Spider-Man 2 Gwe sy'n dal
Y s锚r Tobey Maguire, Kirsten Dunst, Alfred Molina, James Franco, Rosemary Harris, JK Simmons
Cyfarwyddwr Sam Raimi
Sgrifennu Alvin Sargent
Hyd 127 munud
Sut ffilm Mae'r ail ffilm am anturiaethau arwr comics Marvel yn ddatblygiad yn hytrach nag yn ailwampiad o'r ffilm gyntaf ond gyda stori afaelgar yn ogystal 芒'r campau cyfrifiadurol disgwyledig..
Y stori Mae Peter Parker (Toby Maguire) yn Spider-Man ers dwy flynedd erbyn hyn a'r pwysau'n dechrau dweud arno wrth i'w ddyletswyddau fel tarian daioni ac amddiffynnwr y byd - wel, Efrog Newydd - ei amddifadu o unrhyw fywyd personol a mygu ei gariad tuag at Mary Jane Watson (Kirsten Dunst).
Cynddrwg yw pethau mae'n cael ei orfodi i roi'r gorau i'w ddyletswyddau corrynol.
Yn anffodus, ni allai fod wedi dewis amser gwaeth i ymneilltuo gyda throseddau yn cynyddu 70% yn Efrog Newydd ac arch-ddihiryn newydd, Dr Octopus (Alfred Molina) yn rheibio a distrywio'r ddinas.
Gwyddonydd da o'r enw Dr Otto Octavius oedd Octopus yn wreiddiol ond wedi troi'n ddrwg wrth i un o'i arbrofion fynd o chwith gan beri iddo gael ei reoli gan bedair braich fecanyddol, nadreddog, y mae wedi eu gosod ar ei gefn.
Ar ben hynny, mae cyfaill Peter Parker, Harry Osbourne (James Franco) a'i lach ar Spider-Man ac yn cynllwynio gyda Dr Ock i'w ddifa.
Ac fel pe na byddai hyn oll ddim digon daw Mary Jane o hyd i gariad newydd a dyweddio.
Dim rhyfedd fod golwg boenus ar Parker am gyfnodau helaeth yn ystod y ffilm.
Y darnau gorau Heb os, cyffro a thyndra 'y darn ar y tr锚n' a'r golygfeydd o'r awyr o Efrog Newydd gyda Spider-Man yn siglo gerfydd ei we o un pen i'r llall.
Mae'r dosbarthu pitsas yn dipyn o hwyl hefyd; symudiadau anhygoel breichiau nadreddog Dr Octopus a Peter Parker drwsgwl a diglem yn baglu dros ei draed ei hun.
Perfformiadau Yr un sy'n cael ei gofio ar 么l gadael y sinema ydi J Jonah Jameson, perchennog y Daily Bugle (J K Simmons) sy'n bloeddio mewn penawdau ar ei staff.
"Rhowch i'r dyn ei arian - a darn o sebon hefyd," meddai wrth dalu i drempyn am stori!
Mae Alfred Molina yn ddihiryn penigamp.
Ac yn y darnau pan fo nhw'n chwilio calonnau'i gilydd mae Kirsten Dunst a Tobey Maguire yn dderbyniol ddwys a theimladwy gan ddod a rhywfaint o ddyfnder emosiynol - hynod greadwy o ystyried yr amgylchiadau! - i ffilm a allai fod wedi bodloni ar fod yn swn a chyffro yn unig gan wneud hon yn gymaint ffilm am Peter Parker ag am Spider-Man.
Gystal 芒'r trelar? Bob tamaid.
Y canlyniad Cyfuniad effeithiol o gyffro, stori a theimladrwydd na fyddai rhywun wedi ei ddisgwyl mewn ffilmiau o'r fath sy'n bodloni gan amlaf ar glyfrwch technegol a chyffro difeddwl.
Ond wrth ganmol rhaid dweud y byddai'r golygfeydd pwysfawr yna rhwng Mary Janes a Parker ar eu hennill o'u naddu.
Ambell i farn Yr addasiad ffilm gorau erioed o gomics Marvel yn 么l gwefan y 大象传媒 gan ychwanegu fod Spider-Man 2 yn well na'r gwreiddiol hyd yn oed gan godi awch yn barod am drydedd ffilm.
Canmolodd Radio 5 aeddfedrwydd y stori a'r ymdriniaeth o deimladau.
Disgrifir Spider-Man 2 fel un o'r eithriadau prin hynny o sequel sy'n rhagori ar y gwreiddiol gan Gary Slaymaker yn y Western Mail.
Cwestiwn neu ddau Sut goblyn mae Dr Octopus yn gwisgo'i g么t bob bore?
A ydi Peter Parker yn fwy o Feri J锚n na Mary Jane?
Gwerth mynd i'w gweld? Ac yn gwerth cael y DVD hefyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|