Casino Royale (2006) 00 dyma newid
Y s锚r
Daniel Craig, Eva Green, Mads Mikkelsen, Judi Dench, Jeffrey Wright, Giancarlo Giannini
Cyfarwyddo
Martin Campbell
Sgrifennu
Paul Haggis, Neal Purvis, Robert Wade - yn seiliedig ar nofel Ian Fleming
Hyd
144 munud
Sut ffilm
Bydd y rhai hynny sydd wedi'u magu ar 007 y ffilmiau yn ei chael yn anodd dygymod 芒'r James Bond hwn.
Yn arwr sy'n cystadlu gyda Dr Who yn y rasus ymgnawdoli bu i 007 fyw yng nghyrff rhai mor wahanol 芒 Sean Connery, George Lazenby, Roger Moore, Timothy Dalton a Pierce Brosnan. Ond yr un mor wahanol ag arwr y funud, Daniel Craig.
Er bod m芒n wahaniaethau rhwng y lleill i gyd rhyw geisio cyrraedd at yr un lle oedden nhw ond mae Daniel Craig mor wahanol i bob un ohonyn nhw fel na ellir ei adnabod fel y "Bond - James Bond" ein magwyd ni gydag o.
Oni bai, hynny yw, ichi ddod i'w adnabod yn ei ffurf wreiddiol rhwng cloriau llyfrau Ian Fleming lle mae'n cael ei ddarlunio fel lladdwr oeraidd, dideimlad, calongaled heb ddim o'r hiwmor a'r rhyfyg hawdd cymryd ato a gafwyd ym mhortread Connery.
Gwir, fyddech chi ddim am gyflwyno'ch chwaer i 'Sean' Bond ond allech chi ddim peidio ag edmygu'i ffordd gyda chwiorydd pobl eraill. A'r hyn sy'n od yw fod y rhelyw o fenywod yn y gynulleidfa hefyd yn ei fwynhau er mor ddibris ydoedd o'u rhyw.
A dyna, ym meddyliau llawer y Bond diffiniedig na allodd yr un o olynwyr Connery ei ddisodli na'i newid rhyw lawer.
Go brin fod Daniel Craig wedi ei ddisodli ychwaith - wedi ei newid, ei lwyr newid y mae. Dim ond mewn enw a rhif y mae unrhyw debygrwydd rhwng Daniel Bond a Sean Bond.
Y stori
Er mai'r presennol 么l 9/11 yw'r amser, James Bond ar gychwyn ar ei yrfa sydd yn y ffilm hon.
Casino Royale oedd nofel 007 gyntaf Ian Fleming - ond yr olaf i gael ei throi'n ffilm go iawn. Do, bu ffilm deledu Americaidd gyda Barry Nelson yn 1954 a bu parodi wirion a chwbl fethiannus gyda David Niven yn 1967 ond dyw'r naill na'r llall yn cyfrif dim.
Ta waeth dyma fynd ati o ddifrif y trydydd tro hwn gan gadw'n go agos at stori'r nofel.
Mae Bond yn cael ei osod gan y gwasanaeth cudd i drechu mewn g锚m gardiau Monsieur le Chiffre (Mads Mikkelsen) sydd wrth ei waith bob dydd yn ariannu terfysgwyr a llofruddion ar hyd a lled y byd - yr Undeb Sofietaidd gai ei arian yn y nofel ond gan nad yw 'Rwsia' yn neb bellach ni fyddai'n gwneud synnwyr mwyach ei chael yn ben gelyn.
Y nod yw i Bond odro le Chiffre yn sych o'i arian fel na fydd ganddo ddim dewis ond troi at wasanaeth cudd Lloegr am ymgeledd a datgelu ei gyfrinachau i gyd.
Mae'r ornest fawr yn Casino Royale y teitl ond y g锚m wedi newid o baccarat y nofel i b么cer yn y gobaith y bydd mwy ohonom yn deall honno na'r llall.
Yn dal llinynnau pwrs Bond y mae Vesper Lynd (Eva Green) o'r trysorlys ac un cwbl, gwbl, wahanol i'r Bond girl arferol ac o'r herwydd mae'r berthynas rhwng y ddau yn dra gwahanol hefyd.
Y canlyniad
Er bod digonedd o olygfeydd cyffrous - gyda ras ar draws iard adeiladu a'r ymdrech i atal lori rhag ffrwydro mewn maes awyr yn ddwy goron - mae diddordeb y ffilm hon yn bennaf yn y cymeriad ac yn enwedig y berthynas rhwng Bond a Vesper sydd yn un ddwys a theimladwy o gymharu 芒'r driniaeth ddifeind o ferched yn y ffilmiau cynt.
Gall hyn oll fod yn rhywbeth y bydd dilynwyr y gyfres o ffilmiau hyd yn hyn yn ei chael yn anodd arfer ag ef gan feddwl weithiau tybed oedd angen galw'r arwr hwn yn James Bond - ond gwneud ffilm gyda chymeriad newydd. Trafoder.
Ambell i farn
Go brin y dowch chi o hyd i neb sydd heb ei blesio gyda chlyfrwch mwys fel "premium Bond (Observer) a "00 heaven"(Spectator) yn adlewyrchiad o hynny yn y penawdau.
Heb os, fydd Daniel Craig ddim yn brin o waith am yn hir iawn eto gan iddo blesio pawb yn ddiwah芒n a'r beirniaid yn dynn ar eu tennyn i'w ganmol.
Mae'n union fel pe byddai yna Gystadleuaeth Canmol Daniel Craig nad oedd neb ond yr adolygwyr yn gwybod amdani.
Disgrifia'r New Statesman y ffilm fel yr un sy'n cael gwared 芒'r "glamour and escapism" o'r syniad o Bond gan ganmol y ffilm am fod mor driw i syniad cychwynnol Ian Fleming.
Mae'r Guardian yn galw ar y rhai hynny a fu'n lladd ar Daniel Craig fel dewis o Bond - ac yr oedd llawer ohonyn nhw - am blygu eu pennau mewn cywilydd gan fod y Bond yma yn "ffantastig".
Ond y mae'r adolygydd hwn yn rhoi ei fys ar un diffyg a fydd yn destun gofid i lawer.
Wrth newid y Bond mae Martin Campbell wedi cael gwared bron yn llwyr hefyd 芒'r seiniau cerddorol a gysylltir 芒'r arwr.
Dim ond wrth i'r geiriau olaf lithro dros y sgrin y clywir adlais o gerddoriaeth gyffrous John Barry - ond peryg bod y seiniau hynny hefyd yn sawru'n ormodol o'r congrinero a gr毛wyd gan Connery yn 1962 i fod yn gydnaws a Bond 2006.
Darnau gorau Mae'r darnau cyffro bob un yn ddifai - ar wah芒n i'r un gwirion lle mae calon Bond yn stopio.
Mae yma olygfeydd sy'n amlwg i fod i'n hatgoffa mewn ffordd bryfoclyd o ffilmiau a fu.
Er enghraifft nid rhyw Ursula Andres na Halle Berry sy'n cerdded o'r tonnau i'r traeth y tro hwn ond Daniel Craig ei hun mewn trowsus bach sy'n gwneud ichi ddyfalu p'run ai d诺r m么r ynteu dagrau sydd yn ei lygaid.
Mewn golygfa arall lle mae'n archebu ei Fartini Fodca mae'r gweinydd yn gofyn; "Shaken not stirred?" dim ond i gael yr ateb, "Do I look as if I give a damn." Yr ymwrthodiad llwyraf o'r Bonds a fu.
Do, newidiodd popeth; newidiwyd yn llwyr.
Gwerth ei gweld? Heb os nac oni bai. Mae'n werth ei gweld fel ffilm. Mae'n werth ei gweld fel ffilm Bond hefyd. A fydd y dwyster a'r treiddgarwch cymeriad newydd yn cydio i'r fath raddau ag y cydiodd hwyliogrwydd a ffraethineb drygionus a difeind Sean Connery, cawn weld.
Un peth sy'n sicr, bydd yn ddiddorol gweld i ble yr aiff Daniel Craig a ni nesaf yn yr ymgnawdoliad hwn.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Carys Mair Davies
Adolygiad Dylan Davies
Adolygiad Siwan Davies
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|