Monster in Law Brwydr draig ac angyles
芒
Y s锚r Jennifer Lopez, Jane Fonda, Michael Vartan, Wanda Sykes, Adam Scott, Annie Parisse, Monet Mazur, Will Arnett
Cyfarwyddwr Robert Luketic
Sgrifennu Anya Kochoff
Hyd 101 munud
Sut ffilm? Comedi ramantus am ryfel deuluol ffyrnig rhwng merch ifanc a'i darpar fam yng nghyfraith.
Ffilm gyntaf Jane Fonda ers pymtheng mlynedd.
Y stori Mae Charlie (Jennifer Lopez), merch ifanc sy'n gwneud pob math o waith gan gynnwys mynd a ch诺n pobl am dro, gweithio mewn meddygfa ac arlunio, yn gweld Kevin (Michael Vartan), meddyg deniadol; yn syrthio mewn cariad ag ef, yn penderfynu priodi ond yn cael ei hun yn gwbl annerbyniol yng ngolwg Viola Fields, mam Kevin (Jane Fonda).
Y frwydr gi a chath rhwng y ddwy ohonyn nhw ydi gweddill y ffilm gyda'r ewinedd allan a gwallt yn cael ei dynnu o'r gwraidd.
Y canlyniad Anodd credu y gallai treulio dwyawr yng nghwmni dwy mor anhygoel o flasus 芒 Fonda a Lopez fod yn siom ond y gwir amdani yw nad ydi pob ffiwsan yn tanio fel y dyle nhw yn y ffilm ddigon dymunol hon.
Cychwyn pethau'n hynod o araf wrth i Luketic gymryd cryn ugain munud gwastraffus i ddod a Lopez a Vartan at ei gilydd. Hyd yn oed wedyn dydi'r ffilm ddim yn tanio nes bo Fonda yn ymddangos. Mae hi'n cael hwyl arbennig fel y gyflwynwraig deledu sy'n cael ei thaflu ar y domen oherwydd ei hoed.
Fel pe na byddai hynny'n ddigon mae ei hannwyl fab ar fin priodi merch gyffredin sydd ond yn tempio.
Ac yn wir mae'r gwrthdaro rhwng y ddraig a'r angyles yn dipyn o hen hwyl.
Y darn gorau Dweud y newyddion da wrth mam.
Perfformiadau Bron iawn nad oes gan Vartan ran o gwbl gwerth s么n amdani ond mae Wanda Sykes werth bob ceiniog fel cynorthwydd personol Viola.
Fonda sy'n troi ffilm digon cyffredin yn un gwerth ei gweld ond da iawn Lopez hefyd.
Rhai geiriau "Mae bywyd yn rhy fyr i fyw yr un diwrnod ddwywaith," meddai Charlie wrth egluro pam mae ganddi gymaint o jobsus.
"Mae hi wedi cael llai o gariadon gydol ei bywyd nac a gefaist di ddiwedd dydd yn Woodstock."
"Bu farw fy mab o siom angheuol."
Gystal 芒'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Braidd yn llugoer fu'r beirniaid gan dybio i'r ffilm fethu a tharo deuddeg a chwynodd gwefan Saesneg y 大象传媒 am y diweddglo gwan ond yn canmol Fonda.
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|