Borat: Cultural Learnings Of America For Make Benefit Glorious Nation Of Kazakhstan (2006)
Y s锚r
Sacha Baron Cohen, Ken Davitian, Pamela Anderson
Cyfarwyddo
Larry Charles
Sgrifennu
Sacha Baron Cohen
Hyd
84 munud
Sut ffilm?
Cymysgedd o Candid Camera ac Alf Garnett ar daith ardraws yr Unol Daleithiau mewn ailbobiad o'r hen, hen, hen, stori am ddiniweityn 'o'r wlad' yn cael ei hun mewn pob math o helyntion yn 'y dref'.
Y stori
Yn ail ohebydd teledu gorau Kazakhstan mae Borat Sagdiyev (Sacha Baron Cohen) yn cael ei anfon i'r Unol Daleithiau gyda'i gynhyrchydd Azamat Bagatov (Ken Davitian) i sylwi ar arferion y wlad ac i wneud ffilm ddogfen am y ffordd Americanaidd o fyw.
Yn fuan yn ystod ei ymweliad mae'n syrthio mewn cariad 芒'r actores Pamela Anderson ar 么l ei gweld mewn rhifyn o Baywatch ar deledu yn ei westy.
Cychwyn ar daith ar draws y wlad i Galiffornia mewn hen fan hufen i芒 gyda Bagatov er mwyn cwrdd 芒 hi. Yn ystod y daith honno daw ar draws sawl agwedd o fywyd 芒 diwylliant Americanaidd.
Mae rhannau helaeth o'r ffilm yn cynnwys pobl go iawn y mae Borat yn tynnu arnyn nhw gyda'i sylwadau eithafol cwbl wleidyddol anghywir - yn wrth Iddewig, yn ddibarch o fenywod ac o hoywon ac o Sipsiwn, er enghraifft.
Y canlyniad
Un j么c estynedig yw'r ffilm- ac mae angen gofal cyn penderfynu am ben pwy yn union yr ydym yn chwerthin.
Erbyn y diwedd, y peryg yw mai brawddeg o waith T H Parry-Williams sy'n crynhoi'r cyfan orau pan ddywedodd.
"Chwerthin am ein pennau ein hunain y byddwn, wrth gwrs," meddai wrth s么n am duedd pobl i chwerthin am ben pethau fel mulod, mwnciod a bychod gafr neu hyd yn oed gloc mawr - teclyn a ystyriai ef yn un hanfodol ddoniol.
Borat yw'r cloc mawr fan hyn - ac wrth chwerthin am ei gastiau di-chwaeth a'i driciau yn iro Americaniaid gyda'i ragfarnau mae peryg ein bod ninnau hefyd yn wrthrychau ei ddychan dim ond o chwerthin a mwynhau'r beiddgarwch anweddus.
Gadawodd sawl un y sinema wedi eu gwefreiddio gan feiddgarwch Borat - ond nid dyna amcan y ffilm.
Mae'r dychan deifiol yn tanlinellu erfyn mor beryglus y gall eironi fod a pha mor hawdd ei gamddeall.
Byddai'n beryg dod o ddangosiad o Borat yn teimlo'n rhy hunangyfiawn.
Ta beth - mae'n gwestiwn a yw'r un j么c o iro rhagfarnau rhai Americaniaid yn ddigon i gynnal ffilm gyfan.
"Dim ond jyst," beryg, ac mae Cohen i'w ganmol am ei berfformiad unigryw.
I'w ganmol hefyd am ei ddewrder - mae rhywun yn gwylio'n gegrwth weithiau y sefyllfaoedd y mae'n rhoi ei hun ynddynt - yn enwedig golygfa mewn Rodeo lle mae'n cefnogi yn gyntaf "your war of terror" yn Irac i gymeradwyaeth cynulleidfa sydd heb sylweddoli i'r gair bach 'of' yna ddisodli'r 'on' arferol!
Ond maen nhw'n sylweddoli'n iawn beth sy'n digwydd pan yw'n llurgunio eu hanthem genedlaethol a dim ond trwy groen ei ddannedd y mae'n dianc yn ddianaf.
Perfformiadau Mae rhai comediwyr yn ffodus o fod yn 'edrych' yn ddoniol cyn hyd yn oed ddweud dim ac mae Cohen wedi saernio'n ofalus y cymeriad hwn o ran pryd a gwedd - fel y gwnaeth gydag Ali G wrth gwrs.
Caiff y rhai sy'n gyfarwydd ag ef y perfformiad disgwyliedig - i eraill sy'n ei weld am y tro cyntaf yng nghroen Borat fe'u rhyfeddir ac o bosib y byddan nhw yn mwynhau'r ffilm yn fwy na'r rhai sy'n gyfarwydd ag ef.
Yr un mor ffodus ei edrychiad yw'r blonegog Davitian hefyd fel cydymaith Borat. Heb ei ddillad mae'n anhygoel!
Gan mai pobl go iawn mewn sefyllfaoedd lle nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn 'actorion' yw llawer o'r cymeriadau eraill mae'n anodd s么n am berfformiadau - a hynny sy'n gwneud yr amherfformiadau hynny cyn gryfed.
Mae rhywun yn meddwl yn arbennig am y criw o ferched ffeministaidd sy'n gorfod ymateb i gyhuddiad Borat fod sawl peth na all menyw ei wneud oherwydd nad yw ei hymennydd ond yr un faint ag un gwiwer. Bydd gwiwerod yn gandryll o glywed hynna.
Mae Pamela Anderson yr un Pamela Anderson ag ym mhopeth arall gyda'i golygfa hi yn amlwg heb ei ffilmio'n fyrfyfyr ac yn dioddef o'r herwydd.
Darnau gorauY cowboi yn y rodeo sydd gant y cant o blaid crogi Moslemiaid a hoywon. Llurgunio'r anthem genedlaethol yn yr un Rodeo.
Y wraig sy'n egluro mor gwrtais arferion lafatoraidd America wedi i Borat ddychwelyd o'r t欧 bach at y bwrdd bwyd gyda'i faw mewn cwdyn plastig. Y ffeit noeth rhwng Borat a'i gynhyrchydd blonegog.
Borat yn ei drowsus nofio - gwyrthiol ta be.
Y cyfweliad teledu.
Borat yn camgymryd gwraig sy'n gwerthu sborion o'i th欧 ar ei lawnt am sipsi sydd wedi eu dwyn ac yn ei chyhuddo mai person wedi ei grebachu ganddi yw dol Barbie.
Ambell i farnDisgrifiad cymwys iawn y New Statesman o Cohen yw "kamikaze performer" ac y mae sawl enghraifft o hynny yn Borat. Cyfeiria'r un adolygydd at ei allu i greu nid yn unig ddagrau'r clown ond ei gleisiau a'i esgyrn toredig hefyd.
Mewn adolygiad yn ieithwedd Borat mynegi siom a dryswch am y ffilm mae gwefan Saesneg y 大象传媒 gan ofyn y cwestiwn ai'r acen a'r gystrawen dramor od yw'r unig ddoniolwch. Ond y mae yn awgrymu gweld y ffilm eich hun cyn dod i benderfyniad . . .
Mae adolygiad yr Observer mor ffwrbwt ag i ddweud popeth wrth ddweud dim.
Nid y Daily Mirror - dan y pennawd Stars and Snipes - yw'r unig un i awgrymu mai Borat fydd comedi orau 2006. "Y mae y peth doniolaf rydw i wedi'i weld yn fy mywyd," meddai'r adolygydd sydd o'r farn mai dyma gomedi'r flwyddyn os nad y degawd!
Gwerth ei gweld? Mae gofyn mynd - neu fyddwch chi ddim yn gwybod am beth mae pawb arall yn siarad gan fod un peth yn sicr iawn - fe fyddwch yn siarad ac yn siarad amdani wedyn. Ac yn holi eich hun hefyd, beth yn union mae hi'n ei ddweud ac yn pryderu efallai i rai chwerthin am y pethau anghywir. Byddai hynny'n eironig iawn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|