Severance (2006) Yr Office - gyda gwaed
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Y s锚r
Danny Dyer, Laura Harris, Tim McInnerny, Toby Stephens.
Cyfarwyddo
Christopher Smith
Hyd
95 munud
Sut ffilm?
Comedi arswyd o Brydain sy'n cyfuno elfennau o raglen gomedi'r 大象传媒 The Office, 芒 golygfeydd erchyll sy'n ddigon i droi stumog o ddur.
Mae yna neges digon diddorol yn y stori seml, sef, os yw llywodraethau gorllewinol yn cefnogi cwmn茂au sy'n gwerthu arfau i unrhyw un diegwyddor, mae tebygrwydd y bydd hynny yn dod yn 么l i'w brathu.
Y stori
Mae t卯m o weithwyr o swyddfa cwmni arfau amddiffyn o Brydain yn cael ei hanfon ar benwythnos 'adeiladu t卯m' yn Nwyrain Ewrop (Hwngari i fod yn benodol).
Pan fo gyrrwr y bws yn gwrthod mynd 芒 nhw yn bellach lawr hen ffordd drwy'r goedwig, maent yn cael ei gadael.
Wedi iddynt ddod o hyd i'r lle maent yn aros mae eu trafferthion go iawn yn ddechrau gyda nifer o helwyr creulon am eu gwaed ac yn llwyddo i rwygo'r t卯m yn ddarnau - yn llythrennol!
Y canlyniad
Llawer o sbort sy'n gwneud ichi sgrechian a chwerthin yr un pryd. Mae'r stori yn hollol hurt ac anghredadwy (yn union fel y ffilmiau arswyd traddodiadol!), ond mae'r llinellau gwrion a'r sylwadau craff am fyd gwaith yn dod 芒 gogwydd newydd a chyfoes i genre sydd wedi cael ei wasgu'n sych o bob syniad gwreiddiol arall dros y blynyddoedd.
Ambell i farn Yn 么l y Variety, "Dyer a Harris sy'n raddol yn rheoli'r gweithgaredd, ond y gweithredoedd dros ben llestri sy'n gynyddol ddod yn seren y sioe"
"O'r diwedd, mae cyfresi comed茂au arswyd gwych Hollywood fel Final Destination a'r Evil Dead wedi cwrdd a'u cyfarpar Prydeinig" meddai Skymovies.com
Perfformiadau
Nid yw perfformiad Tim McInnerny yn annhebyg iawn i'r cymeriad chwaraeodd yn rhaglenni Blackadder flynyddoedd yn 么l, ond mae'n dal yn eithaf doniol.
Seren y sioe unwaith yn rhagor yw Danny Dyer. Eto, mae'n chwarae cymeriad tebyg i'r hyn mae'n ei wneud bod tro (The Football Factory ac yn y blaen) ond mae rhywbeth yn arbennig o hoffus amdano fel actor ac y mae gosod y math yma o gymeriad mewn amgylchiadau tra gwahanol i East End Llundain yn creu diddordeb.
Gwerth ei gweld?
Er nad yw Severance yn ffilm fydd yn cael ei chofio fel un o ffilmiau gorau'r flwyddyn mae'n sicr yn ymdrech foddhaol gan wneuthurwyr Prydeinig i dorri i'r farchnad ryngwladol broffidiol ar gyfer ffilmiau arswyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|