The Simpsons Movie (2007) Gwerth chweil - oherwydd y mochyn!
Y S锚r:
Dan Castellaneta, Julie Kavner, Nancy Cartwright, Yeardley Smith, Harry Shearer,
Cyfarwyddo:
David Silverman
Sgrifennu:
Matt Groening, James L Brooks
Hyd:
87 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Y Simpsons!
Y teulu Americanaidd enwocaf yn y byd!
Dechreuodd y rhaglenni teledu n么l yn 1989 a thros y blynyddoedd, gyda help technoleg a chefnogaeth miloedd o bobl, daeth y Simpsons yn ffenomen fyd-eang.
Mae'n anodd egluro llwyddiant y rhaglen ond y mae hi yn portreadu teulu normal i raddau a dilyn digwyddiadau yn eu bywydau nhw.
Mae elfen naturiol iddyn nhw.
Bu s么n am wneud ffilm ers blynyddoedd ac o'r diwedd, cyflawnodd Matt Groening a'i dim o ysgrifenwyr hynny.
Mae'r cymeriadau arferol rydym ni i gyd wedi dod i'w caru yn 么l gan gynnwys Moe, Principal Skinner, Apu a Barney.
Pwnc y ffilm yw pwysigrwydd ailgylchu gan ddatgelu taw Springfield yw'r dref waethaf am wastraff gwenwynig gan nad oes neb ond Lisa Simpson yn ailgylchu.
Ond fel ag y mae pethau'n gwella, mae Homer yn gwneud camgymeriad trwy daflu gwastraff ei fochyn i'r llyn a hynny'n peri i'r llywodraeth roi cromen wydr dros y lle.
Wrth gwrs, mae pawb yn grac 芒 Homer gan gynnwys ei deulu.
A phan fo Homer a'i deulu yn dianc, mae'r llywodraeth ar eu gwarthaf gan orfodi Homer i feddwl am gynllun i arbed y dref a'i deulu.
Er i nifer o bobl fynegi eu siom gyda'r ffilm, am ei bod yn gywir fel pennod deledu, fe hoffais i hi mas draw - oherwydd fy mod yn addoli'r Simpsons!
Y rhan orau yw Homer yn gweiddi "Spider Pig, Spider Pig" ar y mochyn.
Ond cefais fy siomi nad yw'r ffilm yn cynnwys mwy o Mr Burns gan ei fod yn un o gymeriadau gorau'r rhaglen.
Ond os ydych chi'n hoffi'r Simpsons ewch i weld y ffilm pe na byddai ond i weld Homer yn cerdded o beiti yn gweiddi "Spider Pig, Spider Pig"!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
Adolygiad Carys M Davies
|
|