Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008) Dal i fyny efo'r Jonesus
Adolygiad Glyn Evans
Y s锚r
Harrison Ford, Cate Blanchett, Karen Allen, Ray Winstone, John Hurt, Shia LaBeouf, Jim Broadbent..
Cyfarwyddo
Steven Spielberg
Sgrifennu
George Lucas.
Hyd
123 munud
Sut ffilm?
Ffilm sydd ond am funud yn byw yn y byd go iawn.
A hynny pan yw Indiana Jones (Harrison Ford) yn cael ei wahardd o'i swydd brifysgol oherwydd ofnau di-sail yr FBI ei fod yn 'subversive' - a hynny'n gorfodi Deon y brifysgol (Jim Broadbent) i ymddiswyddo mewn cydymdeimlad ag ef.
Dyma'r Pumdegau pan oedd yr Americanwyr yn gweld Comiwnyddion ym mhobman gan gynnwys "yn eu cawl" ys dywed un o gymeriadau'r ffilm.
Mae'r obsesiwn McCarthy 芒 Chomiwnyddiaeth a chynllwynwyr yn taflu ei gysgod dros ddechrau'r ffilm ond buan iawn y dihangwn i ddwyawr a mwy o hwyl stribed comics lle mae pawb yn mwynhau eu hunain yn rhyfeddol mewn stynts sy'n mynd a gwynt rhywun.
Mae 19 mlynedd ers yr Indiana Jones diwethaf - y gorau o'r triawd o ffilmiau lle mae Jones yn ymuno 芒'i dad (Sean Connery) i drechu'r Natsiaid yn eu hymchwil am y Y Greal Sanctaidd ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.
Fel Harrison Ford yr actor mae Indiana Jones y cymeriad wedi heneiddio ac y mae yna nifer o j么cs am heneiddio a bod yn hen.
"Faint wyt ti, 80?", hola Mutt Williams, cydymaith ifanc newydd Jones, (Shia LaBeouf).
Pan ddychwelodd Sean Connery i ran James Bond wedi absenoldeb o 12 mlynedd gwnaed pob ymdrech i'w iengeiddio - dydi Spielberg ddim yn trafferthu ac o'r herwydd y Jones y mae ei enw ar y can a gawn.
Ond yn dal i fedru cyflawni'r un hen wrhydri anhygoel gyda'i chwip a'i ddyrnau. Ond yn fodlon cyfaddef ei bod hi'n anos!
Mae'n deyrnged i'r fenter fod y cyfan yn argyhoeddi.
Bydd y ffyddloniaid wrth eu boddau gyda'r aml deyrngedau yn ystod y ffilm i'r tair ffilm flaenorol.
Llun o'i dad (Connery) a Dr Marcus (Denholm Elliott) ar ddesg yr arwr - y ddau bellach wedi'n gadael a'r Deon yn gofidio gyda Jones eu bod yn awr mewn oed pan yw bywyd wedi dechrau cymryd yn hytrach na rhoi.
Mae sawl golygfa ddramatig hefyd sy'n adlais o gampau'r gorffennol ac y mae hen gariad Jones, Marion Ravenwood (Karen Allen) yn 么l - hithau hefyd wedi heneiddio gyda rhai'n ddigon creulon i ddweud i'r blynyddoedd fod yn fwy angharedig 芒 hi nag 芒 Harrison Ford! Ond bu Ford o'i ddyddiau cynnar yn ddyn actor a edrychai fel pe byddai a pwysau'r byd yn go drwm ar ei ysgwyddau a chanddo felly lai o ffordd i fynd fel petai.
Mae teyrngedau slei i arwyr sinemaol eraill hefyd gyda dyfodiad Murtt Williams yn atgof o Marlon Brando yn The Wild One ac o Ricky Nelson fyrbwyll hoffus yn Rio Bravo
O ydi mae hon yn ffilm sy'n hwyl ar fwy nag un cyfrif ond yn deyrnged yn bennaf i'r hen ffilmiau cliff-hanger episodig a oedd yn arlwy Sadyrnol dyddiau cynnar y sinema gydag arwyr yn wynebu eu diwedd un Sadwrn ond "gydag un ymdrech fawr anhygoel" yn cael eu traed yn wyrthiol rydd yn Sadwrn wedyn.
Mae'r yn rolarcostar o beryg a dianc - i ragor o beryglon!
Y stori
Unwaith eto mae Indiana Jones ar gael i achub y byd rhag ei feddiannu gan bwerau'r drwg - y tro hwn ym mherson y Cyrnol KGB seicig, Irina Spalko sy'n cael ei chware fel rhyw Rosa Clebb fwy lluniaidd ond gyda'r un rhewlif yn ei gwythiennau.
Yn gwisgo siwt drowsus mae Cate Blanchett yn poeri bygythiadau mewn acen Rwsiaidd sy'n rhoi corneli i bob gair.
Ymhlith olion y Maya ym Mheriw y mae hi ar 么l penglog crisial a fydd yn ei galluogi i reoli meddyliau'r byd.
Ac wrth gwrs dim ond Jones, Mutt a'r Cocni o Mi6 (Ray Winstone) all ei rhwystro - er ni all neb fod yn si诺r iawn beth yn union yw teyrngarwch y Sais.
Rhwng popeth mae yma ddwyawr o hanner o fod a dim amser i gymryd eich gwynt wrth i'r criw o anturwyr gael eu taflu o un trychineb i'r llall gyda cheir a cherbydau milwrol yn ymlid ei gilydd rhwng tyrrau ifori ysgolheictod un munmud a thrwy goedwigoedd peryglus Periw a thros Niagrfeydd o raeadrau gwylltion.
Ond fel gyda'r ffilmiau Indi i gyd dydi hiwmor a'r sylw bachog byth ymhell i ffwrdd.
Ond dydi'r 'cemistri' ddim cystal 芒'r hyn a gyflawnwyd gan Ford a Connery yn y Last Crusade.
Y canlyniad
Er nad yw'r un o'r ffilmiau Indi yn rhai sy'n cymryd eu hunain ormod o ddifrif y mae Spiielberg bob amser yn cymryd diddori o ddifrif.
Wrth gwrs fe ddywed sawl un wrthych nad yw hon gystal 芒'r ffilmiau eraill ac, yn wir, llugoer fu'r derbyniad o sawl cyfeiriad.
Ond mewn gwirionedd does dim llawer i'r ffyddloniaid gwyno amdano ac fe fydd y gwir edmygwyr yn barod i faddau namau er, bydd rhai ohonom yn anesmwyth gyda'r naws a'r awyrgylch wrth Gomiwnyddol.
Y darnau gorau
Mae yna gymaint ohonyn nhw:
Y ffrwydrad atomig.
Y ras drwy gampws y Brifysgol.
Yn y fynwent.
Y ras drwy'r goedwig.
Y morgrug cochion.
Cwymp car dros y dibyn ac yn erbyn coeden.
Ambell i farn "Mae'r chwip yn dal yn ei law," meddai'r Observer.
Ond dywed y Spectator mai'r peth tecaf i'w ddweud am y ffilm yw; "os yw hon y math o ffilm sy'n eich cyffroi yna fe fydd yn eich cyffroi ac os nad yw, fydd hi ddim!"
Gwerth ei gweld?
Mae'n hwyl - yn enwedig i'r anfeirniadol sy'n fodlon ei derbyn am yr hyn yw hi.
|
|