| ![ffilm](/staticarchive/88b6e3f86dbba4144d2b37be5da001ed20a65bc1.gif) |
![](/staticarchive/cd19e8b05e3fc27e830a8871a897276a10c4d7d3.jpg)
Take the Lead (2006) Ffoli ar y ddawns - a Banderas
![12A](/staticarchive/2531fe3987071521c701ce286da06afb50991b35.jpg)
![Pum seren allan o bump](/staticarchive/fb3da487e3d861df80e3dd8e3437182ff3d6e7ba.jpg) Allan ar DVD nawr!
Y s锚r
Antonio Banderas, Rob Brown, Alfre Woodard
Cyfarwyddo
Liz Friedlander
Sgrifennu
Dianne Houston
Hyd
117 munud
Adolygiad gan Meleri Sion
Fy hoff ffilm ar hyn o bryd yw Take the Lead ac i ddweud y gwir mae wedi creu argraff arnaf.
Gyda'r actor bendigedig a golygus Antonio Banderas yn chwarae'r prif gymeriad Pierre Dulaine mae'n amhosib i'r ffilm fethu.
Cyffwrdd calonnau Tebyg y byddech yn meddwl nad oes llawer o ddyfnder i'r ffilm ond credwch chi fi, mae'r ffilm yma yn cyffwrdd calonnau drwy s么n am sefyllfaoedd gwahanol yn un o ardaloedd tlotaf America.
Mae'r ffilm yn dilyn dwy stori sydd yn dangos pa mor ffodus ydym ni.
Un o'r problemau yw trais gangiau sy'n ymwneud yn bennaf ag arian a chyffuriau.
Cawn ddarlun clir o realiti anffodus yr ardaloedd tlawd lle caiff pobl eu lladd yn rheolaidd.
Cynnig gobaith Er bod ochr drist i'r stori mae'r neuadd ddawnsio yn cynnig ychydig o obaith ac o hapusrwydd.
Daw athro dawns (Banderas) i'r ysgol i ddysgu plant nad yw'r un athro arall eisiau eu dysgu.
Os ydych chi, fel fi, yn mwynhau gwylio ffilmiau dawns byddwch si诺r o fwynhau'r ffilm gan ei bod yn darlunio dawns fel adloniant cyffrous llawn bywyd a mwynhad.
Mae'r ffilm yn debyg i sawl ffilm ffantastig arall fel Sister Act 2 (Whoopey Goldberg) a Save The Last Dance (Juilia Stiles) ac os bu ichi fwynhau y rheini yr ydych yn si诺r o ddwli ar Take the Lead sydd wedi ei sylfaenu ar stori wir.
Dim ond canmoliaeth Er bod y cast yn cynnwys actorion ifainc anadnabyddus - heblaw am Banderas - ni allaf siarad yn ddrwg am yr un o'r perfformiadau. Maent yn fendigedig.
Gwyliais y ffilm gyda fy chwaer 13 oed a chyda fy mam a gallaf ddweud yn bendant inni ei mwynhau - yn enwedig gyda Banderas yn brif gymeriad.
Byddwn yn argymell Take the Lead i unrhyw un sy'n hoff o Banderas ac o stori芒u rhamantus gydag ychydig o ddyfnder.
Ffilm nos Wener fendigedig!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|