Zan Boko Man claddu'r brych
gan Gwyn Griffiths Ffilm arall ddangoswyd fel rhan o 糯yl Ffilm Ryngwladol Cymru Ddu ar yr un thema 芒 Cymru Ddu er ei gosod ymhell iawn o Fae Caerdydd, oedd Zan Boko.
Stori gyfarwydd am ddiwylliant dan warchae, hawdd i Gymro uniaethu 芒 hi er mor ddieithr y cefndir, yn Burkina Faso yng ngorllewin Affrica.
Mae'r ffilm yn ddwyieithog, rhannol mewn More, iaith y Mossi , a rhannau mewn Ffrangeg. Afraid nodi fod iddi is-deitlau Saesneg.
Mewn pentref Mae'n stori'n cychwyn ym mhentref y llwyth, y tai crwn o laid a thoeau gwellt fel helmau ydlannau Cymru 'slawer dydd.
Mae cwrteisi a boneddigeiddrwydd a sgwrsio hamddenol yr oedolion, hefyd, yn dod ag atgofion o ymddygiad hen werinwyr Cymraeg fy mhlentyndod.
Amhosib fyddai cyfeirio at holl symboliaeth gyfoethog y ffilm - e.e. ystyr Zan Boko yw'r man lle cleddir y brych wedi geni'r baban, sef man dynodi'r cwlwm rhwng y baban, y tir a'i hynafiaid.
Felly pan y fo'r ddinas yn ehangu a thrigolion y llwyth o un i un yn gwerthu eu darnau tir ceir ymdeimlad o dorri cysylltiad sanctaidd 芒'r tir a gyda'r gorffennol.
Unig wrthryfelwr Tinga - ystyr yr enw yn More yw "y ddaear" - yw'r unig un sy'n gwrthryfela a thu hwnt i wal ei dyddyn a'i ddarn tir mae datblygwr yn codi clamp o d欧 moethus.
Ac yn ceisio cael gwared o Tinga drwy gwyno am bopeth, fel arogleuon coginio sy'n denu pryfed, nes peri iddo deimlo fel estron ar ei dir ac yn ei wlad ei hun.
Yna mae'r datblygwr yn ceisio prynu'r tir er mwyn adeiladu pwll nofio arno.
Stori arall Yn y cyfamser y mae stori arall yn datblygu. Yn swyddfeydd y llywodraeth mae swyddog cyhoeddusrwydd yn cael ei wahardd o'i waith am fod yn rhy onest mewn erthygl bapur newydd!
Yr awgrym yw iddo ddatgelu gormod am y modd y mae'r llywodraeth yn gwthio agenda o ymestyn y ddinas heb ystyried hawliau na ffordd draddodiadol o fyw y brodorion traddodiadol.
Yn nes ymlaen mae'r swyddog cyhoeddusrwydd yn cael cynnig swydd arall o fewn y llywodraeth, fel cynhyrchydd a chyflwynydd teledu.
Yn ei raglen gyntaf yn ei swydd newydd mae'n cadeirio trafodaeth am ehangu dinesig gyda phanel sy'n cynnwys gwleidydd, datblygwr, anthropolegydd a Tinga - sy'n cyrraedd wedi i'r rhaglen gychwyn.
Nid yw Tinga'n cyfrannu, ni chawn glywed ei lais na'i farn yn y rhaglen. Nid yw'n medru Ffrangeg, iaith y rhaglen, hyd yn oed.
Tra bod y cyflwynydd yn croesholi'r panelwyr eraill, ei gydymdeimlad 芒 Tinga yn or-amlwg, gwelwn wleidyddion y llywodraeth yn ffonio'i gilydd yn wyllt cyn gorchymyn tynnu'r plwg ar y rhaglen.
Mae'r ffilm yn gorffen gyda neb ar 么l yn y stiwdio, neb ond Tinga, sydd wedi colli ei dir, a'r cyflwynydd sydd wedi colli ei swydd - am byth y tro hwn.
Cnoi cil Mae yma lawer i gnoi cil arno yn y ffilm yma. Gwelwn "ddatblygiad" a byd y cyfryngau drwy lygaid cymdeithas draddodiadol, seml.
Gwelwn urddas boneddigaidd aelodau'r hen gymdeithas ochr yn ochr ag ymgreinio taeogaidd is-weision y llywodraeth a thrah芒 sarhaus y gwleidyddion.
Gwelir y gymdeithas uchelwrol, Ffrangeg ei hiaith, pobl dduon hardd, rhai yn eu gwisgoedd Ewropeaidd, eraill yng ngwisgoedd traddodiadol ysblennydd y wlad; trawiadol iawn o'u cymharu 芒 Tinga droednoeth yn ei ddillad tlawd.
Yn ddieithriaid Gwelwn ddwy gymdeithas wahanol iawn, ond eto'n agos o safbwynt y cenedlaethau. Nid oes, yn fynych, ond un genhedlaeth rhwng trigolion traddodiadol y pentrefi a thrigolion y dinasoedd.
"Y mae ein perthnasau yno," medd y cyfarwyddwr Gaston Kabor茅, "ac eto pan awn adref, yr ydym yn ddieithriaid yno."
Y mae'n ffilm gwerth ei gweld a daeth nifer dda i'r dangosiad - mwy nag a welais yn un o ffilmiau eraill yr wythnos.
Bu Gaston Kabor茅 ei hun yn gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus yn Burkina Faso a bu'n bennaeth Canolfan Ffilm Genedlaethol y wlad.
Daeth i enwogrwydd am ffilm arobryn o'r enw Wend Kuuni a saethwyd yn yr un pentref ag a ddefnyddiwyd ganddo ar gyfer y ffilm yma.
Y mae modd benthyg Zan Boko ar VHS a DVD. Ei hyd yw 94 munud ac nid oes unrhyw gyfyngiadau oed i'r dystysgrif.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|