In Good Company Dyn da mewn cwmni drwg
In Good Company
Y s锚r Dennis Quaid, Topher Grace, Scarlett Johansson, Marg Helgenberger, David Paymer, Selma Blair
Cyfarwyddwr Paul Weitz
Sgrifennu Paul Weitz
Hyd 109 munud
Sut ffilm Cyfalafiaeth gorfforaethol yr Unol Daleithiau yn dod dan lach Paul Weitz mewn ffilm ddychan am anghenfil o gydgwmniau byd-eang yn chwynnu, diswyddo a diraddio gweithwyr ar 么l meddiannu cylchgrawn chwaraeon.
Y stori Dan Foreman (Dennis Quaid) yw pennaeth adran gwerthu hysbysebion Sports America ond pan yw'r cylchgrawn yn cael ei brynu gan gorfforaeth fawr disodlir Dan, brofiadol, egwyddorol, gan wiscid 26 oed, Carter Duryea (Topher Grace), sy'n prysur ddringo'r ysgol gorfforaethol a dyfodol llewyrchus o'i flaen os llwydda i chwynnu'r staff a gwneud mwy o arian.
Wrth ddod yn fos ar Dan mae Duryea hefyd yn syrthio mewn cariad a'i ferch, Alex (Scarlett Johansson) sy'n ffyrnigo'r tad fwyfwy ac yn cymhlethu'r berthynas fregus rhwng pawb a'i gilydd.
Yn rhedeg ochr yn ochr 芒'r stori hon mae un arall nad oes ei gwir hangen am wraig Dan (Marg Helgenberger) yn disgwyl babi.
Y canlyniad Go brin y bydd y corfforaethau mawrion yn gwingo'n ormodol dan gyffyrddiad chwip Weitz gan fod ffyrnigrwydd y dychan yn cael ei dyneru'n arw gyda diwedd byw'n hapus byth wedyn y ffilm.
Fodd bynnag mae'n ffilm hawdd iawn i'w gwylio er y gellid fod wedi dewis swydd a fyddai'n ennyn mwy o gydymdeimlad 芒 Dan Foreman nag un gwerthwr hysbysebion i gylchgrawn!
Y darnau gorau Yr olygfa 'rhaid imi adael i chi fynd'.
Dan yn darganfod fod Carter ag Alex yn gariadon, mewn caffi.
Carter yn prynu car.
Perfformiadau Quaid yn wych fel y dyn teulu agos i'w le, triw i'w egwyddorion, sy'n gweld pethau'n dadfeilio o'i gwmpas. Wyneb gwych!
Mae Malcolm McDowell yn amlwg fwynhau chwarae cameo y mogwl megalomaidd sy'n bennaeth y gorfforaeth ond am rhyw reswm nid yw'n cael ei enwi ymhlith yr actorion.
Prennaidd braidd ydi Scarlett Johansson a phob hyn a hyn y mae Topher Grace yn argyhoeddi.
Gystal 芒'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Boddhaol yw barn y mwyafrif - yn hytrach nag ardderchog gyda chanmoliaeth arbennig i berfformiad Quaid.
Geiriau gorau . . . Cyngor Foreman yngl欧n 芒 chyfrinach bywyd priodasol dedwydd.
Gwerth mynd i'w gweld Ydi - yn well na'r rhelyw diolch i Quaid.
|
|