The Nanny Diaries (2007) Pwy faga blant?
Y s锚r
Scarlett Johansson, Laura Linney, Paul Giamatti, Nicholas Art, Chris Evans
Cyfarwyddo
Shari Springer Berman, Robert Pulcini
Sgrifennu
Shari Springer Berman, Robert Pulcini - wedi ei sylfaenu ar lyfr gan ddwy Nani go iawn yn Efrog Newydd.
Hyd
98 munud
Sut ffilm
Ffilm ddychan a fydd yn gwneud i bawb sy'n rhoi eu plant yng ngofal Nani deimlo'n euog tra bydd pawb arall yn teimlo'n affwysol o hunangyfiawn.
Fel y dywedodd un adolygydd dydi hi ddim yn arbennig o ddoniol ond y mae datgelu sefyllfa ddychrynllyd.
Y stori
Yn syth ar 么l graddio mewn anthropoleg mae Annie Braddock ddosbarth canol (Scarlett Johansson) yn cicio yn erbyn y tresi trwy wrthod cyngor ei mam i wneud gyrfa iddi'i hun ym myd busnes. Nes dod o hyd i 'job iawn' mae'n cael swydd Nanny gyda theulu sy'n byw ar Upper East Side ariangar Efrog Newydd.
Dan ei gofal mae Grayer (Nicholas Reese Art), mab Mr a Mrs X (Paul Giamatti a Laura Linney) - hi yn hen jadan hunanol sy'n trin Annie fel sl芒f a'i g诺r yn fwy annymunol ac anghynnes fyth yn twyllo'i wraig gyda merched eraill.
Er yn cael pob cysur materol mae Grayer yn gwbl amddifad o gariad a gofal.
Er bod perthynas glos yn cael ei sefydlu rhwng Annie y Nani a Grayer, sy'n hen hogyn bach digon annifyr ar y cychwyn, mae'r teulu yn troi yn ei herbyn - ond hi sy'n ennill yn y diwedd trwy argyhoeddi Mrs X fod i fagu plentyn ei oblygiadau a'i gyfrifoldebau arbennig sy'n gyforiog o'r gwerthoedd Americanaidd gorau.
Y canlyniad Ffilm un dimensiwn a simplistaidd gyda'i moeswers yn cael ei chyflwyno yn y ffordd fwyaf amrwd a siwgwraidd posibl.
Daeth dan lach a gordd sawl beirniad gyda rhai'n ei chyhuddo o godi cyfog arnyn nhw oherwydd ei moesoli melfed.
Ond dydi hi ddim mor ofnadwy o anwyliadadwy ag y dywed rhai. Ei bai mwyaf yw bod yn arwynebol.
Mae'r cyfan yn cael ei ddehongli ar ffurf dyddiadur anthropolegydd o eiddo Anne a dichon i hynny weithio'n iawn yn y llyfr sy'n sail i'r stori ond mae'n gimic nad yw'n ychwanegu at werth y ffilm.
Ambell i farn 'Actorion gwych, ffilm ddifrifol,' yn 么l yr Independent
Y Times a'r Independent on Sunday fel ei gilydd yn ei hystyried yn gyfoglyd.
'Mynd i le'n byd, dim datblygiad ac heb frath,' meddai Deborah Ross yn y Spectator gan ychwanegu fod cariad Anne sy'n byw yn yr un adeilad a Mr a Mrs X yn gwbl "ddi-ddimensiwn".
Ac yn 么l y Guardian mae'r dychan yn drychinebus o arwynebol.
Perfformiadau Mewn ffilm lle nad oes gan neb ran gyda gafael arni mae'n debyg mai Laura Linney sy'n dod drwyddi orau.
Dyw rhan Scarlett Johansson yn rhoi dim cyfle i'r greadures honno ein cyffwrdd o gwbl. Wedi'r cyfan, sut mae cydymdeimlo 芒 rhywun a allai adael a throi cefn ar y cyfan heb achosi dim caledi o gwbl iddi'i hun?
A dydi cymeriad Grayer ddim yn cyffwrdd o gwbl a'n calonnau ychwaith.
Darnau gorau
Pethau prin iawn gyda phregeth foesol Annie drwy'r tedi b锚r yn cyrraedd isafbwynt sy'n codi croen gwydd ar rywun.
Gwerth ei gweld Er mwyn cael cip ar haen ddieithr o fywyd, ydi. Ond gellir disgwyl nes bydd DVD i'w rentu.
|
|