mor beryglus y gall unbeniaid gwledydd pwerus sydd gant y cant yn sicr o gyfiawnder eu daliadau fod yna nid wyf wedi ei gwylio.
Tybed faint o wleidyddion Ewropeaidd Brwsel ac arweinyddion gwael y byd sydd wedi ei gwylio? Afraid dweud na all un ffilm newid y byd. Ond mae hi wedi gwneud llawer iawn mwy o les nag o ddrwg yn Yr Almaen (cam ymlaen i'r Bundesrepublik) a thu hwnt.
Yn rhyfedd ddigon, ac er cystal y ffilm, cefais fymryn mwy o fwynhad wrth wylio Disg 2 - Special Features. Deutsches Gr蠇ndlichkeit. Cyfoeth o wybodaeth a sylwadau difyr. Addysgiadol iawn.
Y Byncer- diddorol iawn. Ymchwil gan Dietmar Arnold ( www.berliner-unterwelten.de ). Gwrandewch yn astud am y s诺n gwynt iasol ac annaearol. Bygythiol iawn.
Y cyfweliadau - Alexandra Maria Lara (Traudl Junge). Defnyddia'r term 'seren bop' wrth s么n am Hitler. Codais fy aeliau. Hefyd yn ystod pennod 2 o'r ffilm (hefo'r merched/ysgrifenyddesau wedi cynhyrfu wrth gyfarfod Hitler am y tro cyntaf). Propaganda. Gleichschaltung.
Ac efallai y bydd rhai yn teimlo fod ambell i gyfweliad hefo'r actorion yn eu lifrai milwrol yn syniad od (iwnifform drygioni - dyma yw'r ddelwedd) ond mae pob un yn llwyddo i ddweud rhywbeth difyr.
Ffilmio yn St Petersburg Ffilmiwyd nifer o olygfeydd nid ym Merlin ond yn St. Petersburg lle y defnyddiwyd nifer o ecstras Rwsiaidd. Cofier hanes trychinebus y ddinas hon yn ystod y rhyfel. Faint o ddicter a drwgdeimlad a ddatgelwyd h.y. gan bobl leol oedrannus neu Rwsiaid gwlatgar gwrth-Almaenaidd?
Cywir - ni all un ffilm newid y byd ond cam positif iawn i berthynas Yr Almaen a Rwsia ddywedwn i.
A thybed a yw Vladimir Putin (sy'n medru Almaeneg - o ganlyniad i'w gyfnod 芒'r KGB. yn Nwyrain Yr Almaen) wedi ei gwylio?
Nid dyma unig lwyddiant Oliver Hirschbiegel fel cyfarwyddwr e.e. Das Experiment. Wyth allan o 10 i Der Untergang.
Felly, y tro nesa y byddwch yn mynd i siop fideos, chwiliwch am y DVD yma yn yr adran World Cinema. Agoriad llygad. Ffilm onest, ddewr.
Tybed beth yw barn y rhai hynny sy'n ddigon hen i gofio'r rhyfel?
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|