La Vie en Rose Canmol - er gwaethaf y brychau
Gofidio am fanion sy'n cael gormod o sylw a phethau pwysig sy'n cael eu hanwybyddu yr oedd Gwenno Dafydd wedi iddi weld y ffilm am Edith Piaf, La Vie en Rose.
Ond er y diffygion dywedodd ar y rhaglen Stiwdio ar 大象传媒 Radio Cymru ei bod yn cymeradwyo'r ffilm.
Gan ddisgrifio ei hun fel "ffan enfawr" o Piaf dywedodd wrth Kate Crockett y cyflwynydd:
"Chefais i ddim fy siomi. Fe allwn i eistedd fan hyn am hanner awr yn pigo beiau a dweud am bethau oedd ddim yn iawn neu oedd ddim yn fy mhlesio i ond pa les fyddai hynny yn ei wneud?" meddai.
Am Marion Cotillard sy'n chwarae rhan Piaf yn y ffilm dywedodd ei bod "yn dod 芒'r cymeriad yn gwbl, gwbl, fyw imi ac oherwydd hynny fe ges i fy mhlesio."
Yn y pum munud olaf Ond ychwanegodd i feiau sylfaenol ei thramgwyddo - yn fwyaf arbennig y ffaith i blentyn a gafodd Piaf yn 16 oed gael ei bortreadu yn bump oed er i'r plentyn farw o lid yr ymennydd pan nad oedd ond yn ddwy.
"I unrhyw ddynes ni allai dim byd gwaeth ddigwydd yn eich bywyd . . . ond wnaethon nhw ddim crybwyll hyn reit tan y munud olaf. Yn llythrennol yn y pum munud olaf a hwnna fuaswn i'n meddwl oedd wedi effeithio arni hi fwyaf yn ei bywyd - yn fwy na bod ei mam hi wedi'i gadael hi," meddai.
"Hefyd, roedd yna rai pethau roedden nhw'n treulio gormod o amser efo nhw a phethau eraill nad oedden nhw'n treulio digon efo nhw."
Dim ond crybwyll Er enghraifft dywedodd na chafodd enw cariad a ddaeth yn 诺r iddi "ond ei grybwyll".
Ychwanegodd: "Roedd yna rai elfennau lle nad oedden nhw yn sticio at y gwirionedd ond yn pigo ar y pethau oedd yn eithaf sensationalist yn ei bywyd hi yn hytrach na chanolbwyntio ar bethau oedd yn ei gwneud hi yn berson mwy crwn.
"Er enghraifft wnaethon nhw ddim crybwyll o gwbl ei bod hi yn arfer mynd i mewn i garchardai rhyfel yn cael tynnu ei lluniau yn bwrpasol gyda milwyr a phan oedd hi'n dod oddi yno roedd y Resistance yn gwneud trwyddedau teithio ffug i'r bobl yma ac roedd hi yn eu smyglo nhw i mewn i'r carchardai. Wel, lle'r oedd hwnna?" holodd.
"Dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw eisiau crybwyll hynna oherwydd y byddai yn rhywbeth a fyddai wedi ei gwneud hi yn fwy o arwres nag oedden nhw eisiau," awgrymodd.
"Roedden nhw eisiau ei gwneud hi fel ysglyfaeth - fel victim dwi'n meddwl - a doedd hi ddim yn victim o gwbl ond yr oedd hi wedi gwrthsefyll yr holl bethau anffodus oedd wedi digwydd iddi hi yn ei bywyd," meddai.
Gellid cwtogi Awgrymodd y gellid fod wedi cwtogi ar rai pethau dibwys er mwyn gwneud lle i elfennau pwysicach.
"Doedd dim eisiau treulio cymaint o amser yn yr hwrdy yn Normandi - dydw i ddim yn gweld i ba bwrpas oedd hwnna yno o gwbl.
"Fe allen nhw fod wedi torri lot, lot, o bethau dibwys allan a chanolbwyntio ar bethau oedd fwy pwysig yn ei bywyd," meddai.
Serch hynny, dywedodd nad oedd yn poeni mai y darlun diffygiol hwn fydd cyflwyniad cyntaf rhai pobl i Piaf.
"Yr oedd hi'n ddynes arbennig , hynod, hynod o arbennig.
"Fe es i i'r fynwent lle mae hi wedi ei chladdu rhyw bum mlynedd yn 么l ac roedd yna ferch ifanc 21 oed o Belarws yno a dyma fi'n gofyn iddi pam oedd hi wedi dod yma a dyma hi'n dweud, 'Mae Piaf yn enwog - mae'n enwog ar draws Rwsia achos bod ei llais hi wedi gwrthsefyll yr oesoedd.
"Ond dyw hi ddim fel pe byddai hi yn enwog ym Mhrydain a hynny'n rhannol oherwydd bod pobl yn Lloegr wedi arfer efo un iaith . . . ond roedd Piaf wedi llwyddo i dorri ar draws yr holl ffiniau yna ac mae hi'n adnabyddus ac yn boblogaidd ar draws y Cyfandir hyd yn oed nawr," meddai.
Y ffilm Cyfarwyddir La Vie en Rose gan Oliver Dahan. Y s锚r yw: Marion Cotillard, Sylvie Testud, Pascal Greggory, Emmanuelle Seigner, Gerard Depardie
Darlledir Stiwdio nos Iau am 6.00 gydag ail ddarllediad am 6.30 nos Sadwrn.
Cliciwch a dewis Stiwdio i wrando pan yw'n gyfleus i chi yn ystod yrwythnos wedi darlledu'r rhaglen.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|