Charlie Wilson's War (2008) Ffilm sy'n llifo ac yn gafael
Y sêr
Tom Hanks; Julia Roberts; Phillip Seymour Hoffman
Cyfarwyddo
Mike Nichols Ysgrifennu
Aaron Sorkin; George Crile (awdur y llyfr)
Hyd
97 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Drama wleidyddol wedi ei seilio ar stori wir am America yn ariannu milwyr Affghanistan yn erbyn gormes yr Undeb Sofietaidd yn ystod rhyfel oer yr Wythdegau.
Cafodd ei chyfarwyddo gan Mike Nichols a fu'n gyfrifol hefyd am glasuron fel The Graduate a Who's Afraid of Virgina Wolf?.
Er wedi ei seilio ar stori wir mae hi'n chwarae fwy fel comedi na ffilm ffeithiol.
Y stori
Yn wleidydd ffaeledig, hoff o alcohol a menywod, ac yn cynrychioli Texas yn y Gyngres mae gan Charlie Wilson ddiddordeb yn yr hyn sydd yn digwydd yn Afghanistan.
Gan mai ef sy'n gyfrifol am y gyllideb polisi tramor mae'n cychwyn ymgyrch gudd i roi arian i fyddin Affghanistan i ymladd yn erbyn yr Undeb Sofietaidd.
Y canlyniad
Adloniant sy'n addysgu - i ryw raddau - ac yn diddanu - yn drwyadl - gan symud yn gyflym gyda deialog ffraeth.
Ond y mae yna gyfnod yn y canol lle mae'r ffilm yn gogoneddu'r ymosodiadau ar y Sofietiaid gan wneud imi deimlo'n dra anghyfforddus.
Mae portread negyddol o'r peilotiaid Sofietaidd yn ddiangen hefyd.
Gwelir cyfeirnod ar y diwedd at eironi'r ffaith i'r Unol Daleithiau gefnogi milwyr y Mujahideen yn y cyfnod hwn. Nhw, yn ddiweddarach, ddaeth yn Taliban.
Ond yn y ffilm dewisodd y cyfarwyddwr beidio â phwysleisio'r pwynt hwn, sy'n drueni.
Ambell i farn
• Meddai cylchgrawn ffilm Variety: "Mae Charlie Wilson's War yn rhywbeth anarferol yn Hollywood y dyddiau hyn: adloniant clyfar, soffistigedig ar gyfer oedolion"
• "Drama wleidyddol sy'n cael ei chwarae fel comedi a bywyd go iawn fel dychan yw Charlie Wilson's War. Mae sgript Sorkin yn llawn llinellau comedi," meddai The Hollywood Reporter.
Perfformiadau
• Anaml iawn y byddaf i'n mwynhau perfformiad gan Tom Hanks ond mae'n rhaid ei ganmol yn y ffilm hon.
Ei duedd yw chwarae darnau rhy 'neis' ond yma mae'n llwyddo i gyfleu person gyda nifer o ffaeleddau.
• Perfformiad Phillip Seymour Hoffman sy'n dwyn y sioe - actor nad yw perfformiad gwan yn rhan o'i gyfansoddiad.
• Mae Julia Roberts hefyd yn gyfforddus ac yn arbennig o effeithiol fel Cristion gyfoethog o ddeheudir yr Unol Daleithiau. Cymeriad sy'n gwybod sut i ddefnyddio'i rhywioldeb i gael ei ffordd - a Julia'n llwyddo i gyfleu hyn yn berffaith.
Rhai geiriau
• "Ti'n gwybod dy fod wedi cyrraedd y gwaelod pan fo rhywun sydd wedi crogi ei ragflaenydd yn dy gyhuddo o fod a nam yn dy gymeriad," meddai Charlie yn dilyn trafodaethau gydag Arlywydd Pacistan.
• "Gallwch eu dysgu i deipio ond allwch chi ddim eu dysgu i dyfu bronnau," am lond swyddfa o ferched.
Darnau gorau
• Golygfeydd rhwng Julia Roberts a Phillip Seymour Hoffman yn hynod. Dau gymeriad sy'n casáu ei gilydd heb oractio.
• Julia Roberts yn dal i edrych yn dda iawn yn camu allan o bwll nofio mewn bicini!
Gwerth ei gweld?
Er bod ambell i olygfa amheus yn foesol - yr ymhyfrydu wrth fomio awyrennau Sofietaidd - mae Charlie Wilson's War yn ffilm wych gyda llinellau doniol, cymeriadau lliwgar a phlot sy'n llifo. Yn sicr yn ffilm gwerth ei gweld.
|
|