Balch iawn yw'r Arwydd o gael
llongyfarch y Parchedig Emlyn
John ar ei ben blwydd arbennig.
Mae'r gweinidog hynaws
wedi treulio 62 o
flynyddoedd yn yr
ardal a gellid yn
hawdd ychwanegu
rhes o deitlau i roi
darlun llawn ohono
dros y blynyddoedd - Pregethwr,
Ysgrifennydd a Chlerc
Cyngor, garddwr,
heddychwr, pleidiwr
ac ymgyrchwr dros y
Gymraeg.
Ar ben hyn
oll mae'n selog gyda'r
tîm sy'n plygu'r Arwydd yn fisol ac mae'n dosbarthu tua 100 rhifyn yn fisol yn ardal Cemaes. Yn wir mae'n cael ei adnabod gan rai fel Mr Arwydd.
Dyma ddethol ychydig o frawddegau o'r bennod ar Bregethwrs Môn trwy garedigrwydd ei gyd weinidog yng Nghemaes am 45 o'r blynyddoedd, y Parchedig Emlyn Richards :
"wedi'i fagu ym Mro'r Preselau ac, yn bwysig iawn, yn
hannu o deulu enwog y Johnsiaid - teulu gyda gwreiddioldeb naturiol a rhyw lewder dihafal. Y
glewder hwnnw a'i gyrrai ymlaen yn wyneb pob rhwystr".
"Edrych yma, os oedd yna gymhelliad o gwbwl i'r weinidogaeth, cymhelliad o'r tu fas ac nid o'r tu fewn oedd o."
"Taniwyd fflam yr heddychwr, nas diffoddwyd yn enaid Emlyn."
"cyfarfu â Gwyneth - merch o'r un anian ac yn rhannu'r un argyhoeddiadau cenedlaethol."
"bu Emlyn John fel lefain yn holl fywyd y gymdeithas ¬bod o wasanaeth cyffredinol i bawb, heb falio beth fyddai natur y gwasanaeth hwnnw - dyna ystyr ei weinidogaeth."
"rhinwedd na flina Emlyn John eu canmol oedd 'dal ati' a bathodd y gair 'dalifyndrwydd."
"cafodd yr un argyhoeddiad ac angerdd eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall- mae'n amlwg ar y plant Eleri a Gwilym."
|