Miss Potter - y cysylltiad Cymreig Gardd yng Nghymru yn ysbrydoliaeth
Er nad yw hynny'n dod i'r amlwg yn y ffilm yr oedd i Beatrix Potter gysylltiadau Cymreig - ac yng Nghymru, yn wir, y creodd rai o'i chymeriadau.
Pan yn blentyn byddai Beatrix yn ymweld 芒'i hewythr oedd yn byw yng Ngwaenynog Hall rhyw dair milltir i'r gorllewin o dref Dinbych.
Ymweld nifer o weithiau Ac yng ngerddi Gwaenynog y gosododd un o'i straeon mwyaf adnabyddus, The Tale of the Flopsy Bunnies gyda'r cwningod wedi eu seilio ar rai y bu'n eu gwylio yn yr ardd yno.
Mae'r gerddi a'r plasdy yn dal yno ac yn denu oddeutu dwy fil o ymwelwyr y flwyddyn sydd am weld y fan a fu'n ysbrydoliaeth i un o awduron plant enwocaf y byd.
Yr oedd mam Beatrix a hen nain y perchennog presennol, Janie Smith, yn ddwy chwaer.
Credir i Beatrix Potter fod yn aros gyda'i "Uncle Fred" yng Ngawenynog rhyw 13 o weithiau yn Nawdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yr oedd Frederick Burton yn ddyn busnes llwyddiannus a oedd wedi gwneud ei arian yn y diwydiant cotwm yng ngogledd Lloegr.
Ymhlith ei ddiddordebau yr oedd casglu dodrefn o'r ddeunawfed ganrif - diddordeb a drosglwyddodd i Beatrix Potter ei hun gan beri iddi gynnwys rhai o'r dodrefn yn ei lluniau.
Dywedir y byddai wrth ei bodd yn darlunio ystafelloedd a choridorau panelog y plasdy.
Ond yn y gerddi y cafodd ei hysbrydoliaeth fwyaf ac mae'r gerddi hynny i'w gweld yn nifer o'i straeon gan gynnwys cwt garddwr.
Dr Johnson Mae Gwaenynog yn dyddio'n 么l i'r unfed ganrif ar bymtheg ac yn 1745 ymwelodd y Dr Samuel Johnson y geiriadurwr a'r lle ac y mae cofeb a godwyd ar lan Afon Ystrad i nodi'r achlysur gan y perchennog ar y pryd, John Myddleton, yno o hyd.
Mae llwybr drwy'r coed o gwmpas y plasty y gellir ei gerdded gyda lle parcio ddwy filltir i'r gorllewin o Ddinbych oddi ar yr A543.
Gellir ymweld 芒'r gerddi trwy drefniant rhwng Mehefin ac Awst - ac efallai gael cip ar ddisgynyddion y Flopsy Bunnies sy'n dal yno!
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Miss Potter
Dinbych - Lleol i Mi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|