Basic Instinct 2 (2006) Gwendidau sylfaenol
Y s锚r
Sharon Stone, David Morrisey, David Thewlis, Charlotte Rampling, Hugh Dancy
Cyfarwyddo
Michael Caton-Jones
Sgrifennu
Leora Barish, Henry Bean
Hyd
110 munud
Sut ffilm
Dilyniant i'r Basic Instinct gwreiddiol a wnaed yn 1992 - ond dim hanner cymaint o hwyl na chwarter mor feiddgar ag oedd y ffilm honno yn ei dydd.
Y cefndir
Does dim dadl mai enwogrwydd pennaf y Basic Instinct gwreiddiol oedd "Yr olygfa croesi coesau" yn dadlennu nad oedd Sharon Stone yn gwisgo dillad isaf.
Bu hynny'n destun llawer iawn mwy o drafod na phen-么l noeth Michael Douglas mewn golygfa garu dreisgar.
Rhai o'r farn i Sharon anghofio eu gwisgo y bore hwnnw, eraill iddi 'anghofio' o bwrpas.
Ond erbyn hyn mae hi'n dweud mai trwy dwyll y daeth yr olygfa i fodolaeth.
Mewn cyfweliad dywedodd i'r cyfarwyddwr, Paul Verhoeven, ofyn iddi dynnu ei nicyrs oherwydd bod eu si芒p i'w weld drwy ei ffrog.
Ond mae hi'n mynnu na ddywedodd ef fod ganddo gamera wedi ei anelu fel ag i weld i fyny ei ffrog.
Pan welodd hi ganlyniad y saethu y stori yw iddi hi fynd yn syth ato a rhoi swaden iddo.
Ta beth, gwnaeth yr olygfa fwy dda nac o ddrwg iddi - heb s么n am hyrwyddo'r defnydd ymhlith pobl o'r botymau oedi ac arafu ar beiriannau fideo!
Nid hwn oedd ymddangosiad cyntaf ar ffilm - yn 1980 yr oedd hynny, fel "Pretty Girl on Train" yn Stardust Memories, Woody Allen.
Ei rhan fawr gyntaf oedd gydag Arnold Schwarzenegger yn Total Recall.
Nid oes amheuaeth fod Basic Instinct yn garreg filltir yn 1992. Yn cael ei chofio yn bennaf oherwydd ei chynnwys rhywiol yr oedd hefyd yn ffilm afaelgar a lwyddodd yn rhagorol o safbwynt ei thyndra seicolegol wrth i gymeriad Stone, Catherine Tramell, chwarae mig yn feddyliol gyda'r plismon, Nick Curran (Michael Douglas).
Y stori
Ar gyfer Basic Instinct 2 symudwyd y stori i Lundain ac mewn golygfa agoriadol wallgof mae'r nofelwraig lwyddiannus, Catherine Tramell (Sharon Stone) yn cael pob math o gynyrfiadau rhywiol mewn car sy'n gwibio trwy Lundain gan milltir yr awr a'r p锚l-droediwr, Stan Collymore, wrth ei hochr.
Fel ag yn Basic Instinct daw Tramell dan amheuaeth o lofruddiaeth unwaith eto - yn bennaf oherwydd bod digwyddiadau go iawn yn adlewyrchiad o'r hyn sy'n digwydd yn ei nofelau.
Seiciatrydd o'r enw Michael Glass (David Morrissey) sy'n cymryd lle y plismon Nick Curran (Michael Douglas) gyda Tramell unwaith eto yn chwarae gemau meddyliol ag ef a'i hudo i'w gwely.
Mae llwyth o frawddegau awgrymog a golygfeydd rhywiol wrth i Tramell ddefnyddio Glass i gadw gam ar y blaen i Roy Washburn - plismon ymroddgar a chwaraeir gan David Thewlis.
Y canlyniad Er bod sawl tro yn y stori - hyd at y golygfeydd olaf un - does yma ddim o steil na beiddgarwch y Basic Instinct gwreiddiol yn perthyn i'r dilyniant.
A thra bo Stone yn paredio ei rhywioldeb mae Morrissey yn hynod o ddigynnig.
Mae'r ffilm hefyd yn hesb o unrhyw awgrym o dyndra a'r golygfeydd yn ddigynnig ar wah芒n i'r rhai hynny y mae Thewlis ynddyn nhw.
Os oedd y botymau oedi ac arafu yn hanfodol ar gyfer Basic Instinc ar y botwm prysuro mlaen y bydd bys rhywun wrth wylio Basic Instinct 2!
Ambell i farn
Mae bron bawb wedi'i siomi:
Y mae'n ffilm mor anfwriadol ddoniol ar adegau fel na allwch ei chymryd o ddifrif - Sunday Times.
Mae'n fethiant oherwydd nad yw'n cosi nac yn cyffroi digon - Sunday Telegraph.
Erbyn y diwedd yr oeddwn mor fud oherwydd ei bod yn ffilm mor ofnadwy fe anghofiais wawdio - Independent
Yn sylfaenol, Basic Instinct ydw gyda Morrissey yn dangos ei ben 么l yn lle Michael Douglas - Independent on Sunday
Y mae'r rhyw mor gyffrous a dwy awr o o gael eich dal ar y Tiwb - 大象传媒.
Perfformiadau Ni ellir anghydweld ag adolygydd gwefan Saesneg y 大象传媒 sy'n dweud fod Morrissey yn edrych yn embarrassed tra bo Stone yn embarrassing.
Does dim llawer o amheuaeth mai David Thewlis sy'n dod allan o'r popty wedi crasu orau.
Dau gwestiwn nad oes ateb iddynt yn y ffilmPa mor hir yn union ydi coesau Sharon Stone?Sut y gall rhywun a fu'n byw bywyd mor afradus a Catherine Tramell edrych gystal yn 48 oed?
Rhai geiriauMwya nerfus ydw i mwyaf digyffro mae pobl yn feddwl ydw i.Mae llawer o bobl yn marw yn fy nofelau i - ac yr ydw i wrth fy modd meddwl am ffyrdd diddorol o'u lladd nhw.
Gwerth ei gweld Dim ond o ran hiraeth ac er mwyn cymharu 芒'r ffilm wreiddiol.
A phwy a 诺yr na fydd campau rhywiol a phryd a gwedd Sharon Stone yn ysbrydoliaeth i ferched dros eu 48 oed.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|