Collateral Tacsi'r tywyllwch
Y s锚r Tom Cruise, Jamie Foxx, Jada Pinkett Smith, Mark Ruffalo, Peter Berg
Cyfarwyddwr Michael Mann
Sgrifennu Stuart Beattie
Hyd 120 munud
Sut ffilm Nid y Tom Cruise arferol gan ei fod yn ddyn oeraidd, annifyr, heb shefio ers diwrnodau ac yn saethu pobol sydd ddim yn bobl ddrwg.
Y stori Mae lladdwr cyflogedig, Vincent (Tom Cruise), wedi ei anfon i Los Angeles i ladd pump o bobl cyn iddyn nhw fedru tystiolaethu yn erbyn drwgweithredwyr.
Dim byd gwreiddiol iawn fan yna ond mae'r ffilm yn magu ei blas ei hun pan yw Vincent yn gorfodi'r gyrrwr tacsi, Max (Jamie Foxx), i'w gludo o lofruddiaeth i lofruddiaeth gydag un o'r cyrff yng nhist y tacsi.
Yr ydym eisoes wedi cyfarfod Max, mewn ymgom ag Annie (Jada Pinkett Smith) wrth iddo ei chludo hithau ar draws y dref ac mae'r ymryson rhwng y ddau - sy'n tyfu'n berthynas sy'n hofran ar rhyw ffin annelwig rhwng fflyrtio a chyd-ddyhead eneidiol - yn arwydd o'r hyn fydd gan y ffilm i'w gynnig yn nes ymlaen.
Yn amlwg bydd Anna o arwyddocad yn nes ymlaen yn y ffilm ond er ein bod yn amau pam rhaid inni ddisgwyl yn hir cyn cael gwybod pam a'r ffilm wedyn yn carlamu tua'i therfyn gyda helfa ddinistriol - cwbl ystrydebol, mae'n wir - ond hynod afaelgar mewn swyddfeydd tywyll ac ar y subway ganol nos a hynny'n clymu'n daclus a rhywbeth a ddywed Vincent yn gynnar iawn yn ei berthynas 芒 Max.
Rhwng y teithiau tacsi a'r helfa fawr olaf mae sefyllfaoedd gwych a;r cyfan yn gwneud hon yn ffilm annisgwyl llawer iawn gwell nag a fyddai rhywun wedi ei ofni.
Yn wir, yn ffilm y gall y rhai hynny nad oes ganddynt ddim meddwl o gwbl o Gruise arferol y tasgau amhosib ei mwynhau.
Y canlyniad Ffilm afaelgar, annisgwyl sy;n gweithio nid yn unig fel ffilm gyffro ond yn ddeallusol hefyd wrth olrhain perthynas pobl a'i gilydd mewn sefyllfa anghyffredin.
Mae Foxx a Cruise yn haearn sy'n hogi haearnn - yn gweithio'n wych gyda'i gilydd.
Ond mae cymeriadau ymylol eraill fel Jada Pinkett Smith a Barry Shabaka Henley fel cerddor Jazz yn cyfrannu'n wych mewn dramodigau bychain o fewn y ddrama fawr.
Y darnau gorau Heb amheuaeth, y darn gorau ydi'r un gyda Daniel, y dyn Jazz, (Barry Shabaka Henley) sy'n cofio Miles Davis yn galw yn y clwb. Golygfa sy'n gyfuniad o dyndra, atgofion hiraethus ac ysgytwad frawychus. Un o funudau cofiadwy sinema.
Ar nodyn ysgafnach ymweliad Max a'i fam yn yr ysbyty a'r gwirionedd diarwybod yn ei geiriau wrth Vincent, "Rhaid ichi ddal gwn wrth ben yr hogyn 'ma cyn y gwaniff o ddim."
Wedyn mae Max yn gorfod smalio mai ef ydi Vincent gerbron cyflogwr hwnnw yn gyfuniad perffaith o fraw a hiwmor tywyll.
Rhaid canmol hefyd y golygfeydd nos o Los Angeles.
Perfformiadau Mae'r Cruise newydd, sinistr, yn plesio a'r gwrthdrawiad 芒 Jamie Foxx yn ddigon i gynnal y ffilm. Ychwaneger at hynny bortreadau ymylol eraill a does yna'r un olygfa wan.
Geiriau cofiadwy Mae sgriptio'r awdur o Awstralia, Stuart Beattie, yn llyfn; yn glyfar, yn gignoeth ac yn frith o hiwmor du.
Pan yw Max yn gofyn i Vincent sut y gall o ladd rhywun nad yw'n ei adnabod mae'n ateb: "Be? Ddylwn i ddim lladd pobol oibai mod i'n eu hadnabod?"
"Mi lladist ti o?" meddai Max wrth edrych ar gorff. "Naddo - y bwlat lladdodd o. Ei saethu o wnes i."
Gystal 芒'r trelar? Yn well gan fod hwnnw yn rhoi'r argraff o'r ffilm gyffro ddifeddwl arferol yn llawn s诺n a rhuthr.
Gwerth mynd i'w gweld? Efallai nad yw hi'n ffilm orau erioed y genre ond go brin y gwelwn ni ei chystal eto eleni.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|