Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Y S锚r: Steven Pasquale, Reiko Aylesworth, John Ortiz, Johnny Lewis, Ariel Gade
Cyfarwyddo: Colin Strause, Greg Strause
Sgrifennu: Shane Salerno
Hyd: 93 Munud
Adolygiad Shaun Ablett
Mae'r ffilm hon yn barhad o'r ffilm Aliens Vs Predator (2004).
Mae'n dechrau gyda dau 'Predator' yn rhoi'r un a laddwyd ar ddiwedd y ffilm gyntaf mewn cerbyd i'w gludo i'w fyd nhw go iawn.
Yr hyn na 诺yr y ddau yw i'r 'Predator' ar ddiwedd y ffilm ddiwethaf gael ei ffrwythloni gan un o'r 'aliens' a hwnnw'n awr yn torri allan o'r corff a lladd y ddau 'Predator' a thyfu'n rhywbeth o'r enw 'PredAlien'.
Mae'r cerbyd yn syrthio'n 么l i'r ddaear y tu allan i Colorado yn yr Unol Daleithiau.
Newydd ddychwelyd yno mae un o'r prif gymeriadau, Dallas (Steve Pasquale), wedi cyfnod yng ngharchar.
Newydd ddychwelyd adref hefyd mae Kelly (Reiko Aylesworth) a fu'n filwr yn Irac.
Mae 'Predator' arall yn dod o'u byd nhw i Colorado hefyd er mwyn cael gwared a'r aliens.
Maes o law mae'n mynd yn frwydr ddwys rhwng y Predalien, y Predator a'r Aliens gydag ansicrwydd pwy fydd fuddugol.
Bum yn edrych ymlaen at weld y ffilm hon ham fy mod yn hoff iawn o'r ffilmiau Predator - yn enwedig yr un gyntaf n么l yn yr Wythdegau gydag Arnold Schwarzenegger yn chwarae'r prif gymeriad.
Hoffais hefyd Aliens Vs Predator 2004.
Y peth gorau am y ffilm ffiweddaraf hon yw'r cyffro a'r tyndra.
Nid ydy'r actorion yn adnabyddus iawn a does yna ddim perfformiadau gwych ychwaith - ond gyda'r math yma o ffilm nid ar hynny y mae rhywun yn canolbwyntio gan mai ffilm i blesio pobl yw hon yn hytrach nag un i'ch hala i feddwl.
Ffilm yw hi i rai sy'n hoffi llawer o gyffro a rhywbeth syml i'w ddeall a'i ddilyn.
Darparwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
|
|