Die Hard 4.0 (2007) Dychwelyd gydag arddeliad
Y s锚r
Bruce Willis, Justin Long, Timothy Olyphant, Cliff Curtis, Maggie Q
Cyfarwyddo
Len Wiseman
Sgrifennu
Mark Bomback
Hyd
129 munud
Adolygiad Shuan Ablett
Mae'n rhyw fath o ffasiwn fod actorion enwog o'r Wythdegau yn dod 'n么l i wneud rhagor o ffilmiau.
Dychwelodd Sylvester Stallone fel y paffiwr o'r Saithdegau, Rocky Balboa, ac yn awr wele Bruce Willis yn dychwelyd at wreiddiau'i yrfa yn yr Wythdegau fel John Mclane yn y ffilmiau Die Hard.
Erbyn Hydref 2007 roedd Die Hard 4 ar gael ar DVD ac fe fyddwn yn cymell pawb i brynu am y rheswm syml iawn ei bod yn ffantastig.
Pan es i weld y ffilm yma yn y sinema ganol haf 2007 doeddwn i ddim yn obeithiol iawn gan dybio mai enghraifft oedd hon o actor arall yn dod 'n么l i wneud ychydig am swm enfawr o arian.
Ond cefais sioc ofnadwy gan ei bod yn ffilm dda iawn a'r cyfarwyddwr, Len Wiseman, wedi llwyddo i ddod 芒 Die Hard i'r ganrif newydd ond gan gadw ar yr un pryd yr elfennau oedd yn plesio yn yr Wythdegau a chymeriad John Mclane.
Mae'r ffilm newydd yn s么n am fathau newydd o derfysgwyr gyda dyfais electronig sy'n ei gwneud yn amhosib eu dala nhw.
Mewn ffilm gyda sawl golygfa ardderchog yr orau yn fy marn i yw'r un o Willis yn gyrru car i mewn i awyren hofran.
Fel arfer, mae Bruce Willis yn rhagorol a'r un modd, Justin Long, y cymeriad sy'n feistr ar gyfrifiaduron.
Mae'r berthynas rhwng y ddau yn ardderchog, ac mae golygfeydd doniol iawn rhyngddynt.
Timothy Olyphant yw'r prif derfysgwr ond i fod yn hollol onest dydi hwn ddim yn berfformiad rhagorol - ond mae popeth arall yn y ffilm yn gwneud lan am hynny.
Os ydych yn chwilio am ffilm sy'n gymysgedd o hiwmor, ymladd a chyffro, prynwch y DVD ac ni chewch eich siomi gan fod Bruce Willis fel potel o win, yn gwella wrth heneiddio!
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|