No Country for Old Men (2008) Arswyd a hiwmor du
Y S锚r: Josh Brolin, Tommy Lee Jones, Javier Bardem, Kelly McDonald, Woody Harrelson
Cyfarwyddo: Ethan Coen, Joel Coen
Sgrifennu: Cormac McCarthy (llyfr), Joel ac Ethan Coen .
Hyd: 112 Munud
Adolygiad Shaun Ablett
Dyma ffilm orau'r flwyddyn hyd yn hyn ond bu yn sinem芒u yr America ers yr haf 2007 er mai fis Ionawr 2008 y'i gwelir yn y rhan fwyaf o wledydd.
Y cefndir yw bargen yn ymwneud 芒 chyffuriau yn mynd o chwith yn Texas yn 1980.
Clywir llais y plismon Ed Tom Bell (Tommy Lee Jones) ar ddechrau'r ffilm yn s么n sut mae'r ardal wedi newid dros y blynyddoedd gan droi'n lle peryglus iawn.
Pan yw'r prif gymeriad, Llewelyn Moss (Josh Brolin), yn darganfod dyn ar farw gyda dwy filiwn o bunnau mewn bag mae'n dwyn yr arian a gadael y dyn i farw sy'n golygu bod plismon lleol (Tommy Lee Jones) a llofrudd didostur, Anton Chigurh (Javier Bardem) a smyglwyr cyffuriau sydd eisiau eu harian yn 么l, ar ei warthaf drwy Texas a Mexico.
Mae Chigurh yn fodlon lladd unrhyw un i gael gafael ar yr arian gan gynnwys plismon a nifer o bobl ddiniwed.
O fewn y bag dillad lle mae'r arian mae dyfais sy'n caniat谩u i Chigurh wybod pryd mae'r bag yn cael ei symud - ond, wrth gwrs, nid yw Moss yn gwybod hynny ac mae'n rhoi'r bag i'w wraig, Carla Jean (Kelly McDonald), er mwyn iddi hi gael dianc rhag Chigurh sydd am ei lladd.
A dyna sut mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth.
Wedi llwyddo Awduron a chyfarwyddwyr y ffilm ydi Joel ac Ethan Coen, dau frawd talentog iawn er i nifer o'u ffilmiau diweddar fod yn siomedig ar wah芒n i The Big Lebowski.
Y tro hwn maent wedi llwyddo i ddod ag elfen o hiwmor tywyll i ffilm sydd 芒 llawer o densiwn a marwolaeth ac ni fu fy nghalon i'n curo mor gyflym erioed!
Cawn berfformiadau ardderchog gan bawb yn cynnwys Tommy Lee Jones fel Ed Bell.
Ond er cystal yw ef y cymeriad gorau gen i yw'r llofrudd Anton Chigurh gyda Javier Bardem yn cael cryn lwyddiant fel y cymeriad arswydus a didostur a gododd fwy o ofn arnaf nag unrhyw gymeriad tebyg ers blynyddoedd.
Byddwn yn cymell pawb - heblaw am blant - i wylio'r ffilm hon gyda chymeriadau, golygfeydd a stori sy'n plesio.
Ardderchog!
Darparwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
|
|