Superbad (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y S锚r:
Jonah Hill, Michael Cera, Christopher Mintz-Plasse, Seth Rogen, Bill Hader
Cyfarwyddo:
Greg Mottola
Sgrifennu:
Seth Rogen, Evan Goldberg
Hyd:
113 munud
Mae rhai ffilmiau yn tynnu dagrau i'ch llygaid - wrth ichi chwerthin cymaint.
Daw llawer o'r ffilmiau hyn o'r America ac yn y Nawdegau daeth pobl fel Jim Carrey i'r amlwg mewn ffilmiau fel Liar Liar a Dumb & Dumber.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu actorion fel Ben Stiller, Owen Wilson, Will Ferrell a Vince Vaughn yn llwyddiannus mewn ffilmiau rhagorol fel Dodgeball, Wedding Crashers, Anchorman a Meet The Parents.
Bellach, mae math newydd o gomedi gyda chasgliad newydd o actorion fel Seth Rogen, Paul Rudd, Jonah Hill a Michael Cera - a nhw sy'n perfformio yn Superbad.
Ffilm yw h么n am dri ffrind sy'n anlwcus gyda merched ac yn amhoblogaidd yn yr ysgol.
Mae'r tri eisiau cysgu gyda merch cyn mynd i brifysgol ac mae'n ddoniol iawn gweld sut maen nhw am gyflawni hyn. Go brin y gwelwch ffilm ddoniolach yn fuan.
Mae Jonah Hill a Michael Cera yn ardderchog fel y ddau ffrind gorau ac heb os byddant ymhlith llwyddiannau comedi y dyfodol.
Seth Rogen - plismon yn y ffilm - sgrifennodd y sgript pan oedd yn iau - ond Fogell Mclovin (Christopher Mintz-Plasse) yw'r cymeriad bythgofiadwy.
Stori seml iawn am ffrindiau yw hon ond mae llawer mwy iddi na'r stori arwynebol ac, yn fy marn i, llwyddodd y cyfarwyddwr Judd Apatow, sy'n enwog iawn yn y byd comedi, i greu cymeriadau naturiol a chyfarwyddo ffilm sy'n ddoniol heb wneud gormod o ymdrech i fod yn ddoniol - ac mae hynny'n beth anghyffredin.
Yn y gaeaf, gyda'r holl annwyd sydd o gwmpas bydd y chwerthin yn donic heb ei ail
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|