Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y S锚r Daniel Radcliffe, Emma Watson, Rupert Grint, Imelda Staunton, Gary Oldman
Cyfarwyddo: David Yates
Sgrifennu: Michael Goldenberg
Hyd: 133 munud
Dyma'r bumed ffilm a seiliwyd ar lyfrau J.K.Rowling ac mae'n teimlo fel adeg hir iawn er pan ddaeth y llyfrau allan, ac wedyn y ffilm gyntaf.
Er i bob ffilm gael ymateb gwahanol gan wahanol bobl, maen nhw, yn fy marn i, yn dal yn gryf gyda llawer o bethau gwahanol ac arbennig iawn ynddynt.
Ar ddechrau'r ffilm hon ymosodir ar Harry (Daniel Radcliffe) a Dudley (Harry Melling) gan y Dementors gan orfodi Harry i ddefnyddio ei wialen hud i'w rhwystro yn groes i reolau y Minsitry of Magic.
Ar 么l hala'r haf ar ben ei hunan, heb glywed gan ei ffrindiau, anfonir Harry i leoliad diogel, t欧 Sirius Black (Gary Oldman).
Sefydlwyd rhyw fath o gymdeithas gan Albus Dumbledore (Michael Gambon), yr Order of the Phoenix i gael gwared 芒 Lord Voldemort (Ralph Finnes) unwaith ac am byth. Mae aelodau'r gymdeithas hon yn cynnwys Dumbledore, Ron Weasley (Rupert Grint) a'i deulu, Sirius Black, Mad Eye Moody (Brendan Gleeson) ac eraill.
Mae nifer o gymeriadau newydd fel Luna Lovegood (Evanna Lynah) a Dolores Umbridge (Imelda Staunton) yn y ffilm.
Gydol y ffilm, nid oes neb o fyd dewiniaeth yn fodlon credu bod Lord Voldemort n么l.
Mae Dumbledore yn cael ei wahardd o Hogwarts a Dolores Umbridge yn Bennaeth newydd ac o dan ei rheolaeth hi, mae'r rheolau yn newid, a chyn bo hir nid oes rhyddid o gwbl i'r disgyblion.
Felly, gyda help Ron a Hermione (Emma Watson), mae Harry yn creu 'byddin' i helpu'r disgyblion ddefnyddio hud i amddiffyn eu hunan gan ei fod yn sicr erbyn hyn bod Voldemort yn 么l.
Cawn ddiweddglo trist ofnadwy, gyda Sirius yn marw pan fo Harry, ei ffrindiau ac aelodau eraill o'r Order of the Phoenix yn ymladd Lord Voldemort a'i ddewiniaid.
Nid dyma ffilm orau y gyfres a hithau heb lawer o gyffro cyn y diwedd - ond mae'r frwydr rhwng Dumbledore a Voldemort yn ardderchog.
Fel arfer, mae Daniel Radcliffe yn dda fel Harry a Rupert Grint ac Emma Watson fel Ron a Hermione.
Credaf mai Gary Oldman fel Sirius Black a roddodd y perfformiad gorau gan ei fod yn gymeriad diddorol a rhyfedd iawn.
O'r herwydd, yr oeddwn yn drist iawn pan gafodd ei ladd.
Os ydych wedi mwynhau'r ffilmiau Harry Potter eraill ewch i weld hon gan ei bod yn profi unwaith yn rhagor pam mae'r ffilmiau hyn a'r llyfrau gwreiddiol mor boblogaidd dros y byd.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|