A Good Year (2006) Ystrydebau yn Provence
Y s锚r
Russell Crowe, Marion Cotillard, Albert Finney, Abbie Cornish, Freddie Highmore
Cyfarwyddo
Ridley Scott
Sgrifennu
Marc Klein - ar sail nofel gan Peter Mayle a wnaeth enw iddo'i hun gyntaf gyda'r gyfrol A Year in Provence rhyw ddeng mlynedd yn 么l.
Hyd
117 munud
Sut ffilm
Yr hen ystrydeb o ddyn ariangar ac annymunol yn darganfod ei fod mewn gwirionedd yn un go agos i'w le dim ond o gael ei drawsblannu o Lundain i winllan yn Ffrainc lle mae'n syrthio mewn cariad 芒 Ffrances ddeniadol - ar 么l ei tharo oddi ar ei beic gyda'i gar wrth gwrs.
Hyd yn oed ym Mhrovence, trwy gicio a brathu mae cariad yn magu.
Y stori
Yn frocar annymunol yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain mae Max Skinner (Russell Crowe) yn etifeddu t欧 crand a gwinllan ei ewythr Henry (Albert Finney) yn Provence.
Mae'n picio draw i drefnu gwerthu'r lle a phocedu'r arian ond yn syrthio mewn cariad 芒 merch ddeniadol sy'n gweini byrddau mewn lle bwyta (Marion Cotillard) ac 芒'r wlad ei hun gan ddarganfod ar yr un pryd nad yw arian yn bopeth.
Y canlyniad
Yr oedd y cyfle cyntaf hwn i Ridley Scott - y cyfarwyddwr - a Russell Crowe yr actor - adnewyddu'r berthynas lwyddiannus a sefydlwyd rhyngddynt gyda Gladiator yn tynnu d诺r o ddannedd sawl un.
Ond siom fawr a gaiff y rhai hynny sy'n disgwyl yr un llwyddiant eto gan fod hon yn ffilm cwbl ystrydebol ei stori a b芒s ei chymeriadau.
Diolch, felly, am y pentyrrau o luniau hardd o gefn gwlad Ffrainc. Neis iawn.
O bosib mai'r gorau y gellir ei ddweud am y ffilm yw iddi gadw ysbryd a naws nofel Peter Mayle - y Sais a drodd ei gefn ar Loegr, symud i Provence a gwneud ceiniog reit ddel yn olrhain yr hanes mewn llyfrau a chyfres deledu wedi'i sylfaenu arnynt.
Yn y Gymru Gymraeg, lle'r oedd geiriau fel 'mewnlifiad' yn yr un frawddeg 芒 'cefn gwlad' yn cael eu hystyried yn hyll, doedd A Year in Provence ac ati ddim cweit mor apelgar.
Perfformiadau Go brin y bydd yr un o'r actorion am gynnwys y ffilm hon yn eu CV.
Efallai bod Crowe yn drawiadol gyda chledd yn ei law a sandalau am ei draed - ond dydi o ddim yn ddyn comedi. Hyd yn oed gydag acen Saesneg wneud.
Ambell i farn
Byddai'n rhaid teithio cryn dipyn pellach na Provence i ddod o hyd i rywun 芒 gair da i hon. Mae gwefan Saesneg y 大象传媒 yn ei chymharu ag hysbyseb Renault Clio gyda'i holl luniau hardd o olygfeydd Ffrengig. "The esate looks as pretty as a brochure," meddir.
Yn y Spectator dywed Deborah Ross na all gredu y byddai neb yn gwneud ffilm fel hon - llai fyth Ridley Scott a fu'n cyfarwyddo Blade Runner a Gladiator a enillodd "dunelli" o wobrau iddo.
"Ond does yna ddim drama i'r stori fan hyn a does yna ddim dyfnder i'r cymeriadau," meddai gan ychwanegu fod y plot fel rhywbeth ar gyfer Heartbeat
"Mae Russell Crowe mewn anhawster gyda'r elfennau comig," meddai'r Times fyda'r Sunday Times yn disgrifio'r ymdrech fel "comedi sy'n drasiedi i bawb".
Darnau gorau
Mae 'gorau' yn awgrymu fod yna bethau eraill da ond crafangu am wellt mae rhywun: Crowe yn y pwll nofio.
Y ci yn pipi ar goesau Americanwr sy'n cwyno fod bwydlen mewn Ffrangeg.
Gwerth ei gweld? Hyd yn oed ar DVD byddai'n rhaid iddi fod yn noson dlawd ar y teli bocs.
|
|