Into the Wild Chwilio am yr hunan yn yr unigeddau
Into the Wild
A
Y s锚r Emile Hirsch, Marcia Gay Harden, William Hurt, Catherine Keener, Vince Vaughn
Cyfarwyddo Sean Penn
Sgrifennu Sean Penn
Hyd 148 munud
Adolygiad Shau Ablettbr>
Ar adegau rwy'n hoffi'r profiad o wylio ffilm sy'n newid ymateb pobl i fywyd a sut mae pobl yn ystyried eu bywydau eu hunan.
Dyna mae ffilm Sean Penn, Into the Wild yn ei wneud.
Fe'i sylfaenwyd ar stori wir Christopher McCandless a adawodd ei deulu a'i fywyd arferol i deithio'r America am ei fod yn grac gyda chymdeithas.
Rhoddodd ei arian i gyd i OXFAM a theithio ar ei ben ei hun yn yn hytrach na chael swydd dda ac aros gyda'i deulu.
Fe'i lladdwyd yn unigeddau Alaska.
Cawn berfformiad ardderchog gan Emile Hirsch, sy'n chwarae'r prif gymeriad.
Yn actor a enillodd Oscar yn 2003 am ei berfformiad yn y ffilm Mystic River gan Clint Eastwood mae Penn yn creu sefyllfaoedd emosiynol iawn yn y ffilm gyda lluniau ardderchog o'r ardaloedd yr ymwelodd Christopher McCandless 芒 hwy yn gefndir.
Mae'n ffilm ardderchog am fwy nag un rheswm. Mae cymaint o emosiwn y tu 么l i'r cymeriad wrth iddo ddarganfod lleoedd unig iawn dros America wrth geisio dod o hyd i bwrpas mewn bywyd.
Hoffais y modd y canolbwyntiodd Sean Penn ar y cymeriad yma yn cwrdd 芒 gwahanol bobl ar ei daith - rhai oedd yn byw bywydau gwahanol iawn i'r gymdeithas yr hanai ef ohoni ac yn ysbrydoliaeth iddo.
Mae'n ein hala ni i sylweddoli bod mwy i fywyd na phrynu pethau drud a chael bywyd cyffyrddus.
Ac er mor ddieithr ei fywyd, gallwn uniaethu 芒'r dyn a sylweddoli na all pobl weld y byd yn iawn heb gael y profiad o fyw heb lawer o arian.
Yn y diwedd dim ond iechyd ac uchelgais sydd eu hangen arnom i fyw yn hapus.
Ffilm yw hon am hunan ddatguddiad sef rhywbeth mae pawb yn chwilio amdano ar ryw adeg yn eu bywydau. Ffilm ysbrydoledig iawn gan Sean Penn.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|