Good Bye Lenin (2003) Cynildeb i'w ganmol
Adolygiad gan Martin Ll Williams Diwrnod trymaidd a chwilboeth arall mewn dinas swnllyd, clawstroffobig a di-drefn.
Do, bum yn trio dod o hyd i ryw fath o ddihangfa un prynhawn diweddar. Peint oer (ond cynnes wedi pum munud - diolch i'r tywydd) mewn gardd dafarn?
Sipian paned o goffi (a honno'n costio crocbris) y tu allan i gaffi gyda bwrdd sigledig, cadair anghyfforddus a budr, a phafin llawer yn rhy gul fel bod dim modd anghofio am lygredd a chyrn diamynedd y moduron sy'n mynd heibio?
Talu gormod am docyn sinema, ceisio peidio ildio i'r demtasiwn o brynu popcorn a diod pop (h.y. sothach) llawer drutach na'r pris "arferol"- a gorfod goddef ambell i fynychwr sinema sy'n rhy anwybodus i ddeall safonau ymddygiad byd y sgrin fawr?
Na- dim diolch.
Un DVD am ddiwrnod am bunt namyn ceiniog- dyna oedd y cynnig yn fy siop ffilmiau leol - diolch i'r tywydd poeth decini, gan fod canran sylweddol o gwsmeriaid arferol y siop yn llawer rhy brysur unai yn yfed peint cynnes - poeth hyd yn oed ar 么l digon o amser, yn colli gwerth hanner cwpanaid o goffi ar fwrdd sigledig neu'n ymdrechu i ddeall llinellau'r actor ar y sgrin fawr ac anwybyddu synau cythruddol y ffilm-byff (ha,ha) drws nesa.
Ennill gwobr Good Bye Lenin - enillydd Gwobr Blue Angel am y Ffilm Ewropeaidd Orau, Berlin 2003 - oedd fy newis. Ffilm gan Wolfgang Becker yn yr iaith Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg.
Fel Gadael Lenin, mae a wnelo'r ffilm hon a phynciau dyrys megis comiwnyddiaeth, cyfalafiaeth, delfrydiaeth a sut mae cenedl a phobl yn ymdopi wedi newid mawr ac anochel.
Hoff olygfeydd Gall darllen adolygiad cynhwysfawr a manwl o ffilm cyn ei gwylio am y tro cyntaf ddifetha'r mwynhad. Felly, (heb s么n gormod am y stori afaelgar) dyma fy hoff olygfeydd a rhagoriaethau yn y ffilm.
Gyda llaw, ni fyddem yn Gwglo gormod cyn gwylio'r ffilm chwaith. Gwell mynd i www.79qmddr.de ar 么l y profiad: Y defnydd ffraeth a wneir o gwmni diodydd pop mwya'r byd ac un o fwytai bwyd sothach mwya'r blaned. "Mwynhewch eich bwyd a diolch yn fawr am ddewis B K"- medd Ariane (Maria Simon) wrth ei brawd, Alex (Daniel Bruhl) - gyda gwaedlif o'r trwyn yn yr ystafell ymolchi. Wrth gwrs, nid cynnwys y frawddeg hon ar ben ei hun sy'n wych ond y ffaith mai dyma yw ei hateb i gwestiwn pwysig ei brawd. Mi chwerddais i yn uchel, ond efallai y byddai Almaenwyr yn ymateb yn wahanol - wn i ddim.
Chris Waddle yn methu cic o'r smotyn. Lloegr yn colli yn rownd gynderfynol Italia 90. Anlwcus Herr Robson!
Y "twyllo" da ei fwriad gyda'r jariau bwyd -hynod o ddoniol a phryfoclyd. Beth yn union sy'n gwneud cenedl yn genedl? Pa mor Brydeinig, Ewropeaidd a multikulti yw Cymru mewn gwirionedd? Picls Spreewald- fel chwilio am nodwydd mewn tas wair wedi'r Wende. Andros o ddoniol pan fo Alex yn dod o hyd i jar...
Cerflun o Lenin yn cael ei gario gan hofrennydd - mam Alex (Katrin Sass) wedi drysu'n lan. Yn fy atgoffa (wel, mymryn bach o leia) o olygfa agoriadol Gadael Lenin: "Mae o dal yna. Dal yn ei briod le..."?!
Bod yn gynnil Ceir defnydd effeithiol o gynnildeb ar adegau. Pan fo'r tad (Burghart Klaussner) yn cyfarfod y fam am y tro cyntaf ers blynyddoedd yn yr ysbyty yna ni chawn wybod cynnwys y sgwrs rhwng y ddau - gwych!
Nid yw pob ffilm Hollywood yn rwtsh pur dros ben llestri, ond diolch i'r drefn na chafodd Good Bye Lenin ei gwneud gan e.e. ambell i gyfarwyddwr Americanaidd di-dalent a kitsch.
Byddai'r olygfa yn dangos y tad yn ymweld a'r fam ar ei gwely angau wedi mynd dros ben llestri ac wedi para am o leiaf ugain munud!
Cynnil a chofiadwy yw'r gerddoriaeth hefyd heb lol melodramatig fel sydd mor gyffredin gyda rhai o ffilmiau Hollywood.
Perfformiad caboledig gan Florian Lukas (Denis)-yn enwedig tua'r diwedd fel y darlledwr newyddion gyda'i fwstash "swydogol".
Wyddoch chi be? Mae'r llyfrau hanes yn anghywir! Mae'r ras lygod drosodd. Sigmund Jahn - yKosmonaut (Stefan Walz) ddaru olynu Erich Honecker ac mae miloedd o Wessis yn heidio i'r DDR am fywyd llai arwynebol a materol.
Felly, os yw eich peint yn gynnes a digymeriad, y t欧 coffi yn ddiflas a difflach a'r dewis yn y sinema mor ragweladwy, yna cofiwch fod dewisiadau amgen yn ystod eich amser hamdden a bod modd dianc rhag hyn oll am o leiaf 116 munud.
Hyd yn oed os yw'r tywydd poeth wedi hen fynd a'r cynnig arbennig o 99 ceiniog wedi gorffen, bydd Good Bye Lenin yn eich difyrru am ddyddiau lawer ar 么l ei gwylio.
Saith allan o 10. Cofiwch ymweld a www.pictiwrs.com er mwyn cofrestru eich marc a datgan barn.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|