Children of Men (2006) Gwae pawb mewn byd heb blant
Y s锚r
Clive Owen, Julianne Moore, Michael Caine, Chiwetel Ejiofor, Claire-Hope Ashitey, Pam Ferris, Danny Huston, Peter Mullan, Charlie Hunnam
Cyfarwyddo
Alfonso Cuar贸n
Sgrifennu
Alfonso Cuar贸n- wedi ei sylfaenu ar nofel gan P D James
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Ffilm afaelgar tu hwnt gyda'i darlun brawychus ac anghyfforddus o Loegr a'r byd ymhen degawd neu ddau.
Mae rhai wedi ei disgrifio fel 'ffilm orau'r flwyddyn' hyd yn hyn. Yn sicr mae'r fwyaf gafaelgar.
Mae'r byd wedi ei reibio gan ryfel a'i halogi gan lygredd amgylcheddol a moesol.
Gyda'r boblogaeth yn ddiffrwyth nis ganwyd plentyn ers deunaw mlynedd.
Mae tirwedd yn llwyd ac yn niwlog ac yn ddiflas a'r dinasoedd di-raen yn llawn adfeilion gyda ffoiaduriaid mewn cewyll cyhoeddus yn disgwyl cael eu dychwelyd ble daethont .
Mae fel 1984 - ond yn waeth ac yn beryclach.
Y stori
Y flwyddyn yw 2027 a'r byd wedi ei halogi a'i lygru i'r fath raddau nad yw merched yn gallu beichiogi. Y mae dros ddeunaw mlynedd ers geni'r baban diwethaf ac ar gychwyn y ffilm mae'r newyddion teledu yn cyhoeddi saethu "y person ieuengaf ar y ddaear".
Yn Lloegr y mae annibendod cymdeithasol llwyr gyda gwahanol grwpiau yn gwrthryfela ac yn ymderfysgu dan law llywodraeth dotalitaraidd.
Caiff Theo (Clive Owen), ymladdwr yn erbyn y Llywodraeth nes iw'r fab farw ym mhandemig ffliw 2008, ei dynnu o'i anfodd i ganol y trybestod hwn gan ei gyn wraig Julian (Julianne Moore) a'i siarsio i amddiffyn Kee (Clare-Hope Ashitey) yr unig ferch feichiog y gwyddus amdani a'i chludo i ddiogelwch cyn i naill ai derfysgwyr neu awdurdodau gael eu dwylo arni.
Mewn gwlad ddreng a ffasgaidd amhosib dweud pwy sy'n gyfaill a phwy sy'n elyn wrth i wahanol garfannau ymgiprys a'i gilydd. Yr unig un y gall Theo ymddiried ynddo yw cyn gartwnydd gwleidyddol (Michael Caine) sydd wedi troi'n hipi a chefnu ar y gymdeithas lwgr sy'n prysur ddadfeilio o'i gwmpas.
Yn gefndir i hyn oll mae obsesiwn yngl欧n a menfudwyr y mae y Llywodraeth erbyn hyn yn eu halltudio yn heidiau o'r wlad.
Cedwir y creaduriaid truenus mewn cewyll nes eu trosglwyddo i wersyll carchar i'w hanfon o'r wlad.
Y canlyniad Mae mwy nag un wedi bod yn cyfeirio ati fel ffilm y flwyddyn hyd yn hyn.
Mae'n cydio o'r cychwyn cyntaf i'w diweddglo ffrwydrol wrth i Theo geisio cadw un cam ar y blaen i'r rhai sy'n ei erlid. Mae sawl golygfa wnaiff-o-ddianc-? hynod drawiadol.
Er bod hon yn ffilm a chanddi lawer i'w ddweud y mae'n ffilm gyffro o'r radd flaenaf hefyd.
Rhwng y cyffro; yn gelfydd iawn bwydir ni yn ddiarwybod bron a gwybodaeth ychwanegol i greu yn ein meddyliau ddarlun cyfansawdd o gyflwr pethau.
Yr hyn sy'n gwneud y ffilm yn wirioneddol frawychus, fodd bynnag, yw ei bod yn hawdd credu y gallai'r byd newid mewn gwirionedd i'r fath raddau. Mae hynny yn sobri rhywun.
Gyda thirlun y gallwn ei adnabod mae'n gwbl gredadwy i bethau ddirywio i'r graddau a ddarlunnir.
Perfformiadau Mae digonedd o bobl sydd ddim yn or hoff o Clive Owen fel actor yn ei ganmol y tro hwn - ac yn wir y mae yn arbennig iawn fel yr 'arwr o'i anfodd' sydd wedi ei ddadrithio - ond yn cael ei orfodi ymlaen gan amgylchiadau pan yw ar ffo.
Ysgafnheir pethau gan bortread byrlymus Michael Caine o'r cyn gartwnydd gwleidyddol hipiaidd a'i ofal tyner dros ei gragen o wraig.
Ambell i farn
Gwahanol raddau o edmygedd sydd ir ffilm hon gyda hyd yn oed y rhai sydd yn gweld brychau ynddi yn gorfod canmol.
Canmolir yn arbennig berfformiad Clive Owen ac hefyd y golygfeydd o frwydro trefol a'r darlun o drybestod cymdeithasol wrth i gymdeithas ddadfeilio.
O bosib mai'r Sunday Telegraph sydd fwyaf crintachl;yd ei ganmoliaeth trwy ddisgrifio'r ffilm fel un "gwerth ei gweld" ond "yn wag yn ei hanfod".
Yn yr un cywair y mae adolygydd yr Independent yn canmol y golygfeydd dramatig ond yn ychwanegu "Un broblem fach, doeddwn i ddim yn credu dim ohoni."
Yn gwbl groes fe'i disgrifwyd gan yr Independent on Sunday fel, "Y weledigaeth sinematig fwyaf credadwy o'r dyfodol ers Blade Runner."
Yn y Spectator disgrifiwyd taith Theo o ddiymadferthedd i arwriaeth fel un sydd nid yn unig yn deimladwy ond yn argyhoeddi.
Meddai adolygydd y 大象传媒: "Fel y ffilm yn gyffredinol gall yr holl s诺n eich drysu ond y mae yna wirioneddau dyfnach sy'n taro tant."
Darnau gorauYmosod yn y car - a ninnau'r gynulleidfa yn y car gyda'r cymeriadau yn ceisio dianc.
Wylo'r baban yn tawelu gynnau a ffrwydradau'r milwyr.
Ffoi o'r fferm.
Rhai geiriau"Mae'n od iawn beth all ddigwydd mewn byd heb blant."
"Am ddiwrnod . . .".
Gwerth ei gweld? Fel ffilm sy'n cyffroi ac fel ffilm sy'n gwneud ichi feddwl.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|