A Way of Life Y cyfarwyddwr yn ennill gwobr Bafta
Mae ffilm am hiliaeth yng nghymoedd y de wedi ennill gwobr Bafta i'w chyfarwyddwr, Amma Asante.
Cafodd A Way of Life ganmoliaeth uchel yn seremoni wobrwyo Bafta ddydd Sadwrn, Chwefror 12, 2005.
Derbyniodd Asante, a fu'n actio ar Grange Hill pan yn blentyn, 拢10,000 fel rhan o Wobr Carl Foreman am ei ffilm gyntaf.
Yn ogystal 芒 chyfarwyddo'r ffilm Asante oedd awdur y sgript hefyd ac fe'i dangoswyd gyntaf yng Ng诺yl Ffilm Caerdydd fis Tachwedd diwethaf a'i hadolygu ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
Mae'r stori yn troi o gwmpas llofruddiaeth hiliol ac yn ymwneud 芒 phedwar o bobl ifainc yn eu harddegau.
Mae'n agor gyda g诺r o dras Dwrcaidd yn cael ei stido i farwoilaeth tra bo babi un o'r llofruddion yn gwylio o'i goets fach.
Wrth dderbyn ei gwobr talodd Asante deyrnged i'r cyfarwyddwr castio o Gaerdydd, Gary Howe a fu ar un adeg yn gyfarwyddwr castio gyda Clwyd Theatr Cymru.
Dywedodd ef ei fod yn rhoi pwyslais ar y defnydd o acenion Cymreig mewn ffilm.
"Mae'n bwysig iawn. Dydw i ddim yn credu ein bod yn clywed digon o acenion Cymreig," meddai.
Datblygwyd y ffilm gan ITV Cymru gydag arian gan Sgrin Cymru.
Isod: Adolygiad Ffion Jones o'r ffilm a fydd yn cael ei dangos ar ITV Wales, Mawrth 19, 2005.
A Way of Life
Y s锚r Stephanie James Nathan Jones Gary Sheppeard Dean Wong Sara Gregory Oliver Haden Brenda Blethyn
Cyfarwyddwr Amma Asante
Hyd 90 munud
Adolygiad gan Ffion Jones Ffilm am hiliaeth yng nghanol anobaith strydoedd teras y de yw A Way Of Life, ffilm gyntaf Amma Asante.
Yr hyn sy'n annisgwyl yw bod Amma, awdur y sgript a chyfarwyddwraig y ffilm, er y trais, yn dangos llawer o gydymdeimlad gyda'r bechgyn sy'n euog o'r hiliaeth.
Ac y mae'r ffilm yn dangos trais yn ei holl ffieidd-dra. Yn ormodol efallai?
Dyna farn a glywais gan amryw yn y dangosiad cyntaf yng Ng诺yl Sgr卯n Caerdydd 2004.
Fy marn i yw, os ydych chi'n mynd i ddangos trais rhaid dangos erchyllter a chanlyniadau'r trais hwnnw, y gwaed yn llifo, marwolaeth.
Cicio i farwolaeth Mae'r stori'n cychwyn gyda Mwslemiad o Dwrci, sydd wedi byw yn hir yng Nghymru, yn cael ei gicio i farwolaeth gan bedwar o fechgyn a'r fam un-rhiant 17 oed, Leigh-Anne, yn eu hysio 'mlaen.
Mae'r ffilm yn mynd a ni yn 么l mewn amser wedyn i ddangos sut y digwyddodd hyn, beth sy'n arwain at y weithred echrydus.
Yma mae Amma, sydd ei hun yn ddynes ddu 35 oed o Dde Lundain, yn dangos y cydymdeimlad annisgwyl gyda Leigh-Anne a'i chyfeillion, Robbie, Gavin a Stephen.
Methu cael gwaith Pobl ifanc sy'n methu cael gwaith, yn cael eu trin fel baw yn y swyddfa gyflogaeth oherwydd y lle mae'n nhw'n byw - yn cael eu barnu ar sail eu c么d-post.
A'r awgrym wedyn fod dynion o dras gwahanol yn cael ffafriaeth. Yn raddol mae'r casineb noeth yn cynyddu wrth i'r stori fynd yn ei blaen tua'i diwedd anochel, gwaedlyd.
Hiwmor Nid fod y ffilm yn amddifad o hiwmor. Er enghraifft: Mae Leigh-Anne, sydd ran fwyaf o'r amser heb arian trydan, yn cael "anrheg" o oergell gan un o'i ffrindiau. Wedi ei hagor gwelir ei bod yn llawn bwyd - y cyfan yn amlwg wedi ei ddwyn.
A phan fo'r dyn sy'n cael ei ladd yn y stori, ac wedi cael ei alw'n "Paki" drwy'r ffilm, yn troi ar Leigh-Anne ac yn dweud wrth y ddynes dwp - neu eiriau i'r perwyl- nad "Paki" yw e ond Twrc. Un o eiliadau cofiadwy'r ffilm. Ac 么l castio cyfrwys.
Digwyddiad o bwys Tybed a fuasai'r ffilm mor dderbyniol pe byddai wedi ei wneud gan berson gwyn? Rwy'n amau. Rwy'n amau'n fawr a fuasai fy ymateb innau wedi bod yr un fath. Efallai mai ond dyn neu ddynes ddu allai lwyddo i gynhyrchu ffilm mor heriol a chignoeth.
Yn sicr, mae ffilm gan ddynes ddu yn bennaf am bobl wyn yn ddigwyddiad o bwys.
Mae yma berfformiadau ardderchog - Stephanie James, 19 oed o Aberd芒r, fel Leigh-Anne, a Brenda Blethyn yn fam i dad plentyn Leigh-Anne. Yr un modd y bechgyn.
Nid yw'n ffilm sy'n ddarlun caredig iawn o Gymry ifanc difreintiedig y de ond fel y gwn o gysylltiad 芒 Chyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd, nid yw'n stori annodweddiadol o ambell gwm.
Pam Cymru? Er i Amma Asante gael ei holi pam y dewisodd Gymru a hithau'n enedigol o Lundain ni chawson ateb eglur iawn. Yn sicr, doedd ganddi ddim cysylltiad 芒 Chymru cynt ond soniodd ei bod yn chwilio am rywbeth gwahanol. Pprofiad gwahanol a lle gwahanol.
Er mai dyma ffilm gyntaf Amma Asante, sy'n 35 oed, mae ganddi dipyn o brofiad ym myd teledu.
Hi sgrifennodd a chyfarwyddo'r gyfres Brothers and Sisters ar gyfer 大象传媒2 - y gyfres gyntaf i'w sgriptio a'i chyfarwyddo gan ddynes ddu.
Grange Hill Yn blentyn bu ganddi ran amlwg yn Grange Hill, yn chwarae rhan disgybl llawn bywyd yng nghanol popeth ac yn gorfod trefnu'r cartref.
"Annhebyg iawn i'r plentyn tawel oeddwn i mewn gwirionedd yn yr ysgol," meddai. Cadw'i phen i lawr i gadw allan o helynt fel llawer plentyn o dras ethnig.
"Fe wnes A Way of Life am fymryn yn llai na 拢2 filiwn," meddai wrthyf. "Ac mae gen i beth ffordd i fynd cyn cael fy arian yn 么l."
Rwy'n si诺r y bydd hi'n llwyddo - yn wir, mae'n haeddu llwyddo - a chael pob dimai yn 么l. Ffion Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|