Fred Claus (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y S锚r:
Vince Vaughn, Paul Giamatti, Kevin Spacey, Rachel Weisz, Miranda Richardson
Cyfarwyddo:
David Dobkin
Sgrifennu:
Dan Fogelman
Hyd:
115 Munud
Gyda'r Nadolig ar y trothwy un ffordd o ddathlu yw gwylio'r ffilm newydd Fred Claus.
Yn wahanol i ffilmiau Nadolig yn y gorffennol a fu'n canolbwyntio ar Si么n Corn mae h么n, gan David Dobkin, yn canolbwyntio ar ei frawd, Fred Claus (Vince Vaughn).
Mae Fred yn un gwahanol iawn; a thra bo gan Santa (Paul Giamatti) y swydd bwysicaf yn y byd ni fu Fred mor ffodus yn ei fywyd.
Nawr, yr unig ffordd y gall dalu'n 么l 拢50,000 i'w frawd yw mynd i Begwn y Gogledd i helpu'r coblynnod adeiladu teganau ar gyfer y Nadolig.
Ond cyn hir mae Santa'n sylweddoli fod hwn yn syniad ofnadwy gan fod Fred yn creu argraff wael iawn a neb yn hoff iawn o'i gwmni gan nad oes ganddo yr un cariad a'i frawd at y Nadolig.
Er bod darnau doniol iawn yn y ffilm nid yw'n un gofiadwy o'i chymharu 芒 ffilmiau fel Home Alone.
Ond y mae hi'n ffilm gwerth ei gwylio am reswm arall, yr actorion.
Rydw i'n hoffi ffilmiau eraill Vince Vaughn hefyd - Dodgeball a Wedding Crashers, ac mae'n werth chweil yn y ffilm hon hefyd. Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|