The Exorcism of Emily Rose Lle i Gythreuliaid
Y s锚r
Laura Linney, Tom Wilkinson, Jennifer Carpenter, Campbell Scott, Colm Feore
Cyfarwyddwr
Scott Derrickson
Sgrifennu
Scott Derrickson, Paul Harris Boardman
Hyd
117 munud
Adolygiad gan Aled Edwards Roedd hi'n werth gweld y ffilm arswyd The Exorcism of Emily Rose. Cafwyd perfformiadau hynod o gryf gan Laura Linney fel Erin, Tom Wilkinson fel y Tad Moore a Jennifer Carpenter fel Emily Rose ei hun.
Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes merch ifanc a gollodd ei bywyd wrth i eraill geisio ei gwaredu o gythraul. Yn 么l yr arfer, fe ychwanegodd Hollywood sawl peth at yr hyn a ddigwyddodd o ddifrif.
Yn y llys
Ar 么l ymdrech aflwyddiannus ar ran y Tad Moore i waredu Emily Rose o'r hyn a oedd yn ei phoeni y mae'n cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Ceir cyferbyniadau cryfion rhwng y modd y mae'r agnostig, Erin, yn amddiffyn yr offeiriad anffodus a'r erlynydd, Ethan, sy'n Gristion ffyddlon.
Y mae merch mewn uffern bersonol yn gwthio offeiriaid o flaen ei well.
Y mae'r trafod sy'n dod i'r amlwg rhwng y Cristion a'r agnostig yn hynod o ddiddorol.
Yn rhinweddol agnostig y mae Erin yn agor lle yn y modd mwyaf cywrain i'r hyn na all gwyddoniaeth ei egluro.
Y mae Ethan yn creu agendor hwylus rhwng ei gred bersonol a'r awydd i gadw hanfodion achos arbennig at yr hyn sydd i'w egluro gan feddygon a gwyddonwyr.
Y portreadu
Yr hyn sy'n cyfoethogi'r ffilm yw'r modd y mae'r camera yn caniat谩u dau ddehongliad.
I'r Cristion ffyddlon, fe all y ddau ddehongliad fod yn ddilys.
Dwi'n credu mewn gwyddoniaeth fel rhodd gan Dduw ar gyfer dynoliaeth. Dwi hefyd yn credu yn angerddol yn Nuw a'i ddirgel ffyrdd.
Priod waith diwinyddiaeth yw dangos i'r sawl sy'n credu fod Duw yn llawer mwy nag unrhyw ddehongliad ohono. Priod waith gwyddoniaeth yw dangos bod mwy i'w ddysgu am unrhyw beth.
Y mae rhywbeth o'i le mewn unrhyw ddiwinyddiaeth sy'n cau'r drws i bosibiliadau annisgwyl. Ceir rhywbeth hynod o dlawd mewn ymchwiliad gwyddonol sy'n cau'r drws ar yr annisgwyl.
Amcan gwyddoniaeth a diwinyddiaeth yw gwybod mwy am yr hyn sydd dan sylw.
Gweld a chred
Ar gyfer y sawl sy'n disgwyl i'r ffilm hon ddangos bod cythreuliaid i'w cael fe geir siom.
Siomir hefyd y rhai sydd am ddatgan taw lol yw'r cyfan.
Y mae'n datgelu rhywbeth am y Duw hwnnw sydd wedi ein creu i feddwl a phenderfynu dros ein hunain.
Duw sy'n caniat谩u inni gredu a gweld yn hytrach na gweld a chredu.
Hynny hefyd sy'n gwneud y ffilm hon yn un gwerth i'w gweld.
Cysylltiadau Perthnasol
Wythnos o Feddwl - myfyrdod wythnosol gan Aled Edwards
|
|