Derailed Oddi ar y r锚ls
Y s锚r
Jennifer Aniston, Clive Owen, Vincent Cassel, RZA , Melissa George, Addison Timlin
Cyfarwyddwr
Mikael H氓fstr枚m
Sgrifennu
Stuart Beattie
Hyd
107 munud
Sut ffilm
Gwers fuddiol i ddynion priod ymwrthod 芒 merched sy'n gwenu'n ddel arnyn nhw ar y tr锚n.
Y stori
Ar 么l cyfarfod ar y tr锚n ar eu ffordd i'r gwaith mae Charles (Clive Owen) a Lucinda (Jennifer Aniston) yn syrthio i'r demtasiwn o noson gyda'i gilydd mewn gwesty er bod y naill a'r llall yn briod.
Fel ag y mae pethau'n poethi ar y gwely mae'r dihiryn ffiaidd, LaRoche (Vincent Cassel), yn torri drwy'r drws, yn ymosod ar Charles, yn treisio Lucinda a dianc gyda'u harian.
Ac nid dyna ddiwedd eu trafferthion. Gyda Charles yn 诺r priod dedwydd, a'i ferch yn ei harddegau ar ddialasys (Addison Timlin) mae LaRoche yn gweld ei gyfle i'w odro am bob ceiniog sydd ganddo neu ddatgelu ei gyfrinach i'w wraig (Melissa George).
Y canlyniad Er yn ffilm llawer salach nag y gallai fod mae Derailed yn un syndod o hawdd i'w gwylio er gwaethaf ei holl ystrydebau, ei stori glogyrnaidd a'i hactio prennaidd.
Y darnau gorau Yr ymosodiad yn y gwesty..Charles yn taro'n 么l.
Perfformiadau Does yna'r un o'r actorion yn gwneud cymwynas fawr ag ef ei hun gyda Clive Owen a Jennifer Aniston wedi gwneud fawr fwy na dysgu eu llinellau ond heb gyffwrdd a ni o gwbl o ran teimlad. Mae Cassel o fewn trwch blewyn o droi ei ran ef fel y dihiryn ffiadd, yn dipyn o j么c gyda mosiwns sy'n ymlylu ar fod yn bantomeimaidd ac yn debycach o godi gw锚n yn hytrach na chodi ofn!
Rhai geiriau "Y lein orau ydi Charles yn dweud wrth Lucinda ar gychwyn eu perthynas, "Mi wn芒i fetio ugain dolar y gallai dy gusanu heb gyffwrdd dy wefusau," a cholli'r bet wrth gwrs."Does dim rhaid iti ddefnyddio grym dim ond dangos nerth."
Gystal 芒'r trelar?
Dim gwaeth.
Ambell i farn Ffordd hir a throfaus sy'n mynd i le'n byd yn 么l y 大象传媒.Roedd y Times ychydig yn garedicach trwy nodi fod y syniad o ddyn parchus mewn perygl bob amser yn bodloni cynulleidfaoedd. Ar sail hynny, dywed fod Derailed yn haeddu ei lle yn oriel y ffilmiau B gorau.Ffilm nodweddiadol o'r Pedwardegau yn 么l yr Observer, "Ond fe wnaeth gadw niddordeb i."
Gwerth mynd i'w gweld?
Ffilm syth i fideo yw hi mewn gwirionedd - ond ar bnawn heb ddim gwell i'w wneud . . .
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|