The Motorcycle Diaries Teithio tua delfryd
Y s锚r Gael Garca Bernal, Rodrigo De La Serna, Ma Maestro, Mercedes Mor谩n, Jorge Chiarella
Cyfarwyddwr Walter Salles
Sgrifennu Jose Rivera
Hyd 125 munud
Sut ffilm "Nid ffilm am weithredoedd arwol yw hon ond hanes dau gyfaill y mae eu bywydau yn rhgedeg ochr yn ochr am ychydig," meddir ar y cychwyn.
Ffilm Sbaenaidd delynegol gydag is-deitlau am ieuenctid a delfrydiaeth; yn gymysgedd o hiwmor, dwyster a golygfeydd trawiadol yn olrhain taith fotobeic dau gyfaill drwy Dde America yn 1952 gyda'r hyn a welant yn eu newid am byth.
Y stori Y ddau gyfaill ydi Ernesto 'Che' Guevara (Gael Garca Bernal) ac Alberto Granado (Rodrigo De La Serna) - y ddau o deuluoedd cefnog yn Buenos Aires a'r naill yn fyfyriwr meddygol 23 oed a'r llall yn fyfyriwr biocemeg sy'n edrych ymlaen at ei barti pen-blwydd yn 30 oed.
Maen nhw'n cychwyn o'u cartref yn Buenos Aires ar daith sy'n mynd a nhw drwy Ariannin i Venezuela a hynny ar gefn hen fotobeic Norton 500 cwbl annibynadwy maen nhw wedi ei fedyddio, gyda'u tafod yn eu boch, yn, La Poderosa - "Yr un nerthol".
Yn ystod eu taith dros yr Andes i Chile, drwy anialwch Atacama ym Mheriw ac ymweliad a dinas hynafol yr Inca, Machu Picchu, maen nhw' yfed, yn gloddesta, yn dawnsio ac yn mercheta ond hefyd yn dod i adnabod pobl ac amgylchiadau gwahanol iawn i'w cynefin breintiedig hwy eu hunain a hynny yn deffro eu hymwybyddiaeth gymdeithasol a gwleidyddol.
Daw'r daith i ben gyda thair wythnos mewn 'ysbyty' i wahanglwyfion ar lannau Afon Amazon.
Y canlyniad Er mai pennaf ap锚l y ffilm yw'r ffaith mai Che Guevara ydi un o'r ddau deithiwr hoffus mae'n stori sy'n mynd i apelio hefyd at y rhai hynny na wyddant ddim am na Che na'i hanes gan ei bod yn gweithio fel stori am y trawsnewid sy'n dod i ran dau berson ifanc cyfforddus eu byd wrth iddynt ddod i gysylltiad 芒 chaledi a dioddefaint gwerin gwlad ac ochr llai dymunol bywyd.
Mae'n ffilm sy'n gyforiog o ddelfrydiaeth
Yn amlwg mae i'r ffilm, fel y dyddiaduron eu hunain sydd ar gael mewn print, arwyddoc芒d pellach o sylweddoli mai s么n yr ydym am ddeffroad cymdeithasol-wleidyddol un o eilunod mwyaf y chwedegau ac un y mae i'w wyneb arwyddocad hyd heddiw er iddo gael ei ladd drwy law y CIA yn Bolivia, fis Hydref 1967.
Un o ganlyniadau'r ffilm yw ei bod yn deffro unwaith eto y drafodaeth yngl欧n 芒 Che Guevara a ddaeth yn gymaint eilun i ddelfrydwyr asgell chwith yn ystod ei fywyd ac wedi hynny - diolch yn rhannol i'r llun eiconic ohono sydd wedi addurno cymaint o grysau T a phosteri.
Heb os cafodd ei ddelfrydu - ei Gristeiddio hyd yn oed - y tu draw i bob rheswm wrth i'w garisma a'i ddelfrydau gipio dychymyg gwrth-sefydliadol ieuenctid y chwedegau.
O ganlyniad mae tuedd i anghofio weithiau ei fod hefyd yn filwr a benderfynodd mai trwy rym milwrol mae newid y byd a dod 芒 thegwch iddo. Yn y ffilm hon mae'n cael ei ddyfynnu yn dweud, "Allwch chi ddim cael chwyldro heb ynnau."
Y darnau gorau Yn ffilm sy'n asio'n gelfydd mae'n gweithio fel cyfanwaith.
Mae'r nofio yn y nos i'r gwersyll gwahanglwyfion yn afaelgar - er heb ddigwydd yn yr union ffordd ddramatig a ddarlunnir yn y ffilm.
Mae cychwyn y daith gyda'r motobeic ond yn osgoi bws cyn cyrraedd pen y stryd yn rhagflas o'r hwyl a'r rhyfyg sydd i ddod.
Perfformiadau Mae'r beirniaid yn unfryd yngl欧n a dehongliad trawiadol a chraff Gael Garca Bernal o'r Che mewnblyg, asthmatig ond carismataidd. Mae Rodrigo De La Serna yn wrthbwynt yr un mor drawiadol fel yr Alberto allblyg, rhyfygus.
Er ein bod yn s么n am drobwynt yn nhaith bywyd dydi hynny ddim yn esgor ar ffilm drymaidd ond un hawdd ymgolli ynddi gydag elfennau o hwyl hefyd. Gystal 芒'r trelar? Heb weld un.
Ambell i farn Hyd yn oed ymhlith y rhai hynny na fyddent yn cydymdeimlo a gweledigaeth wleidyddol Guevara mae'r ffilm hon yn cael ei gwerthfawrogi'n gyffredinol fel telyneg glasurol.
Trueni na fydd i'w gweld mewn mwy o sinem芒u ond wedi ei neilltuo, oherwydd ei hiaith, i rai'r ymylon gan wneud iddi ymddangos fel rhywbeth nad yw o werth ond i ddetholedigion.
Cyflymdra Pennaf, ac unig, ddiffyg y ffilm yw fod yr is-deitlau yn gadael y sgr卯n yn rhy sydyn. Weithiau mae'r print gwyn ar gefndir gwyn hefyd!
Ffilmiau eraill Ac yntau wedi ei ddyrchafu yn gymaint o eilun mae'n syndod cyn lleied o sylw a gafodd Che Guevara yn y sinema.
Fe'i gwelir yn stor茂wr yn Evita a rhyddhawyd ffilm digon erchyll, Che gydag Omar Sharif rai blynyddoedd yn 么l a Jack Palance fel Castro.
Y s么n tyw fod ffilm arall yn dweud hanes ei fywyd ar y gweill ar gyfer ei rhyddhau y flwyddyn nesaf ond bydd honno yn gowdel llawer anos na'r dyddiaduron hyn gan y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anos yngl欧n 芒'r dehongliadau o'r cymeriad cymhleth hwn.
Gwerth mynd i'w gweld? Rhaid ei gweld.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|