Mr & Mrs Smith Sws sws - bang bang
Y s锚r Brad Pitt, Angelina Jolie, Adam Brody, Kerry Washington
Cyfarwyddwr Doug Liman
Sgrifennu Simon Kinberg
Hyd 120 munud
Sut ffilm Pennawd yr Observer, "It's the pits, Brad," grynhodd orau deimladau sawl un yngl欧n 芒'r gomedi antur hon am 诺r a gwraig sy'n lladdwyr proffesiynol heb yn wybod i'w gilydd.
Y stori Yn ddiarwybod i'w gilydd mae John a Jane Smith (Brad Pitt ac Angelina Jolie) yn lladdwyr proffesiynol o'r radd flaenaf.
Fodd bynnag, pan fo nhw'n darganfod hynny rhaid iddyn nhw ladd ei gilydd a chyn pen dim try priodas hapus yn frwydr ffiaidd o ddyrnu a saethu a ffrwydro wrth iddyn nhw falu'n ddarnau eu cartref a'u cymdogaeth mewn cyfres o ymladdfeydd gwyllt, ffrwydrol a dramatig.
Ond osgoi'n hynod ddianaf eu hunain.
"Ai dyma ddiwedd eu priodas?" holwch chwithau yng nghyfforddusrwydd eich seddi a thu 么l i'r pecynnau popcorn.
"Be di'r ots beth bynnag?" medda chi wedyn.
Beth yn wir.
Y canlyniad Lot o gicio, lot o strancio, lot o s诺n, lot o ruthro, lot o ffrwydradau, lot o fflamau, lot o ddifrod, lot o goesau Miss Jolie - ond fawr ddim arall mewn ffilm sy'n hir yn cychwyn ac yn hir yn gorffen.
Ac heb fawr ddim o bwys yn ei chanol wrth inni yn gyntaf olrhain priodas gariadus y ddau laddwr - ef gyda'i gelc o arfau dif盲ol a ffrwydron o dan y garej a hithau yn cuddio ei thaclau lladd y tu 么l i'r popty yn y gegin.
Er i'r trelar wneud byrdwn y stori yn amlwg mae'r trobwynt yn eu perthynas, pan yw eu cariad yn troi'n atgasedd ac yn orfodaeth i ladd ei gilydd, yn hir yn cyrraedd a'r ffilm yn prysur droi, wedyn, yn gyfres o ymladdfeydd gwyllt ac amrwd rhwng y ddau.
"Bydd yn rhaid inni ail-wneud pob sgwrs a gawsom ni erioed," meddan nhw wrth geisio wynebu'r dyfodol yn gwybod cyfrinach ei gilydd.
A honno'n her y gallai'r sgriptiwr fod wedi'i hanwesu hefyd.
Y darnau gorau Mae eu sgwrs ddeublyg dros ginio yn ddigon clyfar .
Perfformiadau Brad yn ddel ac yn drwsiadus. Angelina yn goesau'i gyd.
Gwell na'r ddau ydi Vince Vaughn fel lladdwr sy'n dal i fyw adref gyda'i fam - "oherwydd ei bod yr unig ferch y gallai'i thrystio!"
Rhai geiriau "Dyna'r ail dro iti geisio fy lladd i!" "O, tyd yn dy flaen, dim ond bom bach oedd o."
Gystal 芒'r trelar? Y trelar yn addo gwell o ran hiwmor.
Ambell i farn Mae'r pegynnu barn ar ei amlycaf yn yr Observer a gwefan Saesneg y 大象传媒 gyda'r naill yn cwyno mai'r cyfan a gynhyrcha'r chemistry rhwng Pitt a Jolie ydi stink bomb!
Ar y llaw arall mae'r 大象传媒 yn disgrifio'r ffilm fel "cracking comic thriller" y dylai pawb fynd i'w gweld.
Cyfeiria hefyd at gyfuniad o "big laughs" a dialog frathog.
Disgrifwyd y ffilm gan ei hyrwyddwyr fel The War of the Roses yn dod wyneb yn wyneb 芒 True Lives. Gwelodd eraill elfennau o ffilm arall Kathleen Turner, Prizzi's Honouryma.
Ond er bod gwrthdaro rhwng g诺r a gwraig yn y rheini hefyd gwneud cam 芒 ffilmiau rhagorol a gafaelgar fyddai ymestyn y gymhariaeth ymhellach na hynny.
Gwerth mynd i'w gweld? Er yn cael ei chynnig fel un o brif ffilmiau'r haf; ffilm i'r sawl sy'n hawdd iawn ei blesio yw hon.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|