The Edge of Love Nid ffilm am Dylan ond am gariad cariadon Dylan
Sut ffilm? Er mai fel 'Y ffilm Dylan Thomas' y bydd cyfeirio at The Edge of Love nid ffilm am Dylan Thomas yw hi mewn gwirionedd - ond ffilm sy'n ceisio dadansoddi y berthynas rhwng Caitlin, gwraig Dylan, Vera Phillips, hen gariad iddo cyn ei briodas, a'r Capten William Killick, g诺r Vera.
Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu'r ffaith na fyddai'r ffilm wedi ei gwneud o gwbl oni bai am y cysylltiad Dylan Thomas, waeth lle mae'r cyfarwyddwr a'r awdur yn dymuno i'r pwyslais fod.
Astudiaeth o gariad sydd yma ac yn arbennig y cariad sy'n blaguro rhwng y ddwy ferch ac fe fu, yn ystod cyfnod y ffilmio, ddarogan golygfeydd lesbiaidd ond ni wireddir hynny ar y sgrin.
Y stori
Mae'r stori'n cychwyn yn Llundain adeg yr Ail Ryfel Byd lle mae Dylan Thomas (Matthew Rhys) wedi'i gyflogi i sgrifennu sgriptiau propaganda rhyfel.
Yno mae'n cyfarfod cyn gariad o'i arddegau, Vera Phillips (Keira Knightley), sydd bellach yn gantores yn ceisio codi calon y Llundeinwyr yn ystod dyddiau blin y blitz
Er bod Dylan yn briod 芒 Caitlin MacNamara (Sienna Miller) mae'n ei chael yn hawdd cynneu t芒n ar hen aelwyd Vera sy'n canlyn capten yn y fyddin, William Killick (Cillian Murphy).
Pan aiff William i ryfle mae'r tri arall yn symud i Gymru lle mae cyfeillgarwch glos yn blaguro rhwng Vera a Caitlin - nid 芒 Dylan!
Mae'r cyfan yn menage a trois gymhleth a gymhlethir fwyfwy gyda dychweliad William o'r fyddin.
Y canlyniad
Yn y berthynas rhwng Vera a Caitlin y mae diddordeb pennaf y cyfarwyddwr John Maybury a Sharman Macdonald sy'n cael ei disgrifio'n gas gan un adolygydd fel "dramodydd addawol ar un adeg"!
Ond yn wir mae'r adolygwyr Saesneg bron a bod yn unfryd eu barn nad yw'r stori - er yn un wir yn 么l pob hanes - yn gweithio gyda phawb yn cwyno am ddiffygion mewn sgriptio a chymeriadu.
Dyma rai sylwadau: "Yr ydych yn cyrraedd pwynt tua hanner ffordd drwy'r ffilm yr ydych yn dymuno iddyn nhw i gyd lithro'n dawel i'r nos dda yna.
"Neu, os nad yn dawel, mynd unrhyw ffordd a ddymunant cyn belled eu bod nhw'n mynd yn syth nawr." Deborah Ross yn y Spectator sy'n disgrifio'r holl ymdrech fel "muddle" oeraidd.
"Er bod i'r ffilm bedair stori garu nid yw'r un ohonynt yn ddigon cryf i gadw ein sylw. Mae Maybury yn dibynnu llawer gormod ar brydferthwch y ddwy brif actores yn hytrach nag ar eu cymeriadau . . .
"Y mae hon eisiau bod yn yn stori emsoiynol fawr am gariad a cholli cyfeillgarwch ond yr ydych yn gadael y sinema heb deimlo dim yn arbennig. Nid yw byth yn taro tant oherwydd nad oes neb yr ydym yn poeni amdanyn nhw ar y sgrin." Cosmo Landesman yn y Sunday Times
Ffilm sy'n mynd a ni "to the edge of sleep yn 么l y Mirror.
"Dim ond un peth sydd o'i le gyda The Edge of Love - ond y mae'n un peth mawr, y sgript . . . A beth sy'n anfaddeuol yw na roddwyd unrhyw ddyfnder na syniad o fywyd mewnol i'r un o'r cymeriadau ar wah芒n i William," meddai'r Mirror gan awgrymu y byddwch yn gadael y sinema heb syniad pam mae Vera gymaint am Dylan, pam y daw hi'n gymaint o ffrindiau 芒'i wraig a pham y daeth William yn gysylltiedig 芒 hwy yn y lle cyntaf. Nid y bydd fawr o ots gennych beth bynnag.
Mae Ryan Gilbey yn y New Statesman hefyd yn rhestru nifer o gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb.
"Mae gan y gynuellidfa gryn waith yn ceisio dyfalu am beth neu am bwy y mae'r ffilm - ar wahan i wefusau Keira Knightley . . .," meddai
Ond yn ol Times Online mae posibiliadau masnachol i'r ffilm gan ddweud mai'r hyn sy'n wefreddiol amdani yw ei darlun o gyfeillgarwch benywaidd yn goroesi gweithredoedd o frad gyda'r hyn y mae'r ddwy ferch yn ei brofi yn drech na'u perthynas ill dwy a Dylan Thomas.
Yn yr Observer mae Philip French yn achwyn fod Sharman Macdonald yn derbyn fel ffaith ddamcaniaethau dadleuol am y berthynas rhwng Dylan a vera a rhwng Vera a Caitlin.
Ond y mae'n cytuno fod hon yn stori hudolus ond bod ei byrdwn dramatig braidd yn amwys yn y cynhyrchiad hwn.
Mae'n gofidio hefyd mai dim ond ychydig sydd gan y ffilm i'w ddweud am Dylan y bardd er i rai o'i gerddi pwysicaf gael eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod dan sylw gan gynnwys Fern Hill.
Gwerth ei gweld Oherwydd y gwahaniaethau barn bydd yn rhaid gweld drosto'i hun - ac wedyn dod i benderfyniad.
Y mae yna hefyd arddangosfa am y ffilm yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe gyda gwisgoedd a chelfi o'r ffilm, sgriptiau ac yn y blaen yn rhan o arddangosfa barhaol am y bardd - y fwyaf o'i bath yn y byd.
Rhagor am y ffilm
Cysylltiadau Perthnasol
Dylan Thomas
|
|