Cannes Cymro bron dymchwel Samuel L Jackson
G诺yl Ffilm Cannes yn drigain oed - gan Gwion ap Rhisiart, Cymro a fu yno.
Mae G诺yl Ffilm Cannes yn ddigon hen i gael pas bws eleni - a hithau'n drigain oed!
Mae'r hen wraig hon yn un reit anarferol yng nghyd-destun gwyliau ffilm.
Lle arall yn y byd allech chi gerdded heibio i actorion fel Matt Dillon ar y stryd a sgwrsio gydag Adrien Brody am geir fis neu ddau ar 么l iddo ennill ei Oscar?
Ond dyna wnes i yn Cannes.
Bob mis Mai gwelir miloedd ar filoedd o bobl bwerus - a rhai llai dylanwadol - y diwydiant ffilm rhyngwladol yn ymgasglu'n heidiau lliwgar yn y dref fach dawel hon ar arfordir M么r y Canoldir yn ne Ffrainc.
Maen nhw'n fr卯d hawdd iawn i'w hadnabod ar y cyfan - wastad ar eu ffonau symudol neu'r blackberries, siwtiau lliain a sbectols haul drud.
Diolch i Mussolini Mae hyn yn dra gwahanol i'r ysbryd gwreiddiol pan sefydlwyd yr 诺yl yn 么l yn 1939 gyda'r ffasgydd Mussolini yn un o'r rhesymau pam y dewiswyd Cannes yn lleoliad yn y lle cyntaf.
Ar y pryd, G诺yl Ffilm Fenis oedd yr unig 诺yl ffilm ond daeth dan lach y cyfarwyddwyr wedi i Mussolini wrthod dangos ffilmiau dadleuol oedd yn feirniadol o'r weinyddiaeth.
Er mwyn cael llwyfan rhydd sefydlodd y cyfarwyddwyr achlysur tebyg yn Ffrainc a chan fod arian cyhoeddus i'w gael yn Cannes, yno yr aethon nhw.
Erbyn hyn mae cyfnod byr yr 诺yl yn achlysur difrifol a dwys yn 么l y cylchgronau dyddiol Screen International a Variety ac mewn penawdau bras gwelwn fod un o brif ffilmiau'r 糯yl wedi canfod dosbarthwyr er na welwn ni hwy am flwyddyn neu ddwy yn ein sinem芒u ni.
Byd pyramid Dan y glits a'r prydferthwch mae pyramid o statws yno gyda stiwdios mawr Hollywood ar y brig ac wedyn y cyfarwyddwyr auteur sydd wedi gwneud eu henwau yn yr 糯yl dros y blynyddoedd.
Rhai fel Pedro Almodovar, Jim Jarmusch a David Lynch a'u tebyg.
Gyda'r dangosiadau rhyngwladol ar y carped coch a llygaid y byd arnynt, nhw yw'r ymerawdwyr.
Islaw iddynt mae'r cadfridogion, y dosbarthwyr mawr a'r sinem芒u cadwyn sy'n penderfynu beth fyddwch chi a minnau yn ei weld yn yr Odeon neu'r Cineworld lleol yn ystod y flwyddyn.
Ris arall yn is mae'r gwerthwyr sy'n ceisio dwyn persw芒d ar y cadfridogion i brynu y ffilmiau maent hwy'n eu cynrychioli. Mae ffordd y rhain yn debyg iawn i ffordd gwerthwyr ceir ail law.
Wedyn y swyddogion. Rhain yw'r arianwyr sy'n chwilio am ffilmiau i fuddsoddi ynddyn nhw am ba bynnag reswm
- naill ai am eu bod yn dyrannu arian am resymau cenedlaethol i ddatblygu diwydiant; yn gwmn茂au preifat sy'n dymuno buddsoddi eu harian mewn ffordd greadigol neu rai sy'n syml yn ceisio osgoi talu trethi.
Y milwyr troed yw'r gwneuthurwyr ffilm bach yn ceisio datblygu prosiectau a syniadau am ffilm trwy edrych yn bwysig mewn derbyniadau lu lle maen nhw'n gobeithio tynnu sgwrs ag unrhyw un sy'n nes na hwy i big y pyramid!
Rhaid nodi bod unrhyw 诺yl ffilm gwerth ei halen mewn lleoliad braf ar lan m么r ar gyfer y bobl hynny sydd ond a diddordeb mewn cael eu gweld yn y lleoedd cywir.
Mae nifer fawr o'r creaduriaid hyn i'w gweld yn Cannes.
Gweithio yn Cannes Fe f没m i'n gweithio yn Cannes am rai blynyddoedd - i gorff cyhoeddus oedd yno i ddatblygu diwydiant ac yn flynyddol byddai gwneuthurwyr o bob cwr o'r byd yn dod draw i'n stondin yn y gobaith o dderbyn arian cyhoeddus o Gymru.
Ac fe fydden nhw wedi bod yn fodlon gwerthu eu nain am arian.
Yn aml byddent yn fodlon newid stori yn llwyr a'i lleoli yng Nghymru mewn ymgais i geisio dwyn persw芒d ar gorff cyhoeddus cenedlaethol i fuddsoddi yn eu prosiectau.
I mi, mae Cannes, felly, yn gymysgedd o waith caled, di-dor, am ddeng niwrnod yng nghanol byd a diwydiant afreal Hollywood.
Y ffordd orau o geisio cyfleu hyn yw gyda stori wir am yr hyn a ddigwyddodd i mi ddwy flynedd yn 么l.
Samuel L Jackson Tra'n chwysu talpau yn straffaglu i lusgo bocys ar hyd y pentref rhyngwladol clywais sgrechian mawr gan y dyfra oedd yn sefyll yr ochr arall i'r ffens.
Roeddwn i'n wyllt gacwn yn meddwl bod y cyhoedd yn chwerthin am ben fy anhawster - ond wrth i'r bocsys syrthio, sylweddolais nad chwerthin arnaf i oedden nhw.
Cerddodd yr actor Samuel L Jackson heibio imi a bu bron imi a'i gladdu dan lwyth o gyhoeddiadau yn gwerthu Cymru.
Am bennawd fyddai hynny wedi bod ar y newyddion drannoeth...
Eleni, 2007, mae'r 糯yl rhwng Mai 16 a Mai 26 gydag amryw o gwmn茂au Cymreig yno yn brwydro i ddatblygu a gwerthu.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|