Five Children and It Colli'r tr锚n
Five Children and It
Y s锚r Kenneth Branagh, Zo毛 Wanamaker, Tara Fitzgerald, Freddie Highmore, Eddie Izzard
Cyfarwyddo John Stephenson
Sgrifennu David Solomons
Hyd 89 munud
Sut ffilm Braf, ar un wedd, gweld ffilm sy'n arddel hen werthoedd a safonau traddodiadol. Ond pa werth hynny, os na all gydio yn nychymyg y plant a'r teuluoedd hynny y mae'n anelu atyn nhw?
Addasiad yw hon o un o nofelau E Nesbit, awdur y Railway Children a esgorodd ar fwy nag un ffilm lwyddiannus. Yr un yw'r awyrgylch a'r un yw'r natur yma gyda phump o blant yn cael 'anturiaethau' mewn lle dieithr yn ganolbwynt y stori hon hefyd. Cyfuniad o antur, ffuglen wyddonol a ffantasi.
Y stori Gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth mae tair chwaer a thri brawd poshyn cael eu hanfon o'u cartref yn Llundain i ddiogelwch plasdy Gothig ewythr ecsentrig yn Nyfnaint tra bo'u tad yn hedfan awyrennau yn erbyn y gelyn a'u mam yn nyrs.
O gyrraedd y plasty mae gorchymyn i beidio a mentro i'r t欧 gwydr yn cael ei anwybyddu, wrth gwrs, a thrwy hynny daw'r plant o hyd i'r hyn sy'n cael ei alw'n Psammead neu gorrach tywod (llais Eddie Izzard) ar draeth cyfagos.
Gyda'r creadur hwn 芒'r hawl i ganiat谩u un dymuniad y dydd i'r plant maen nhw'n cael sawl anturiaeth ddigon dof, megis cael help i dwtio'u stafelloedd a thyfu adenydd sy'n eu galluogi i hedfan.
Cyn diwedd y ffilm, fodd bynnag, mae cyfle iddyn nhw achub eu tad eu hunain rhag ei ddiwedd yn nwylo'r gelyn.
Ochr yn ochr 芒 hyn oll mae ymddygiad ecsentrig eu hewythr (Kenneth Branagh) a'u modryb (Zoe Wanamaker) i fod i godi gw锚n.
Yn gwbl ystrydebol mae'r bachgen tew yn annifyr a gelyniaethus.
Ym 1902 y cyhoeddwyd y nofel wreiddiol ond fe'i diweddarwyd i adeg y rhyfel ar gyfer y ffilm.
Y canlyniad Siomedig. Tra bo'r addasiad ffilm o'r Railway Children wedi plesio, yn ei ffordd dyner ei hun, oedolion a phlant fel ei gilydd nid yw Five yn plesio o ran hiwmor nac o ran stori sy'n argyhoeddi - yn enwedig i genhedlaeth sydd wedi dod i arfer a sinema llawer iawn mwy soffistigedig.
Salw a difywyd yw'r effeithiau technegol hefyd gan gynnwys dyn bach y tywod.
Y darnau gorau Dim byd i sodro rhywun yn ei sedd mewn gwirionedd.
Perfformiadau Ar wah芒n i gyfraniad lleisiol Eddie Izzard fel dyn bach y tywod, blinedig a difywyd ydi'r holl berfformiadau.
Ambell i farn Anodd dod o hyd i unrhyw ganmoliaeth gyda'r 大象传媒 yn dweud mai dim ond y plentyn hawsaf i'w blesio fydd yn fodlon gyda hon.
Mae gwefan y 大象传媒 yn gofidio hefyd am y moesoli amrwd a'r pwyslais ar hunanaberth, cyfrifoldeb a phwysigrwydd yr uned deuluol.
Byddai E Nesbit yn gwrido meddai'r Times
Gwerth mynd i'w gweld Hyd yn oed efo'r plant - na.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|