The Edge of Love (2008) Ymateb cymysg i'r 'ffilm Dylan Thomas'
Y s锚r
Keira Knightley, Sienna Miller, Matthew Rhys, Cillian Murphy..
Cyfarwyddo
John Maybury
Sgrifennu
Sharman Macdonald
Hyd
110 munud
Enwogrwydd yn tynnu sylw
Mae'n siwr o fod yn wir na fyddai'r ffilm hon wedi cael y sylw a gafodd y tu allan i Gymru oni bai bod Keira Knightley a Sienna Miller yn gysylltiedig 芒 hi.
Diolch iddyn nhw, fodd bynnag, mae The Edge of Love yn cael ei hadolygu yn eang - ond ni fydd hynny wrth fodd pawb gan mai hynod feirniadol yw'r rhan fwyaf o'r adolygwyr gydag adolygydd y Sunday Times yn crynhoi ymateb eithaf cyffredinol gyda'r frawddeg fachog; "It is all surface and no substance."
Geirniau na fyddant yn mynd i lawr yn dda iawn ymhlith Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd gyda'r Cynulliad Cenedlaethol wedi buddsoddi cryn dipyn o arian yn y fenter.
Yn ardderchog Ond nid pawb sydd mor feirniadol ac yr oedd Sioned Williams ar 大象传媒 Radio Cymru yn hael ei chanmoliaeth hi.
"Yr oedd hi'n ffilm ardderchog," meddai ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul Mehefin 22, 2008.
"Mae yna adolygiadau cymysg wedi bod ond roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ffilm arbennig o dda yn bennaf oherwydd perfformiadau'r actorion," meddai gan anghydweld 芒'r rhelyw o adolygwyr Saesneg nad oes ganddynt air da i'r ffilm na'r perfformiadau.
Sienna'n rhagori Ond yr oedd mewn cytgord a gweddill yr adolygwyr pan ddywedodd fod perfformiad Sienna Miller yn rhagori ar un Keira Knightley:
"Yr oedd hi'n wir wedi dod i'w hoed fel actores achos cyn hyn yr oeddwn i'n meddwl amdani fel rhyw gyn fodel oedd yn enwog am fod yn enwog ond roedd hi wir wedi llwyddo i gyfleu Caitlin a'r hyn oedd yn sbarduno'i hymddygiad a'i thrafferthion," meddai.
"Roedd yn berfformiad llawn bywyd ac egni ac yn hynny o beth - ac yn groes i'r disgwyl - roeddwn i'n meddwl ei bod hi yn llawer mwy effeithiol na Keira Knightley [yr oedd] ei pherfformiad yn llawer mwy undonnog [ond] roedd llawer mwy o amrywiaeth o emosiwn gan Sienna Miller. Roedd hi'n arbennig, chwarae teg," meddai.
Canmol Matthew Rhys Canmolodd hefyd berfformiad Matthew Rhys fel Dylan Thomas:
"Roedd Matthew Rhys yn ardderchog a dydw i ddim yn dweud hynny am ei fod e'n Gymro Cymraeg," meddai.
"Pan ydych chi'n meddwl am Dylan Thomas; yn wahanol i'r rhan fwyaf o feirdd nid jyst ei eiriau sy'n adnabyddus i ni mae ei bryd a'i wedd e, ei lais e, mor gyfarwydd felly roedd hi'n dipyn o gamp dwi'n meddwl i beidio jyst dynwared neu bentyrru ystrydebau wrth ei bortreadu," meddai.
"Yr oedd e'n mercheta, rydym ni'n gwybod hynny, roedd e yn yfed nes bod dim arian ar 么l ganddyn nhw ac roedd hi [Caitlin] ar ben ei hunan yn trio magu'r plant a rhoi lan gyda'r math o fywyd yr oedd hi'n ceisio dygymod ag e ond yn ogystal 芒'r elfen blentynnaidd yna a'r elfen hunanol yma mae o yn llwyddo i gyfleu pam yr oedd Dylan yn atyniadol i ferched ac i bawb o'i gwmpas e.
"Mae e'n bwerus iawn. Mae e wedi llwyddo i gyfleu y carisma yna oedd yn amlwg gan y bardd yn ei fywyd go iawn."
Eisiau mwy Gan gydnabod nad ffilm am Dylan Thomas fel y cyfryw yw The Edge of Love ond am y berthynas rhwng ei gyn gariad (Knightley) a'i wraig (Miller) dywedodd Sioned Williams y byddai hi wedi hoffi i'r ffilm "balu'n ddyfnach" i gymeriad Thomas ei hun.
"I'w enaid e a'i waith," meddai gan ddweud mai "rhyw wgu o'r ymylon braidd" y mae Dylan tra bo'r merched yn cynnal y stori".
"Ond wedi dweud hynny nid dyna oedd nod y ffilm ond yr oeddwn i eisiau mwy am y bardd gan ei fod e'n gymeriad mor ddiddorol," meddai.
"Dyna i mi wendidau'r ffilm ond o ran ei chryfderau yr oedd yn ddrama gyfnod benigamp hyd yn oed os nad ydych chi mor hoff o farddoniaeth ac [yr oedd] yn ail greu y naws yna yn Llundain , beth oedd hi fel i fyw yn y blitz a bywyd ar yr ymyl a'r naws fohemaidd a'r manylion fel y wisg a'r props ac yn y blaen yn ardderchog," meddai.
Rhagor am y ffilm a rhai pethau ddywedwyd amdani. Hywel Gwynfryn yn holi Matthew Rhys.
Cysylltiadau Perthnasol
Dylan Thomas
|
|