The Assassination of Jesse James Adolygiad gan Shaun Ablett o 'The Assassination of Jesse James By The Coward Robert Ford' (2007)
Y S锚r:
Brad Pitt, Casey Affleck, Sam Rockwell, Paul Schneider, Garret Dillahunt
Cyfarwyddo:
Andrew Dominik
Sgrifennu:
Andrew Dominik
Hyd:
160 munud
Anaml y byddaf i'n mynd i weld ffilmiau cowboi. A minnau heb fy ngeni pan oedd ffilmiau John Wayne a'i debyg yn enwog dros y byd dydw i ddim wedi medru gwerthfawrogi y math yna o ffilmiau - a phan glywais taw Brad Pitt oedd yn chwarae'r prif gymeriad yn y ffilm hon nid oeddwn yn sicr a oeddwm am fynd i'w gweld.
Ond wedi clywed llawer o bethau da amdani - gan gynnwys perfformiad Pitt - penderfynias gael blas o rywbeth gwahanol.
Yr oeddwn yn fud yn dod allan o'r sinema; yn methu credu pa mor ardderchog oedd y ffilm.
Er yn canolbwyntio ar ddyddiau olaf Jesse James (Brad Pitt) cawn weld pa fath o bethau wnaeth e yn ei orffennol gan gynnwys cymryd rhan mewn lladrad tr锚n.
Wrth feddwl am y camgymeriadau yn ei fywyd, mae James yn sylweddoli sut mae'r byd yn newid yn gyflym fel na fydd lle i ddynion fel ef cyn bo hir.
Mewn ffordd ryfedd iawn, mae James yn gwybod nad yw'n mynd i fyw yn ddigon hir i gael gweld sut mae'r byd yn mynd i fod.
Mae Brad Pitt yn chwarae rhan arbennig wrth bortreadu problemau'r cymeriad yma ac i raddau gallwn ninnau uniaethu ag ef.
Gwelwn effaith ei bryderon arno wrth iddo droi yn ddyn heb bwrpas ac heb wybod beth i'w wneud 芒'i fywyd.
Y cymeriad pwysig arall yn y ffilm yma yw Robert Ford (Casey Affleck), y dyn sy'n lladd James. Datguddir y berthynas rhwng y ddau.
Ac o'r holl bobl yn y byd, Ford yw ei ffrind gorau a'r un na fyddai James byth wedi ei ddychmygu yn ei ladd e.
Mae Casey Affleck yn darlunio Ford fel dyn gyda rhyw fath o obsesiwn am James. Ei ddymuniad yw bod fel ef.
Hyd yn oed ar ddiwedd y ffilm nid yw'n gwbl glir pam y dewisodd ladd James.
Mae'r cyfarwyddwr Andrew Dominik wedi llwyddo i greu golygfeydd sy'n cyfleu emosiynau'r cymeriadau trwy gydol y ffilm.
Yn ffilm ag iddi elfennau o ffilmiau'r Pumdegau mae iddi hefyd naws fodern.
Yn canolbwyntio ar y stori a'r cymeriadau yn fwy na chyffro a thechnegau mae'n sicr yn ffilm i'w gwylio - hyd yn oed os nad ydych wedi mwynhau ffilmiau eraill Brad Pitt rhyw lawer - fel fi.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|