RV: Runaway Vacation (2006) Hunllef gwyliau teuluol
Y s锚r
Robin Williams, Cheryl Hines, Joanna Levesque, Jeff Daniels
Cyfarwyddo
Barry Sonnenfeld
Sgrifennu
Geoff Rodkey
Hyd
98 munud
Sut ffilm
Ffilm chwerthin a chrio am deulu Americanaidd sy'n chwalu yn dod at ei gilydd oherwydd treialon a chanfod yn y broses fod Dad yn hen foi iawn - yr un pryd yn union ac y mae Dad yn darganfod fod ei gymar a'i epil werth y byd i gyd ac yn haeddu mwy o'i sylw.
Y stori
Er yn was da a ffyddlon i gwmni mawr o wneuthurwyr diodydd mae swydd Bob Munro (Robin Williams) dan gymaint o fygythiad y mae'n gorfod hepgor gwyliau teuluol yn Hawaii er mwyn plesio'i fos ffiaidd, Todd Mallory (Will Arnett) a mynychu cyfarfod pwysig ar ran y cwmni yn Colorado.
Mae'n twyllo ei wraig, Jamie (Cheryl Hines), a'i blant, Cassie (Joanna Levesque) a Carl (Josh Hutcherson) i feddwl ei fod yn mynd 芒 nhw ar wyliau mewn cerbyd RV ond maen nhw'n anfodlon iawn 芒'r trefniant newydd a'r anfodlonrwydd hwnnw yn cynyddu wrth i bob math o bethau fynd o le fel tanc carthion yr RV yn ffrwydro gan arllwys ei gynnwys dros Bob a Carl.
Ychwanegir at ofid pawb gan or gyfeillgarwch tad a mam (Jeff Daniels a Kristin Chenowth) erchyll arall a'u plant sy'n teithio - ac yn mwynhau teithio - i'r un cyfeiriad mewn RV.
Y canlyniad Ffilm ffordd-a-gwyliau sydd ddim llawer iawn gwahanol i unrhyw ffilm-ffordd-a-gwyliau arall wrth i'r treialon byd arferol bentyrru ar ben Bob wrth iddo geisio cadw'r ffaith ei fod yn gweithio oddi wrth ei deulu a'r ffaith ei fod ar wyliau oddi wrth ei fos.
Y syndod mwyaf yw nad yw RV cyn waethed ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Mae'n hawdd iawn i'w wylio er gwaethaf ei gymeriadau ystrydebol - o'r tad cydwybodol sy'n gweithio mor galed i gadw ei deulu y mae mewn peryg o'i golli i'r plant ifanc sinigaidd, miniog eu tafod ac anodd eu plesio sy'n dod i sylweddoli yn y diwedd plant mor ffodus ydyn nhw mewn gwirionedd cael rhywun fel Robin Williams yn dad.
Fel llawer o ffilmiau Americanaidd o'r fath mae'r siwgr yn drwchus am y bilsen erbyn y diwedd - yn enwedig pan sylweddolir yn y ffordd fwyaf snobyddlyd a nawddoglyd posibl fod y 'teulu arall' yn bobl gymeradwy iawn mewn gwirionedd.
Ambell i farn "Refreshingly entertaining performance" gan Robin Williams meddai adolygydd y 大象传媒 sydd hefyd yn canmol y sgript.
Ond yn 么l adolygydd arall mae Robin Williams o fewn dwy ffilm s芒l i fod y Chevy Chase nesaf.Dwy seren mae'r Wales on Sunday yn eu rhoi. Yr un modd y Daily mirror sy'n galw'r ffilm yn ddiflasathon - boreathon gan ychwanegu nad yw hon yn daith gwerth ymuno 芒 hi.
Perfformiadau Y teulu'n gwrthdaro'n dda gyda sawl sylw hyfryd o ddirgymus gan y plant
Dydi'r cyw ifanc sy'n fod yn fygythiad i Bob yn ei swydd yn fygythiad o gwbl ac yn wastraff llwyr fel cymeriad.
Y darnau gorau:Reid beic Bob. Wedi i'r ffilm orffen ac wrth i'r enwau lithro dros y sgrin, perfformiad y ddau deulu o g芒n 1946 Bobby Troupe, Route 66. Cofiwch aros.
Rhai geiriauBob wrth ei wraig: "Lle gwnes di ddysgu dreifio felna?" "Sut wyt ti'n meddwl mod i'n cael y plant i'r ysgol?"
"Pam maen nhw'n ein hoffi ni gymaint? Dyda ni ddim yn bobol gl锚n hyd yn oed."
Gwerth ei gweld? Fe chwarddwch ond dydi'r gawod garthion ddim yn ddoniol o gwbwl!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|